Beth yw Taliadau Uniongyrchol?

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023

Os ydych yn gymwys i gael cymorth i gwrdd â’ch anghenion gofal, gallwn roi'r arian i chi yn lle gwasanaeth. 

Cewch ddefnyddio eich Taliad Uniongyrchol i drefnu cymorth sy'n iawn i chi a'ch ffordd chi o fyw. 

Mae cael Taliad Uniongyrchol yn golygu y gallwch gael mwy o reolaeth dros y cymorth y mae arnoch ei angen, gwneud dewisiadau pwysig ynglŷn â’ch gofal, a chael llawer mwy o hyblygrwydd dros eich cymorth na gyda gofal a drefnir gan y cyngor. 

Mae pobl yn Sir Gaerfyrddin yn defnyddio Taliadau Uniongyrchol i drefnu:

  • Cymorth gyda bywyd bob dydd a gweithgareddau 
  • Cymorth i fynd allan hwnt ac yma
  • Cymorth gyda gofal personol
  • Cymorth i gyflawni nodau personol
  • Offer sy’n gymorth iddynt fyw yn annibynnol

Mae cael Taliad Uniongyrchol yn benderfyniad personol a fydd, gobeithio, yn eich galluogi i gael bywyd o ansawdd gwell. 

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ar gyfer pobl fel chi yr holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen i wneud penderfyniad sy'n iawn i chi. 

Mae gennym dîm Taliadau Uniongyrchol profiadol o fewn y cyngor sydd yno i'ch cefnogi gydag unrhyw ymholiadau neu wybodaeth y mae arnoch ei hangen. Byddwn yn ymdrechu i roi cymaint o gymorth a thawelwch meddwl ag y mae arnoch ei angen, hyd nes y byddwch yn teimlo'n hyderus i reoli trefniadau eich hun. Ond cofiwch, os bydd arnoch angen cymorth neu gyngor yn achlysurol, dim ond galwad ffôn i ffwrdd ydym ni.