Derbyn i Ysgolion 2023-2024- Gwybodaeth i Rieni

ADRAN B - Gwybodaeth am Addysg a Dysgu

1. Tymhorau Ysgol a Dyddiadau Gwyliau ar gyfer 2023/24

Nodwch y gallai manylion y calendr hwn newid o ganlyniad i benderfyniadau polisi’r llywodraeth. Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golledion yn sgîl gorfod newid trefniadau gwyliau oherwydd newidiadau o’r fath.

Tymhorau Ysgol a Dyddiadau Gwyliau ar gyfer 2023/24

 

2. Cwricwlwm yr Ysgol

Yn ystod addysg gynradd a thair blynedd gyntaf addysg uwchradd mae pob ysgol yn cynnig rhaglen eang a chytbwys sy’n cynnwys holl bynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Amcan y cwricwlwm a gynigir ymhob ysgol yw galluogi’r holl ddisgyblion i gyrraedd eu llawn botensial. Yn y bedwaredd a'r bumed flwyddyn yn yr ysgol uwchradd mae’r disgyblion yn parhau i astudio pynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol ond gyda chyfle ar gyfer opsiynau sy'n cydweddu â doniau a diddordebau arbennig y disgyblion.

Ymgynghorir yn llawn â rhieni ynglŷn â’r opsiynau hyn ac mae cynghorwr gyrfaoedd yn gysylltiedig â phob ysgol i gynnig arweiniad. Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys y pynciau craidd: Saesneg, Cymraeg lle mae’n brif gyfrwng ym mywyd a gwaith yr ysgol, mathemateg a gwyddoniaeth. Y pynciau sylfaen eraill yw technoleg, hanes, daearyddiaeth, iaith dramor fodern (mewn ysgolion uwchradd yn unig), cerddoriaeth, celf, addysg gorfforol a Chymraeg, lle nad yw’n bwnc craidd.

Mae’n rhaid i bob ysgol gynnig addysg grefyddol. Mae gan rieni yr hawl i eithrio eu plant o’r ddarpariaeth addysg grefyddol a chydaddoliad mewn ysgol. Dylid gwneud ceisiadau o’r fath i bennaeth yr ysgol.

Egwyddorion Cyffredinol

Mae Sir Gaerfyrddin yn credu yng ngwerth addysgol bod yn hyddysg mewn dwy iaith ac mae'n gryf o blaid cael polisi dwyieithog yn ei hysgolion cynradd. Nod y polisi dwyieithog hwn yn y tymor hir yw addysgu plant i fod yn gwbl ddwyieithog yn eu defnydd o'r Gymraeg a'r Saesneg erbyn iddynt adael yr ysgol gynradd, er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau llawn o'r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.

Dylai'r ddarpariaeth sicrhau bod plant yn gallu cyfathrebu'n hyderus yn y ddwy iaith a'u bod yn ymwybodol o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Mae polisi iaith yr ysgolion uwchradd yn barhad o'r polisi cynradd ac mae'n adleisio statws y Gymraeg yn y cymunedau lle mae'r ysgolion.

Mae'r polisi iaith yn cydnabod bod pwyslais gwahanol ar yr iaith Gymraeg ac ar addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ysgolion y sir. Ei nod yw rhoi cyfle i'r disgyblion barhau â chyfran o'u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn iddynt gael eu hintegreiddio'n llawn i'w cymunedau dwyieithog ar ddiwedd y broses addysgol.

Cwynion Ynghylch y Cwricwlwm Ysgol a Materion Cysylltiedig

Mae gan bob ysgol unigol bolisi ar gyfer ymdrin â chwynion. Yn ddelfrydol, bydd unrhyw bryderon a allai fod gan rieni yn cael eu datrys yn anffurfiol drwy drafodaeth uniongyrchol â’r ysgol. Fodd bynnag, pe bai rhieni yn dymuno gwneud cwyn ffurfiol, mae gan yr ysgol weithdrefnau sefydledig y mae’n rhaid iddynt sicrhau eu bod ar gael.

Mewn perthynas ag ysgolion gwirfoddol a reolir a'r rhai a gynorthwyir, gwahoddir cynrychiolydd o’r Corff Esgobaethol perthnasol i fod yn bresennol, yn unol â'r gweithdrefnau sefydledig, pryd y caiff cwyn ei hystyried.

Os yw’r gŵyn yn ymwneud â materion crefyddol, yna dilynir y drefn uchod, ond byddai’r Pwyllgor Cwynion hefyd yn cynnwys Cadeirydd ac Is-gadeirydd yr Awdurdod Ymgynghorol Sefydlog ynghylch Addysg Grefyddol ac ar gyfer Ysgolion Cynradd Gwirfoddol a Reolir, gwahoddir Cyfarwyddwr Addysg Esgobaethol fel sylwedydd.

Grwpiau Blwyddyn/Oedrannau Disgyblion.

Mae dilyniant disgybl drwy flynyddoedd addysg orfodol yn cael ei rannu i bedwar cyfnod allweddol. Mae'r tabl yn dangos y cyfnodau allweddol ar gyfer yr oedrannau plant a'r rhifau blynyddoedd cyfatebol.

Cyfnod Allweddol Disgrifiad o'r Grwpiau Blwyddyn Oed y mwyafrif ar ddiwedd y flwyddyn
Blynyddoedd Cynnar  M1 | 3 oed Meithrin (Rhan-amser) 4
  M2 | 4 oed Meithrin (Amser llawn) 4
CA1 Derbyn | Babanod 5
  Bl1 | Babanod 6
  Bl2 | Babanod 7
CA2 Bl3 | Iau 8
  Bl4 | Iau 9
  Bl5 | Iau 10
  Bl6 | Iau 11
CA3 Bl7 | Ysgol Uwchradd Bl 1af 12
  Bl8 | Ysgol Uwchradd 2il Flwyddyn 13
  Bl9 | Ysgol Uwchradd 3edd Flwyddyn 14
CA4 Bl10 | Ysgol Uwchradd 4edd Flwyddyn 15
  Bl11 | Ysgol Uwchradd 5ed Flwyddyn 16
CA5 (Chweched
Dosbarth)
Bl12 | Blwyddyn Gyntaf/Chweched Isaf 17
  Bl13 | Ail Flwyddyn/Chweched Uchaf 18