Sbwriel Bwyd Brys: Pryder cynyddol yn Sir Gaerfyrddin

Yn ogystal â bod yn hyll, mae sbwriel bwyd brys yn cael effaith fawr ar ein hamgylchedd a'n cymuned. Bob blwyddyn, rydyn ni'n gwario adnoddau sylweddol yn codi sbwriel o'n strydoedd, ein parciau a'n mannau cyhoeddus. Drwy ddeall goblygiadau taflu sbwriel a'r costau cysylltiedig, gallwn weithio gyda'n gilydd i greu amgylchedd glanach ac iachach i bawb.

Pam y gallech chi gael dirwy am daflu sbwriel

Mae gwaredu deunydd pecynnu bwyd brys mewn modd amhriodol yn gallu arwain at ddirwyon sylweddol. Mae pob trosedd taflu sbwriel yn destun Hysbysiad Cosb Benodedig o £125, y mae'n rhaid ei dalu cyn pen 14 diwrnod. Os caiff ei dalu cyn pen 10 diwrnod, mae'r ddirwy yn cael ei gostwng i £95. Gall methu â thalu olygu bod y mater yn mynd i'r Llys Ynadon, lle gall dirwyon gyrraedd uchafswm o £2,500 os caiff y person ei ddyfarnu'n euog.

 

Beth yw sbwriel?

Mae sbwriel yn cynnwys unrhyw eitem sy'n cael ei gwaredu'n amhriodol, o eitemau bach fel stympiau sigaréts a deunydd lapio bwyd i eitemau mwy fel bagiau sbwriel. Mae pob darn o sbwriel yn cael effaith barhaus ar ein mannau a rennir a'n bywyd gwyllt.

 

Effaith sbwriel bwyd brys ar yr amgylchedd

Mae sbwriel bwyd brys yn cyfrannu at faterion amgylcheddol sylweddol:

Llygredd: Mae gwastraff deunydd pecynnu bwyd brys yn cyfrannu at lygredd, sbwriel ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Niwed i fywyd gwyllt: Gall eitemau fel bagiau plastig a chylchoedd pecyn o chwech ddal neu niweidio anifeiliaid neu gael eu camgymryd am fwyd, gan effeithio ar fywyd gwyllt lleol a'u cynefinoedd.

Plastig y môr: Mae deunydd pecynnu bwyd brys yn cyfrif am 88% o'r sbwriel ar hyd arfordir y byd.

Safleoedd tirlenwi: Mae gwastraff bwyd brys yn cyfrannu at orddefnyddio safleoedd tirlenwi, gan gymryd blynyddoedd i ddiraddio ac achosi niwed pellach i fywyd gwyllt.

Hefyd, gall bwyd sy'n cael ei ollwng yn ddiofal—p'un a yw'n weddillion byrgyrs, sglodion, neu galon afal—ddenu plâu fel colomennod a fermin, gan achosi heriau pellach i'n cymunedau.

 

Yr heriau sy'n gysylltiedig â chasglu sbwriel wrth ochr y ffordd

Mae casglu sbwriel wrth ochr y ffordd, yn enwedig deunydd pecynnu bwyd brys, yn creu heriau sylweddol i awdurdodau lleol. Mae gweithrediadau glanhau yn aml yn arwain at gau ffyrdd a thagfeydd traffig, sy'n gallu cael effaith negyddol ar fusnesau lleol. Mae cwynion gan fusnesau bod cyflwr ffyrdd yn dirywio ac am dagfeydd yn gyffredin, gan fod y materion hyn yn effeithio'n andwyol ar eu heffeithlonrwydd gweithredol.

Yng Nghymru, mae cefnffyrdd a thraffyrdd yn cael eu rheoli gan yr Asiantaeth Priffyrdd o dan Lywodraeth Cymru, ac mae'r awdurdodau lleol yn gyfrifol am y ffyrdd eraill. Fodd bynnag, mae sbwriel wrth ochr y ffordd yn peri anawsterau penodol oherwydd y peryglon iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â thraffig cyflym. Gall gwaith glanhau olygu cau lonydd a defnyddio rhwystrau diogelwch ac arwyddion ychwanegol, gan gynyddu costau gweithredol yn sylweddol. Yn ôl Clean Up Britain, gall cynghorau dalu cymaint â £10 am bob £1 sy'n cael ei gwario ar godi sbwriel oherwydd gofynion cydymffurfio o ran iechyd a diogelwch.

Mewn cyfnod o gyfyngiadau cyllidebol difrifol, mae'n dod yn fwyfwy anymarferol i awdurdodau lleol gasglu sbwriel yn rheolaidd. Grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr sydd yn aml yn ysgwyddo'r baich o reoli sbwriel, ac nid oes ganddynt yn aml y gefnogaeth na'r fframwaith polisi angenrheidiol i fynd i'r afael â'r mater yn effeithiol.

 

Pam mae'n bwysig gwaredu sbwriel yn briodol

Mae gwaredu gwastraff yn amhriodol yn niweidio ein hamgylchedd lleol, yn effeithio ar fywyd gwyllt, ac yn lleihau ansawdd bywyd pob preswylydd ac ymwelydd. Drwy waredu gwastraff yn gyfrifol, gallwn weithio gyda'n gilydd i greu Sir Gaerfyrddin lanach a gwyrddach.