Canolfan Seibiant Tir Einon

Wedi'i leoli yn Llwynhendy, Llanelli, mae Tir Einon yn cynnig seibiannau byr sy'n canolbwyntio ar y person i oedolion ledled Sir Gaerfyrddin sydd ag anableddau dysgu, anableddau corfforol, cyflyrau niwroamrywiol ac anghenion iechyd meddwl.

Rydym yn darparu awyrgylch gofalgar a chartrefol sy'n parchu urddas a phreifatrwydd pob unigolyn, wrth hyrwyddo a chynnal eu hiechyd a'u hannibyniaeth.

 

Yr hyn a gynigiwn:

Lleoliad diogel ac addasadwy wedi'i deilwra i anghenion unigol
Cyfle i deuluoedd a gofalwyr orffwys ac ailwefru
Gweithgareddau ystyrlon a chyfeillgarwch
Lle croesawgar sy'n teimlo fel cartref oddi cartref

Ein Dull

Rydym yn canolbwyntio ar gryfderau a dewisiadau pob person, gan ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y person i greu amgylchedd galluogol lle gall unigolion ffynnu.

Rydym wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mynediad at Gymorth

I gael mynediad at ofal seibiant yn Nhir Einon, bydd angen asesiad arnoch gan dîm gwaith cymdeithasol. Siaradwch â'ch gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal, a all drefnu hyn i chi.

Os nad oes gennych Weithiwr Cymdeithasol na Rheolwr Gofal, mae rhagor o wybodaeth am sut i ofyn am asesiad a chael cymorth ar gael yma: SUT I GAEL CYMORTH

Yn dilyn asesiad, os ydych chi'n gymwys i gael cymorth, bydd y gwasanaeth y bydd ei angen arnoch wedi'i gynnwys yn eich cynllun gofal.

Efallai y codir tâl a chynigir asesiad ariannol i chi i benderfynu faint y bydd angen i chi gyfrannu at eich gofal.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am asesiadau ariannol a thalu am ofal yma: ASESIAD ARIANNOL TALU AM OFAL

Cyn i'ch gwasanaeth ddechrau, bydd cyfle gennych i ymweld â staff a chwrdd â nhw i sicrhau bod y gwasanaeth yn addas i chi.

Ein Haddewid a'n Diben

Cymunedau Cefnogi oedolion i dyfu, datblygu a theimlo'n ddiogel, gan berthyn i'w cymuned.