Derbyn i Ysgolion 2023-2024- Gwybodaeth i Rieni

Trefniadau derbyn arferol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023-24

Y manylir ar y rhan hon o'r ddogfen yw gweithdrefnau Sir Gaerfyrddin sy'n amlinellu'r pwynt mynediad arferol i drefniadau Meithrin, Cynradd, Uwchradd a chweched dosbarth ar gyfer y flwyddyn academaidd.

Pwyntiau allweddol ar gyfer Ysgolion Cymunedol ac Ysgolion Gwirfoddol a Reolir.-

  • Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i rieni/Gwarcheidwaid wneud cais i'r Awdurdod am le.
  • Nodir dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yn yr Amserlen Trefniadau Derbyn ar ddiwedd y ddogfen hon.
  • Rhaid gwneud cais erbyn y dyddiadau cau
  • Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r ysgol gynradd o'r ysgol feithrin.
  • Ni fydd disgyblion yn trosglwyddo'n awtomatig i'r ysgol uwchradd o'r ysgol gynradd.
  • Mae ceisiadau a gyflwynir ar ôl y dyddiadau cau yn annhebygol o gael lle yn eu hysgol dewis cyntaf
  • Defnyddir Meini Prawf Gor-alw penodol wrth ddyrannu lle mewn ysgol.
  • Wrth ddyrannu lleoedd, ni roddir ystyriaeth i'r ysgol feithrin a'r ysgol gynradd y mae'r disgybl yn ei mynychu. Y cyfeiriad cartref fydd yn cael ei ystyried wrth dderbyn i ysgolion.
  • Nid yw'n bosibl i unrhyw unigolyn nac ysgol roi sicrwydd ymlaen llaw y bydd lle ar gael i blentyn mewn ysgol. Dylid diystyru sylwadau neu addewidion o'r fath.
  • Anfonir e-bost neu lythyr gan yr Awdurdod yn rhoi gwybod a yw'r cais wedi bod yn llwyddiannus neu wedi'i wrthod.
  • Ni chaiff plentyn ddechrau yn yr ysgol hyd nes bod y rhiant/gwarcheidwad wedi cadarnhau gyda’r Awdurdod ei fod yn derbyn y lle sy'n cael ei gynnig.