Derbyn i Ysgolion 2023-2024- Gwybodaeth i Rieni

Symud/Newid Ysgolion y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol. (Symud yn ystod y flwyddyn/canol blwyddyn)

Pan fydd ceisiadau yn cael eu gwneud y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol fel y gwelir yn rhan 2, caiff ceisiadau eu prosesu yn unol â'r trefniadau canlynol.

Mae newid ysgol yn gofyn am ystyriaeth ddifrifol a dylid trafod y mater yn llawn gyda phennaeth ysgol bresennol y plentyn yn y lle cyntaf. Mae angen i'r rhiant/gwarcheidwad ystyried a yw symud ysgol er lles pennaf y plentyn. Bydd yr Adran Addysg a Phlant hefyd yn darparu cyngor os oes angen.

Os bydd rhiant/gwarcheidwad yn dymuno symud plentyn o un ysgol i'r llall, rhaid llenwi'r ffurflen gais ar-lein

Nid yw bob amser yn bosibl cynnig lle i ddisgyblion mewn grŵp blwyddyn mewn ysgol y tu allan i'r cylch derbyn arferol, gan y gallai'r holl leoedd sydd ar gael fod eisoes wedi'u dyrannu i ddisgyblion yn gynharach (h.y. ceisiadau cynharach i symud ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd/blynyddoedd academaidd blaenorol, neu yn ystod y cylch derbyn arferol).

Nid yw symud i ddalgylch ysgol yn gwarantu lle mewn ysgol. Nid yw cael brawd neu chwaer sy'n cael cynnig lle mewn ysgol neu ei dderbyn i ysgol yn gwarantu lle mewn ysgol i frodyr a chwiorydd eraill.

Os oes nifer o blant o un aelwyd yn gwneud cais am symud i ysgol, efallai na fydd yn bosibl cynnig lle mewn ysgol i'r holl blant yn yr un ysgol os yw rhai grwpiau blwyddyn eisoes dros ei nifer derbyn.

Bydd ceisiadau sy'n dod i law cyn y Flwyddyn Academaidd newydd y mae'r cais ar ei chyfer yn cael eu prosesu yn Nhymor yr Haf cyn i'r Flwyddyn Academaidd ddechrau. Cedwir pob lle ar agor am un tymor yn unig. Dylid asesu ceisiadau sy'n dod i law yn ystod y Flwyddyn Academaidd a rhoi gwybod i rieni/gwarcheidwaid am benderfyniad cyn pen 15 diwrnod ysgol neu 28 diwrnod calendr (pa un bynnag yw'r cynharaf) a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus ai peidio. Caiff pob cais ei brosesu yn unol â Chôd Derbyn i Ysgolion Llywodraeth Cymru.

Bydd angen gwirio ceisiadau ar gyfer plant a nodwyd naill ai fel Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant a Oedd yn Arfer Derbyn Gofal, plant â Datganiad, neu Gynllun Datblygu Unigol cyn eu prosesu.

Byddai lle mewn ysgol fel arfer yn cael ei gadw am un tymor ysgol cyn cael ei dynnu'n ôl a'i ailddyrannu ar yr amod bod y dyddiad dechrau yn yr un flwyddyn academaidd y gwnaed cais amdani.

Caiff ceisiadau eu hystyried yn unol â'r gweithdrefnau a'r polisïau derbyn a nodir yn y ddogfen hon. Os bydd mwy o geisiadau na lleoedd ar gael, yna bydd yr Awdurdod yn blaenoriaethu ceisiadau yn unol â’i feini prawf gor-alw a nodir yn y ddogfen hon.

Os na fydd rhieni'n llwyddo i gael lle i'w plentyn yn eu dewis ysgol, fe’u hysbysir drwy e-bost o’r rheswm/rhesymau dros hyn. Bydd yr e-bost penderfyniad hefyd yn nodi eu hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac yn esbonio’r broses apelio gan gynnwys y dyddiad cau i apelio. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses apelio yn y ddogfen hon.

Rhestrau aros ar gyfer ceisiadau y tu allan i'r trefniadau derbyn arferol

Mae ceisiadau sydd wedi methu cael lle mewn ysgol a ddewisir yn cael eu cadw ar y rhestr aros tan ddiwrnod ysgol olaf y flwyddyn academaidd y gwnaethant gais amdani. Rhaid i rieni anfon e-bost at derbyniadau@sirgar.gov.uk os ydynt am i enw eu plentyn gael ei roi ar y rhestr aros.

Grwpiau Blwyddyn Eraill

Bydd ceisiadau am lefydd i ddisgyblion mewn grwpiau blwyddyn sy'n wahanol i’r grŵp blwyddyn arferol yn seiliedig ar ddyddiad geni disgybl yn cael eu hystyried fesul un, a lle y mae hynny’n berthnasol yn ôl y meini prawf ar gyfer gor-alw a esbonnir yn y llyfryn hwn. Mae proses benodol ar gyfer ystyried y ceisiadau hyn a fydd yn cynnwys asesiad gan yr Awdurdod Lleol o amgylchiadau unigol pob achos. Nid yw hon yn broses awtomatig.