Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Rydym wedi cynhyrchu rhestr o gwestiynau cyffredin i helpu i ateb rhai o'r ymholiadau cyffredin a dderbyniwn.
Yn achos yr holl waith adeiladu, perchennog yr eiddo (neu'r tir) dan sylw sy'n gyfrifol yn y pen draw am gydymffurfio â'r rheolau cynllunio a'r rheoliadau adeiladu perthnasol (ni waeth a oes angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio a/neu gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ai peidio).
Felly, bydd methu â chydymffurfio â'r rheolau perthnasol yn golygu y bydd y perchennog yn atebol am unrhyw gamau adferol (a allai gynnwys dymchwel a/neu adfer). Y cyngor cyffredinol yw trafod eich cynigion gyda ni yn y gwasanaeth Cynllunio a Rheoli Adeiladu bob amser cyn dechrau’r gwaith.
Gallwch archwilio ein rhestr prosiectau cyffredin i gael gwybodaeth am gynllunio a chanllawiau rheoleiddio adeiladu.
Bernir bod adeiladau rhestredig o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae adeiladau sydd wedi'u lleoli mewn Ardaloedd Cadwraeth hefyd yn destun rheolaeth arbennig,.
Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer yr holl waith adeiladu yn eich cartref a thrwy ddefnyddio'r offeryn rhyngweithiol uchod, fe welwch y gallwch gynnal nifer o brosiectau o dan reolau datblygu a ganiateir ar yr amod eich bod yn bodloni terfynau ac amodau penodol.
Gan fod y rheolau sy'n llywodraethu hawliau datblygu a ganiateir weithiau'n gymhleth, fe'ch anogir i lenwi'r ffurflen ymholiadau rhagarweiniol. Dilynwch y botwm isod. Dewiswch y ffurflen sy'n berthnasol i'r rhan o'r eiddo a'i chyflwyno i weld a oes angen caniatâd cynllunio. Bydd y ffurflen hon, sy'n cynnwys man i ychwanegu braslun a manylion cryno am y datblygiad, yn cael ei hasesu gan swyddog cynllunio a fydd yn ymateb i'ch ymholiad.
Gallwch wneud mathau penodol o fân newidiadau i'ch tŷ heb orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio. Nid yw hawliau datblygu a ganiateir yn berthnasol i fflatiau, fflatiau deulawr nac adeiladau eraill. Dyma enghreifftiau o 'hawliau datblygu a ganiateir':
- mân estyniadau i'r tŷ (os nad yw'r tŷ wedi'i estyn o'r blaen)
- portshys;
- garejis
- tai allan;
- gatiau, ffensys a waliau
- llawr caled i gerbydau
- tanciau storio olew
- Mathau penodol o dechnoleg adnewyddadwy
- mynediad i is-ffordd
- paentio allanol
- rhai newidiadau o ran defnydd, er enghraifft, newid adeilad diwydiannol cyffredinol i ddefnydd busnes
datblygiadau diwydiannol, er enghraifft, estyniad i adeilad diwydiannol neu osod peiriannau o dan 15 metr o uchder - rhai hysbysebion
- categorïau dymchwel penodol - yn amodol ar hysbysiad ymlaen llaw
- mathau penodol o ddatblygiad amaethyddol a choedwigaeth - yn amodol ar hysbysiad ymlaen llaw
Gallwch archwilio ein tŷ rhyngweithiol i gael gwybodaeth am lawer o brosiectau cyffredin i ddeiliaid tai, neu gallwch archwilio ein teras rhyngweithiol i gael gwybodaeth am fflatiau, siopau ac isloriau. Mae hyn yn darparu canllaw cyflym o ran yr hyn y mae angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer, pa reoliadau adeiladau sy'n berthnasol a'r holl faterion cysylltiedig e.e. rhywogaethau a warchodir.
Gall Gorchmynion Datblygu Lleol helpu i alluogi twf trwy lunio datblygu cynaliadwy mewn modd cadarnhaol a rhagweithiol mewn ardal benodol. Gallant chwarae rhan bwysig wrth gymell datblygiad trwy symleiddio'r broses gynllunio a sicrhau bod buddsoddiad yn fwy deniadol. Mae gennym ddau fan dynodedig yng Nghanol Trefi Rhydaman a Chaerfyrddin.
Yn aml, bydd cynigion i godi adeiladau amaethyddol, adeiladau coedwigaeth, a chynigion cysylltiedig eraill yn elwa o hawliau “Datblygu a Ganiateir” penodol, yn amodol ar hysbysu'r Cyngor ar y ffurflen gais 'cyn penderfynu'.
Gall yr Awdurdod gadw'r hawl i gymeradwyo rhai manylion am leoliad a dyluniad datblygiadau o'r fath lle ystyrir bod angen gwneud hynny.
Ym mhob achos arall, byddai angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio.
Os ydych yn bwriadu dymchwel eich tŷ, rhan o'ch tŷ neu unrhyw dai allan, bydd angen ichi wneud cais am benderfyniad ffurfiol ynghylch a oes angen i ni gymeradwyo'r manylion hyn cyn i chi ddechrau’r gwaith dymchwel.
Y ffordd hawsaf i chi gyflwyno eich cais cynllunio yw ar-lein drwy ddefnyddio gwefan Ceisiadau Cynllunio Cymru.
Mae llenwi'r ffurflen gais ar-lein yn sicrhau eich bod yn ateb dim ond cwestiynau sy'n berthnasol i'ch cais. Bydd eich ffurflen gais gyflawn yn cael ei hanfon yn uniongyrchol atom i'w phrosesu.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau cyn gwneud cais, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar ein canllawiau ar ein tudalen we a'n porth cynllunio yn y lle cyntaf.
Os ydych wedi cyflwyno cais drwy drydydd parti, cysylltwch â'ch asiant neu ymgynghorydd cynllunio.
Os ydych wedi cyflwyno cais yn annibynnol ac yn dymuno trafod hwn â'ch swyddog achos, gofynnwn eich bod yn gofyn am ateb i’ch ymholiadau trwy eu hanfon ar ffurf e-bost at cynllunio@sirgar.gov.uk.
Dylech ganiatáu hyd at 3 wythnos ar ôl cyflwyno eich cais cyn cysylltu â'ch swyddog achos, er mwyn galluogi'r cais i symud ymlaen.
Does dim angen ichi fod yn berchen ar dir i wneud cais cynllunio yn ei gylch. Golyga hyn y gallwch wneud cais cynllunio cyn ichi benderfynu a ydych am brynu darn o dir. Os nad ydych yn berchen ar y tir, yna mae'n rhaid i chi gyflwyno rhybudd i unrhyw berchennog/perchnogion neu bartïon sydd â diddordeb. Bydd yr hysbysiad perthnasol ar gael ichi ei gwblhau ar-lein, o dan 'tystysgrifau perchnogaeth'.
Bydd hyn yn cynorthwyo'ch cais gan fod angen gwybodaeth am berchnogaeth tir yn eich cais cynllunio.
Gallwch benodi asiant i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar eich rhan. Er enghraifft, efallai y byddai'n well gennych i'ch pensaer neu ymgynghorydd cynllunio gymryd cyfrifoldeb drosto. Os ydych chi'n cyflogi gwasanaethau asiant neu drydydd parti, bydd pob gohebiaeth ynghylch eich cais yn cael ei rhoi iddynt yn uniongyrchol.
Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn darparu gwasanaeth llinell gymorth am ddim i gynorthwyo grwpiau cymunedol ac aelodau o'r cyhoedd sy'n gymwys sydd angen help â mater cynllunio. I gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf y maent yn eu defnyddio i benderfynu ar gymhwysedd.
Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys ar gyfer ein gwasanaeth Llinell Gymorth, gallwch ddod o hyd i bob math o wybodaeth a chyngor ar y wefan hon trwy glicio ar gyngor cynllunio.
Mae tri math o geisiadau cynllunio ar gael yn bennaf – cais llawn, cais amlinellol a materion a gadwyd yn ôl.
Os ydych yn credu y byddwch o bosib am godi adeiladau ar safle rywbryd yn y dyfodol, gallwch wneud cais i ddechrau am gymeradwyaeth mewn egwyddor â rhai materion wedi’u cadw’n ôl neu gymeradwyaeth mewn egwyddor â’r materion i gyd wedi’u cadwn ôl a elwir yn ganiatâd cynllunio amlinellol. Os ydych yn derbyn caniatâd cynllunio amlinellol, mae'n rhaid i chi wedyn gyflwyno manylion pellach (a elwir yn ‘faterion a gadwyd yn ôl’) er mwyn caniatáu i’r datblygiad ddechrau. Fel rheol mae'n rhaid i chi wneud hyn cyn pen tair blynedd, fel arall bydd y cyfnod amser sydd ar gael yn dod i ben.
Ni allwch wneud cais Amlinellol am newid defnydd.
'Caniatâd cynllunio llawn' yw enw'r ail fath o gais, lle rydych yn darparu'r holl fanylion angenrheidiol . Os caiff ei ganiatáu, mae'n rhaid dechrau ar y datblygiad o fewn pum mlynedd (neu unrhyw amser arall a bennir yn yr amodau) neu bydd yn dod i ben.
Mae ceisiadau cynllunio deiliaid tai, sy'n ofynnol ar gyfer datblygiadau bach sy’n digwydd o fewn cwrtil preswylfa yn cael eu cyflwyno fel ceisiadau am ganiatâd cynllunio llawn yn unig.
Y ffordd hawsaf i chi gyflwyno eich cais Cynllunio yw ar-lein drwy ddefnyddio gwefan Ceisiadau Cynllunio Cymru.
Mae llenwi'r ffurflen gais ar-lein yn sicrhau eich bod yn ateb dim ond cwestiynau sy'n berthnasol i'ch cais. Bydd eich ffurflen gais gyflawn yn cael ei hanfon yn uniongyrchol atom i'w phrosesu.
Botwm i wneud cais (https://1app.planningapplications.gov.wales/Form/StartPlanningApplication)
Mae Llywodraeth Cymru yn gosod cyfradd symudol o ffioedd y mae modd ei gweld ar y ffioedd ymgeisio.
Dyma enghreifftiau o ffioedd:
- Adeiladu preswylfa £460
- Estyniad / Newid preswylfa bresennol £230
- Newid defnydd £460
- Hysbyseb ar safle busnes £120
Na fydd. Mae gennych yr hawl i ailgyflwyno eich cais heb dalu unrhyw ffi bellach o fewn blwyddyn i ddyddiad cais a wrthodwyd neu cyn pen blwyddyn ar ôl derbyn cais a gafodd ei dynnu'n ôl. Mae'n rhaid i’r cais 'am ddim gael ei ailgyflwyno gan yr un ymgeisydd, bod ar gyfer yr un disgrifiad o ddatblygiad, ac ymwneud â’r un safle â’r un ar gyfer y cais gwreiddiol.
Rydym yn croesawu ac yn annog trafodaethau cyn ichi gyflwyno eich cais cynllunio.
Trwy drafod ymlaen llaw, byddwn yn gallu nodi materion y bydd angen i chi eu hystyried o bosib cyn cyflwyno'ch cais a allai arbed amser ac arian.
Fe'ch cynghorir i ddefnyddio ein gwybodaeth ar y we a'r porth cynllunio i gasglu'r holl wybodaeth. Gallwch wneud ymholiad ynglŷn â chais gynllunio drwy anfon e-bost at cynllunio@sirgar.gov.uk.
Yn achos ceisiadau manylach a chymhleth, byddai datblygwyr ac asiantau yn cael eu cynghori i ofyn am drafodaeth ffurfiol gyda Swyddog Cynllunio drwy e-bostio cynllunio@sirgar.gov.uk. Yna byddwch yn derbyn ymateb i drefnu trafodaeth ffurfiol gyda'r swyddog cynllunio perthnasol sy'n gyfarwydd â'r ardal y mae'r cais yn ymwneud â hi ac sy'n debygol o ddelio ag unrhyw gais yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod trafodaethau o'r fath o'r gwerth mwyaf.
Rydym hefyd yn cynnig cyfle i gymryd rhan yn ein Gwasanaeth Cyn Ymgeisio.
Darperir y cyngor am ffi a bennwyd, gan Swyddogion Cynllunio a bydd yn wrthrychol bob amser, ond barn Swyddog y Cyngor yw'r farn a fynegir ac fe'i rhoddir heb ragfarn i ystyriaeth ffurfiol unrhyw gais dilynol y gellir ei gyflwyno.
Byddwn yn darparu gwybodaeth yn ymwneud â hanes y safle, polisïau cynllunio, penderfyniadau blaenorol a safonau datblygu lle bo hynny'n briodol.
Caiff y cais ei wirio i sicrhau bod y ffurflenni wedi'u llenwi'n gywir a bod y cynlluniau perthnasol ac unrhyw wybodaeth ategol sy'n ofynnol ynghlwm wrtho.
Ar ôl i ni farnu bod y cais yn gyflawn a bod ffioedd wedi dod i law, caiff swyddog achos ei bennu ar eich cyfer ac anfonir cydnabyddiaeth ar ffurf e-bost atoch chi (neu eich asiant). Gallai hyn gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith ar ôl i'ch cais ddod i law.
Ar ôl i'r gydnabyddiaeth gael ei hanfon, bydd y swyddog achos yn cynnal yr ymgyngoriadau angenrheidiol sy'n dueddol o gynnwys Awdurdod Priffyrdd y Sir a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Rydym hefyd yn rhoi gwybod i'r Cynghorydd Sir lleol a'r Cyngor Tref neu Gymuned perthnasol am bob cais cynllunio yn eu hardal.
Mae'n ofynnol hefyd roi cyhoeddusrwydd i bob cais cynllunio a bydd y dull yn dibynnu ar faint y datblygiad.
- 9 preswylfa neu lai: Byddwn naill ai'n ysgrifennu llythyrau i eiddo cyfagos neu'n arddangos hysbysiad safle y tu allan i'r safle neu'n agos ato.
- 10 preswylfa neu fwy: Byddem yn arddangos hysbysiad safle y tu allan i'r safle neu'n agos ato ac mewn papur newydd ar gyfer yr ardal leol.
Dyma'r rhesymau mwyaf cyffredin dros ystyried cais cynllunio yn annilys;
- ffurflenni cais heb eu cwblhau’n llawn
- tystysgrifau perchnogaeth wedi'u cwblhau'n anghywir (o fewn y ffurflen gais)
- gwybodaeth annigonol neu ddiffyg gwybodaeth ategol ofynnol megis: datganiad dylunio a mynediad, arolwg coed, arolwg rhywogaethau a warchodir
- cynlluniau safle a/neu leoliad â manylion anghywir
- heb dalu'r ffi gywir am y cais cynllunio
Penderfynir ar y rhan fwyaf o geisiadau cynllunio o fewn wyth wythnos. Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr nad yw eu cyflwyniadau wedi’u datrys o fewn yr amserlen 8 wythnos wedi cael cais am amserlen estynedig i asesu’r cais. Mae gan yr ymgeisydd yr hawl i apelio i Lywodraeth Cymru drwy'r Arolygiaeth Gynllunio (Cymru) os nad ydynt yn cytuno i ymestyn yr amser.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i bob cais gael sylw cyn gynted â phosibl ac mae'n ein hannog i ddirprwyo'r ceisiadau mwy syml fel nad oes oedi gormodol iddynt. Felly penderfynir ar y rhan fwyaf o’r ceisiadau o dan bwerau a ddirprwyir i'r Pennaeth Cynllunio. Cyflwynir pob cais arall i'r Pwyllgor Cynllunio er mwyn dod i benderfyniad.
Yn y bôn, mae pedwar achos pan fydd yn rhaid cyflwyno cais i’r Pwyllgor Cynllunio;
- Mân gynnig y mae'r Pennaeth Cynllunio yn bwriadu ei gymeradwyo sydd wedi denu tair neu fwy o lythyrau gwrthwynebiad gan aelwydydd ar wahân
- Cynnig mawr y mae'r Pennaeth Cynllunio yn bwriadu ei gymeradwyo sydd wedi denu saith neu fwy o lythyrau gwrthwynebiad gan aelwydydd ar wahân
- Cais ysgrifenedig gan y cynghorydd sir lleol cyn pen 21 diwrnod ar ôl iddo gael ei hysbysu o'r cais yn darparu rhesymau cynllunio perthnasol dros wneud hynny
- Yn ôl disgresiwn y Pennaeth Cynllunio
Bydd y Pwyllgor Cynllunio yn gwneud un o’r canlynol:
- rhoi caniatâd yn ddiamod
- rhoi caniatâd yn amodol ar amodau
- gwrthod rhoi caniatâd
- gohirio penderfyniad hyd nes y derbynnir gwybodaeth bellach neu gynnal eu harchwiliad safle eu hunain
Ar ôl rhoi gwybod i'r ymgeisydd am y penderfyniad, bydd yr hysbysiad o benderfyniad yn cael ei roi ar-lein. Caiff rhestr o benderfyniadau ei chyhoeddi bob wythnos.
Os na fyddwch yn fodlon ar y penderfyniad, gallwch apelio yn erbyn penderfyniad cynllunio.
Mae gennym y dulliau talu canlynol ar gael:
- Dros y Ffôn - Rydym yn derbyn taliadau cardiau credyd / debyd. Os hoffech chi siarad ag aelod o staff yn nhîm yr ariannwr - ffoniwch 01267 228686 yn ystod oriau swyddfa, 9am - 5pm.
- Taliad BACS - e-bostiwch Planningregistrations@sirgar.gov.uk i gael mwy o fanylion ac i sefydlu taliad BACS.
I dalu am gais Cynllunio, dyfynnwch naill ai gyfeirnod y Porth Cynllunio PP - *** neu gyfeirnod y cais cynllunio PL / 00 *** wrth wneud eich taliad.
I dalu ffi ymholiad cyn ymgeisio statudol, dyfynnwch eich cyfeirnod PRE / ****.
Nid oes angen caniatâd cynllunio arnoch o reidrwydd i weithio gartref. Y prawf allweddol yw a fydd cymeriad cyffredinol yr annedd yn newid o ganlyniad i'r busnes.
Os oes unrhyw un o'r datganiadau canlynol yn wir, bydd angen caniatâd cynllunio yn ôl pob tebyg:
- ni fydd eich cartref yn cael ei ddefnyddio'n bennaf fel preswylfa breifat mwyach
- bydd eich busnes yn arwain at gynnydd amlwg mewn traffig neu ymwelwyr
- bydd eich busnes yn cynnwys unrhyw weithgareddau sy'n anarferol mewn ardal breswyl
- bydd eich busnes yn tarfu ar eich cymdogion ar oriau afresymol neu'n creu mathau eraill o niwsans fel sŵn neu arogleuon
Pa bynnag fusnes rydych chi'n ei redeg o'ch cartref, p'un a yw'n cynnwys defnyddio ystafell fel eich swyddfa bersonol, darparu gwasanaeth gwarchod plant, ar gyfer trin gwallt, gwneud dillad neu addysgu cerddoriaeth, neu ddefnyddio adeiladau yn yr ardd ar gyfer storio nwyddau sy'n gysylltiedig â busnes - y prawf allweddol yw: a yw'n gartref yn bennaf o hyd neu a yw wedi dod yn eiddo busnes?
Os oes gennych unrhyw amheuaeth gofynnwn i chi wneud cais am Dystysgrif Defnydd Cyfreithlon ar gyfer y gweithgaredd arfaethedig, i gadarnhau nad yw'n newid defnydd a bod y defnydd yn gyfreithlon o hyd.
Os ydych yn dymuno adeiladu ystafell ardd/tŷ haf i'w ddefnyddio fel man gwaith, bydd angen i chi ystyried y rheolau o ran adeiladau allanol a'r rheoliadau adeiladu ar gyfer adeiladau allanol.
Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno ffurflen ymholiad rhagarweiniol dros e-bost fel gwiriad anffurfiol i weld a fydd angen caniatâd cynllunio. Dilynwch y botwm isod.
Os ydych yn dymuno adeiladu unrhyw un o'r uchod, bydd angen i chi ystyried y rheolau o ran adeiladau allanol.
Ystyrir bod adeiladau allanol yn ddatblygiadau a ganiateir, nad oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer, yn amodol ar derfynau ac amodau.
Yn ogystal, bydd angen i chi ystyried Rheoliadau Adeiladu: Adeiladau Allanol.
Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno'r ffurflen ymholiad isod dros e-bost fel gwiriad anffurfiol i weld a fydd angen caniatâd cynllunio.
Os ydych yn dymuno adeiladu unrhyw un o'r uchod, bydd angen i chi ystyried y rheolau o ran adeiladau allanol.
Ystyrir bod adeiladau allanol yn ddatblygiadau a ganiateir, nad oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer, yn amodol ar derfynau ac amodau.
Yn ogystal, bydd angen i chi ystyried Rheoliadau Adeiladu: Adeiladau Allanol.
Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno'r ffurflen ymholiad isod dros e-bost fel gwiriad anffurfiol i weld a fydd angen caniatâd cynllunio.
Os ydych yn dymuno adeiladu unrhyw un o'r uchod, bydd angen i chi ystyried y rheolau o ran adeiladau allanol.
Ystyrir bod adeiladau allanol yn ddatblygiadau a ganiateir, nad oes angen caniatâd cynllunio ar eu cyfer, yn amodol ar derfynau ac amodau.
Yn ogystal, bydd angen i chi ystyried Rheoliadau Adeiladu: Adeiladau Allanol.
Rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno'r ffurflen ymholiad isod dros e-bost fel gwiriad anffurfiol i weld a fydd angen caniatâd cynllunio.
Ystyrir bod addasu'r atig ar gyfer eich tŷ yn ddatblygiad a ganiateir, nad oes angen cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer, yn amodol ar derfynau ac amodau.
Fodd bynnag, mae angen caniatâd cynllunio pan fyddwch yn ymestyn neu'n newid yr atig a'i fod yn mynd y tu hwnt i derfynau ac amodau penodedig..
Bydd angen i chi gael cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu hefyd.
Mae'n bosibl y bydd gwaith ar atig yn effeithio ar ystlumod. Mae angen i chi ystyried rhywogaethau a warchodir wrth gynllunio gwaith o'r math hwn. Efallai y bydd angen arolwg, ac os yw ystlumod yn defnyddio'r adeilad, efallai y bydd angen trwydded.
Rydym yn eich annog i gyflwyno Ffurflen Ymholiad Rhagarweiniol dros e-bost fel gwiriad anffurfiol i weld a fydd angen caniatâd cynllunio.
Fel arfer, nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer trwsio, gosod neu adnewyddu drysau a ffenestri (gan gynnwys gwydr dwbl).
Os yw'r adeilad yn rhestredig bydd angen caniatâd.
Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu ar gyfer pob math o eiddo.
Mae gennym sawl dull ar-lein sy'n eich galluogi i chwilio am geisiadau a phenderfyniadau cynllunio a'u gweld.
- Gallwch lawrlwytho rhestr gynllunio wythnosol o geisiadau a phenderfyniadau newydd.
- Gallwch chwilio am geisiadau cynllunio a'u gweld yn ôl rhif cais, cyfeiriad, plwyf, ward, dyddiadau drwy ddefnyddio'r tab 'chwilio manylach'.
- Gallwch chwilio drwy fap i ddod o hyd i geisiadau yn y gorffennol a'r presennol.
Byddwch yn gallu gweld llythyr eglurhaol, ffurflenni cais, cynlluniau, dogfennau ategol, arolygon ac ati.
Nid yw gwybodaeth gynllunio'n cyfateb i hanes lawn unrhyw safle ac ni ddylid ei defnyddio yn lle'r wybodaeth a geir drwy chwiliad pridiannau tir lleol a ffurfiol.
Hoffem glywed eich barn fel y gallwn ei ystyried wrth ystyried ceisiadau cynllunio.
Os hoffech wneud sylwadau ar ddatblygiad arfaethedig, mae'n rhaid i chi wneud hynny yn ystod y cyfnod ymgynghori o 21 diwrnod. Gall unrhyw un wneud sylwadau, cyn belled â'u bod yn nodi eu manylion personol, a gall y sylwadau fod yn wrthwynebiadau, yn gefnogaeth neu'n sylwadau am y cais. Ni allwn dderbyn sylwadau gan unrhyw un sy'n dymuno aros yn ddienw.
Ystyrir yr holl sylwadau, o blaid ac yn erbyn cais, os ydynt yn codi ystyriaethau cynllunio perthnasol, gan y gellir ystyried y rhain yn ystod y broses asesu.
Oherwydd faint o ohebiaeth sy'n dod i law, ni fyddwn yn cydnabod bod eich sylwadau wedi dod i law nac ymateb i'r sylwadau na'r cwestiynau a gyflwynir nac yn eich hysbysu o'r penderfyniad. Gallwch olrhain datblygiad y cais cynllunio ar-lein gan gynnwys y cofnod penderfyniadau.
Ystyrir yr holl sylwadau, o blaid ac yn erbyn cais, os ydynt yn codi ystyriaethau cynllunio perthnasol, gan y gellir ystyried y rhain yn ystod y broses asesu.
Gweler y categori 'sylwadau' yn ein cwestiynau cyffredin i gael rhagor o wybodaeth.
Wrth wneud sylw ar gais, cofiwch ystyried y pwyntiau canlynol.
- Bod yn glir – Mae'n bwysig nodi pa gais cynllunio y mae eich sylwadau'n ymwneud ag ef, felly dylech gynnwys y cyfeirnod, cyfeiriad y safle a'r disgrifiad yn eich ymateb
- Bod yn ffeithiol - Dylai'r holl sylwadau fod yn seiliedig ar ffeithiau, felly mae'n bwysig eich bod yn edrych ar gynlluniau'r datblygiad arfaethedig cyn i chi gyflwyno eich sylwadau.
- Ymwneud â chynllunio - Dim ond sylwadau sy'n ymwneud â materion cynllunio (a elwir yn "Ystyriaethau Perthnasol") y gellir eu hystyried. Os nad ydych yn sicr, mae'n well nodi eich holl bryderon, a gadael i'r Swyddog Achos bennu pa rai sy'n berthnasol na cholli rhywbeth a allai fod yn berthnasol.
- Bod yn berthnasol i'r cynnig - Dim ond sylwadau sy'n ymwneud â'r cais cynllunio perthnasol y gellir eu hystyried
- Dylech egluro a yw'n effeithio ar eich eiddo a sut – Gall unrhyw un wneud sylwadau. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo y bydd cynnig yn effeithio ar eich eiddo, mae'n ddefnyddiol esbonio sut (gan gynnwys y berthynas rhwng eich eiddo a safle'r cais). Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer Statws Person â Buddiant. Gweler Person â Buddiant
- Nodi eich pryderon yn llawn – Ni fydd sylwadau sy'n dangos cefnogaeth neu wrthwynebiad fel arfer yn dwyn fawr o bwys. Mae'n bwysig felly eich bod yn egluro pam yr ydych yn cefnogi neu'n gwrthwynebu cynnig. Sylwer, ar gyfer ceisiadau a gyflwynwyd ar 1 Ionawr 2020 neu ar ôl hynny, rhaid i apeliadau trydydd parti gynnwys rheswm sy'n ymwneud â materion yr ydych wedi'u cynnwys mewn sylwadau a wnaed cyn penderfynu ar y cais
- Eich gwybodaeth - Dylech fod yn ymwybodol na fydd cyflwyniadau dienw yn cael eu hystyried. Mae'n bwysig cynnwys eich enw, eich cyfeiriad post a'ch manylion cyswllt (sylwer, os darperir cyfeiriad e-bost, y byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod yn hapus i dderbyn gohebiaeth bellach yn y fformat hwnnw)
Os hoffech wneud sylwadau ar ddatblygiad arfaethedig, mae'n rhaid i chi wneud hynny yn ystod y cyfnod ymgynghori o 21 diwrnod.
Mae unrhyw sylw a gyflwynir fel rhan o ystyriaeth gynllunio ar gael i'r cyhoedd (fel arfer ni fyddwn yn cyhoeddi eich enw, eich rhif ffôn na'ch cyfeiriad e-bost).
Bydd sylwadau nid yn unig ar gael fel rhan o gofnod parhaol y ffeil bapur ond hefyd yn ein harchif gyhoeddus sydd ar gael ar-lein drwy ein gwefan.
Mae'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio yn cael eu pennu gan Uwch Swyddogion sydd â phwerau dirprwyedig. Penderfynir ar oddeutu 20% o geisiadau cynllunio gan y Pwyllgor Cynllunio.
Os ydych wedi gwneud sylw ysgrifenedig ar gais cynllunio, a'i fod i'w benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio, efallai y gallwch gofrestru i siarad yn y cyfarfod. Caniateir i hyd at ddau wrthwynebydd siarad am unrhyw gais am hyd at bum munud yr un. Bydd gan yr ymgeisydd, neu ei gynrychiolydd, gyfnod tebyg o bum munud i ymateb.
Nid oes proses apelio ar gyfer trydydd partïon yn erbyn penderfyniad na'r amodau sydd wedi'u gosod ar ganiatâd.
Os ydych yn amau bod rhywun yn adeiladu, yn gwneud newidiadau, neu'n defnyddio tir neu adeiladau heb ganiatâd cynllunio, mae croeso i chi anfon neges e-bost atom: planning.enforcement@sirgar.gov.uk gan gynnwys yr holl fanylion yr ydych yn ymwybodol ohonynt.
Os oes angen caniatâd cynllunio ac na ofynnwyd amdano, bydd ffeil ymchwiliadau gorfodi yn cael ei hagor i ystyried a oes unrhyw hwylusrwydd er budd y cyhoedd i'r Cyngor gymryd camau gorfodi ffurfiol.
Gallwch. Dylid cyfeirio unrhyw gŵynion neu ganmoliaeth ynglŷn â'r gwasanaeth at y Tîm Cwynion a Chanmoliaeth drwy anfon neges e-bost: complaints@sirgar.gov.uk
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen Cwynion a Chanmoliaeth.
Dylid nodi na fydd unrhyw bryderon a rennir mewn perthynas â chais cynllunio cyfredol yn cael eu hystyried fel arfer nes bod y cais wedi'i benderfynu'n derfynol.
Nid oes angen caniatâd cynllunio arnoch i adeiladu ffens, wal neu gât ar yr amod nad yw'n fwy nag 1 metr o uchder os yw wrth ymyl priffordd a ddefnyddir gan gerbydau, neu 2 fetr o uchder mewn mannau eraill. Yn ogystal, nid oes angen caniatâd cynllunio arnoch fel arfer i blannu gwrych oni bai bod amod cynllunio penodol yn effeithio ar eich eiddo a osodir ar ganiatâd cynllunio, ac os felly gallwch wneud cais i gael gwared ar yr amod.
Os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, neu os yw'r eiddo yn rhestredig neu os oes unrhyw amodau cynllunio'n effeithio arno dylech anfon neges e-bost atom: cynllunio@sirgar.gov.uk
Ni allwn argymell asiantau neu benseiri cynllunio penodol. Gall y gwasanaethau a ddarperir a'r prisiau a godir amrywio, felly fe'ch cynghorir i geisio dyfynbrisiau gan nifer o gyflenwyr gwahanol.
Y ddogfen polisi cynllunio lleol bresennol ar gyfer y sir yw Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin.
Ystyrir bod estyniad neu ychwanegiad i'ch tŷ yn ddatblygiad a ganiateir, nad oes angen cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer, yn amodol ar derfynau ac amodau. Mae terfynau ac amodau gwahanol ar gyfer estyniadau cefn ac estyniadau ochr, ac ar gyfer estyniadau unllawr ac estyniadau o fwy nag un llawr.
Fel arfer, nid oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio i osod to newydd ar eich tŷ nac i osod ffenestri yn y to.
Mae'r rheolau o ran datblygiadau a ganiateir yn caniatáu ar gyfer newidiadau i'r to heb fod angen caniatâd cynllunio, yn amodol ar derfynau ac amodau.
Fel arfer, nid oes angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio i osod to newydd ar eich tŷ nac i osod ffenestri yn y to.
Mae'r rheolau o ran datblygiadau a ganiateir yn caniatáu ar gyfer newidiadau i'r to heb fod angen caniatâd cynllunio, yn amodol ar derfynau ac amodau.
Nid oes cyfyngiadau ar osod patios, llwybrau neu leiniau caled eraill ar dir wrth gefn neu wrth ochr eich tŷ. Ond mae cyfyngiad ar y math o ddeunydd y gallwch ei ddefnyddio i orchuddio'r tir o flaen gweddlun blaen eich tŷ, os yw’n arwain at briffordd.
Y cyfyngiadau yw:
- naill ai mae’n rhaid i’r wyneb fod yn fandyllog neu’n hydraidd neu
- wedi’i gynllunio i ddargyfeirio dŵr i wyneb hydraidd neu fandyllog o fewn ffin eich cartref.
Rhoddwyd y cyfyngiadau hyn ar waith oherwydd pryderon y gall mathau penodol o arwyneb caled gyfrannu at lifogydd dŵr wyneb. Er enghraifft, mae arwynebau megis concrid yn anhydraidd – h.y. nid ydynt yn caniatáu i ddŵr suddo drwyddynt ac yn lle hynny, mae dŵr yn llifo ar ffyrdd a phalmentydd.
Os ydych am amnewid wyneb caled anhydraidd sydd o flaen gweddlun blaen eich tŷ ac yn arwain at briffordd, caniateir i chi greu ardal fach - hyd at bum metr sgwâr yn ystod unrhyw gyfnod o chwe mis - o arwyneb caled heb fod angen i chi gydymffurfio â’r cyfyngiadau a amlinellir uchod. Ceir canllawiau technegol pellach yn, “Guidance on the permeable surfacing of front gardens”. Yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol, 2008.
Mae arweiniad technegol pellach ar gael yn, “Cynllunio arweiniad i ddeiliaid tai (.pdf) ''(Tudalen 15).
Os ydych yn byw ar ffordd ddiddosbarth (nid ffordd A, B neu C) fel arfer nid oes angen caniatâd cynllunio arnoch i greu mynedfa newydd neu newid mynedfa sy'n bodoli eisoes oni bai y bydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch priffyrdd neu'n cynnwys gwaith peirianyddol megis cloddio neu godi lefelau tir presennol.
Os yw eich eiddo ar ffordd ddosbarthiadol bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio i greu mynediad newydd neu newid mynediad sy'n bodoli eisoes a bydd angen i chi gael caniatâd cynllunio cyn bwrw ymlaen â'ch cais am gwrb isel.
Fe'ch cynghorir i gyflwyno ffurflen ymholiad rhagarweiniol i ni ar ebost cynllunio@sirgar.gov.uk i ofyn am gadarnhad a fydd angen caniatâd cynllunio ar eich cynnig. Dilynwch y botwm isod.
Lle mae angen caniatâd cynllunio, fydd angen i chi cwbwlhau ffurflenni cais cynllunio.
Ar ôl i chi gwblhau eich ymholiad neu'ch proses gymeradwyo gyda chynllunio, gallwch gyflwyno cais am gwrb isel ar-lein. Bydd angen i chi ddarparu copi o'ch hysbysiad penderfyniad ynghylch cais cynllunio gyda'ch cais.
Cyhoeddir Rhybudd Perthi Uchel. Bydd yn manylu ar unrhyw gamau ar unwaith ac unrhyw fesurau ataliol sy'n ofynnol yn y dyfodol ynghyd â therfynau amser perthnasol.
Os yw perchennog y gwrych yn gwrthod cydymffurfio â thelerau'r Hysbysiad, Rydm gyda bŵer i gwblhau’r gwaith gan adennill y costau oddi wrth y perchennog.
Oes. Mae'r Ddeddf yn ein galluogi i amrywio neu dynnu rhybudd yn ôl os yn briodol. Gall berson(nau) gysylltu â ni ar unrhyw adeg gyda manylion o newid mewn amgylchiadau gan ofyn i'r rhybudd gael ei amrywio. Gall hyn fod oherwydd bod newid yn effaith y gwrych ar y naill berson neu'r llall, neu oherwydd bod y ddau berson wedi cytuno ar ddatrysiad sy'n golygu bod yr Hysbysiad yn ddiangen. Byddwn yn hysbysu pob person sydd â rhesymau dros y penderfyniad. Mae gan y ddau brif berson hawl i apelio yn erbyn yr amrywiad neu yn erbyn tynnu'r Rhybudd yn ôl.
Gallwn roi rhybudd ffurfiol i berchennog y gwrych gan nodi beth sy’n rhaid iddynt ei wneud i ddatrys y broblem. Fel arfer, byddai hyn yn ymwneud â gostwng uchder y gwrych.
Bydd y Rhybudd yn rhoi cyfnod amser penodol i gwblhau’r gwaith a bydd yn nodi uchder uchaf mwyaf derbyniol y gwrych o hynny ymlaen.
Mae methu â chyflawni'r gwaith sy'n ofynnol gennym yn drosedd, a allai, wrth dderbyn erlyniad, arwain at ddirwy o hyd at £ 1,000 a dirwy lai y dydd, o hynny ymlaen.
Byddwn yn tynnu Rhybudd yn ôl os yw’n amlwg bod gwrych wedi’i dynnu neu ei ddinistrio neu nad yw bellach yn ‘wrych uchel’ fel y’i diffinnir yn y ddeddfwriaeth h.y. pan fod coed / llwyni wedi'u tynnu i lawr a does dim dwy neu fwy o goed neu lwyni bytholwyrdd mewn rhes, dros 2m o uchder nac yn rhwystr i olau neu fynediad.
Mae gennym dudalen we bwrpasol ar gyfer Coed sy'n cynnwys gwybodaeth am Orchmynion Gwarchod Coed.
Mae gennym hefyd fap sy'n dangos yr holl orchmynion gwarchod coed ac ardaloedd cadwraeth presennol.
Mae'r holl gwynion a wneir i ni am faterion gorfodi rheolau cynllunio yn gyfrinachol ac nid ydynt yn cael eu datgelu i wrthrych y gŵyn. Mewn rhai amgylchiadau, fodd bynnag, efallai y caiff eich manylion eu datgelu i adrannau eraill y Cyngor (er enghraifft Diogelu'r Amgylchedd, Rheoli Adeiladu, Priffyrdd) os oes ganddynt bwerau i helpu i ymchwilio i'ch cwyn. Os gwneir cwyn am achos sy'n mynd cyn belled ag apêl neu erlyniad , efallai y bydd angen tystiolaeth wrthych i gynyddu'r siawns o gael canlyniad cadarnhaol, ond byddai'n rhaid cysylltu â chi am hyn ymlaen llaw i'ch galluogi i ystyried eich sefyllfa.
Ni ymchwilir i gwynion dienw fel arfer oni ystyrir y gellir arwain at niwed cynllunio difrifol.
Sylwch y gall materion gorfodi gymryd cryn dipyn o amser i'w datrys oherwydd y weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn a nifer yr achosion y mae'r Cyngor yn eu derbyn.
Bydd y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rhoi i'r achwynydd yn rheolaidd drwy e-bost neu lythyr pan wneir penderfyniad allweddol.
Rydym yn blaenoriaethu pob achos yn seiliedig ar natur y mater fel y nodir yn ein datganiad Gorfodi, einnod yw ymweld â'r safle o fewn y terfynau amser a bennwyd.
Mae angen blaenoriaethu cwynion o ran effaith a niwed. Felly, byddwn yn ymweld â'r achosion mwyaf brys yn gyntaf.
Ar ôl canfod bod rheol wedi'i dorri neu heb ei dorri, bydd y swyddog gorfodi sy'n delio â'r achos yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost.
Bydd y tîm gorfodi yn rhoi gwybod i chi am ganlyniad unrhyw gamau gweithredu pan fydd yr ymchwiliad wedi'i gwblhau. Dim ond pan fydd penderfyniad allweddol yn cael ei wneud y cewch eich diweddaru o bryd i'w gilydd.
Dylid cofio nad yw cyflawni datblygiad heb ganiatâd cynllunio yn drosedd a gall gymryd amser sylweddol i unioni achos o dorri rheolau cynllunio. Fodd bynnag, bydd y tîm gorfodi yn ceisio datrys achosion o dorri rheolau cynllunio mor hwylus â phosibl o fewn cyfyngiadau'r ddeddfwriaeth bresennol.
Ystyrir bod y wybodaeth a gyflwynir i ni sy'n rhan o gŵyn yn ddata personol, sydd felly wedi'i heithrio o ddarpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (fel y'i diwygiwyd) ac nid oes yn rhaid i'r Cyngor ei datgelu. Yr unig fanylion a ddatgelir yw natur y gŵyn a wneir, h.y. wal wedi'i hadeiladu heb ganiatâd cynllunio.
Gall Adain Rheoli Adeiladu'r Cyngor roi Cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu ar gyfer datblygiad os yw'n cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu. NID yw hwn yn rhoi Caniatâd Cynllunio. Mae rheoliadau adeiladu a chaniatâd cynllunio yn faterion cwbl ar wahân ac yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth hollol wahanol. Mewn llawer o achosion, bydd angen caniatâd cynllunio hefyd a byddai angen gwneud cais amdano ar wahân.
Mae hawl i apelio yn erbyn hysbysiadau gorfodi cynllunio ac mae hyn, yn ogystal â'r gwaith y mae ei angen i ymchwilio'n briodol i rai achosion, yn golygu y gall y broses o ddatrys achos o dorri rheoliadau gymryd amser hir. Rydym yn cydnabod pa mor rhwystredig y gall yr oedi hwn fod a byddwn yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i achwynwyr yn y cyfnodau allweddol ond mae'n bwysig deall bod angen i ni fynd drwy weithdrefnau a gofynion y system gyfreithiol ar gyfer cynllunio.
Bydd yr honiad o dorri rheolau yn cael ei asesu i sefydlu'r canlynol:
A oes angen rhagor o wybodaeth?
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen rhagor o wybodaeth er mwyn cael rhagor o fanylion gan berchennog y tir. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd yn rhaid i ni gyflwyno Hysbysiad Torri Amodau Cynllunio. Bydd y wybodaeth hon wedyn yn cael ei defnyddio i benderfynu a dorrwyd rheol cynllunio ai peidio.
A oes rheol cynllunio wedi'i dorri?
Nac oes - Bydd yr achos yn cael ei gau a byddwch chi a pherchennog y tir yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig yn esbonio'r rhesymau dros hyn. Ni ellir cymryd camau gorfodi os nad oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer y gwaith neu'r newid defnydd.
Oes - Yn dibynnu ar ddifrifoldeb yr achos o dorri'r rheolau a'r amgylchiadau unigol, gellir cymryd camau gweithredu gwahanol.
Yn y rhan fwyaf o achosion byddwn yn ceisio datrys yr achos o dorri rheolau drwy drafodaeth gan fod yn rhaid i ni roi cyfle rhesymol i berchnogion tir 'unioni' y sefyllfa.
Lle mae trafodaethau wedi methu neu os nad yw hynny'n opsiwn, yna mae'n rhaid i ni ystyried a oes angen cymryd camau gorfodi ffurfiol.
Mae Gorfodi Rheolau Cynllunio yn bŵer disgresiwn y byddwn ond yn ei ddefnyddio os gallwn ddangos bod yr achos o dorri rheolau yn achosi niwed difrifol i gyfleusterau cyhoeddus. Bydd y camau a gymerir yn dibynnu ar ddifrifoldeb y niwed.
Mae'n bwysig nodi na fydd pob achos o dorri rheolau cynllunio yn arwain at gymryd camau gorfodi, yn enwedig os nad oes tystiolaeth gadarn bod yr achos o dorri rheolau yn 'niweidio' cyfleusterau cyhoeddus.
Mae'n rhaid cymryd camau gorfodi o fewn 4 blynedd mewn perthynas â chodi adeiladau, ac o fewn 10 mlynedd mewn perthynas â newidiadau i'r defnydd (oni bai ei fod yn ymwneud â newid defnydd i fod yn breswylfa), a thorri amodau. Nid oes terfyn amser ar gyfer cymryd camau gorfodi mewn perthynas ag achosion o dorri deddfwriaeth adeiladau rhestredig.
Bydd hysbysiad gorfodi ffurfiol yn cael ei gyflwyno i berchennog yr eiddo ynghyd ag unrhyw barti arall sydd â buddiant cyfreithiol yn y tir neu'r adeilad dan sylw. Bydd yr hysbysiad gorfodi yn nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i 'unioni' y broblem ac yn rhoi cyfnod cydymffurfio.
Mae gan y sawl sy'n derbyn yr hysbysiad gorfodi o leiaf 28 diwrnod i apelio yn erbyn yr hysbysiad i'r Arolygiaeth Gynllunio. Os cyflwynir apêl, ni allwn gymryd camau pellach hyd nes y penderfynir ar yr apêl. Nid yw'n anarferol i'r broses apelio gymryd sawl mis.
Byddwn bob amser yn amddiffyn unrhyw apêl yn egnïol ond os caiff ei chaniatáu (h.y. os bydd yr apelydd yn ennill), ni allwn gymryd unrhyw gamau pellach. Fodd bynnag, os caiff ei gwrthod, bydd yr hysbysiad gorfodi yn dod i rym, er y gall yr arolygydd cynllunio newid ei ofynion, gan gynnwys y cyfnod cydymffurfio.
Mae'n drosedd peidio â chydymffurfio â'r hysbysiad a gallai arwain at erlyniad. Fodd bynnag, mae camau o'r fath yn gofyn am dystiolaeth i brofi bod y drosedd yn cael ei chyflawni gan unigolyn neu gwmni a enwir 'y tu hwnt i amheuaeth resymol’. Weithiau gall casglu'r dystiolaeth hon fod yn ymarfer hirfaith sy'n cymryd tipyn o amser ac mewn rhai achosion efallai na ellir osgoi oedi cyn y treial.
Gellir cyflwyno'r math hwn o hysbysiad os na chydymffurfiwyd ag amod a osodwyd ar ganiatâd cynllunio. Mae'r hysbysiad yn nodi pa amodau na chydymffurfiwyd â hwy, yn nodi pa gamau sydd eu hangen ac yn rhoi cyfnod cydymffurfio.
Mae'n dod i rym ar unwaith o'r adeg y caiff ei gyflwyno ac mae'n drosedd peidio â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad. Yr unig hawl i apelio yw i'r uchel lys. Os bydd diffyg cydymffurfio, gall y cyngor gymryd achos cyfreithiol yn y llys ynadon a all osod dirwy o hyd at £1,000 ar gollfarn ddiannod.
Nac ydy. Er nad ydym yn caniatáu adeiladu unrhyw beth sy'n wahanol i gynnig sydd â chaniatâd cynllunio ac mae'n hynod annoeth a mentrus i wneud hynny, nid yw caniatâd cynllunio yn cynrychioli'r unig fath o gynnig ar y safle hwnnw a allai fod yn dderbyniol i'r awdurdod. Felly, byddai camau gorfodi ond yn cael eu cymryd yn erbyn adeilad gwahanol ac anawdurdodedig i'r hyn a gymeradwywyd yn flaenorol pe bai'n cael ei ystyried y bydd yn arwain at niwed annerbyniol gennym ni. (Gweler isod yr hyn a ystyrir yn niwed annerbyniol).
Nid yn ôl cyfraith cynllunio. Ac eithrio yn achos arddangos hysbysebion neu waith heb awdurdod ar adeiladau rhestredig, nid yw gwneud gwaith adeiladu neu newid defnydd heb y caniatâd cynllunio angenrheidiol yn weithred droseddol ac, i ddechrau, nid yw'n destun cosbau fel dirwyon neu garchar. Yn ddiweddarach yn y broses, os cyflwynwyd hysbysiad gorfodi ac na chydymffurfiwyd ag ef, yna gellir arwain at achos llys a chosbau fel dirwyon. Fodd bynnag, mae gan awdurdod lleol bŵer disgresiwn i orfodi rheolau cynllunio awdurdod a dylid ond ei ddefnyddio i unioni unrhyw niwed a achosir gan fethiant i gydymffurfio â rheolau cynllunio. Pan nad oes niwed, neu ei fod yn ddibwys, yn gyffredinol ni ellir cyfiawnhau camau gorfodi. Byddai niwed sy'n golygu bod yn rhaid cymryd camau gorfodi fel arfer yn digwydd pan fydd yr achos o dorri rheolau dan sylw yn arwain at wyriad annerbyniol oddi wrth bolisïau cynllunio perthnasol a fyddai wedi cyfiawnhau gwrthod caniatâd cynllunio pe bai wedi bod yn destun cais cynllunio.
Yn y lle cyntaf, yn gyffredinol nid cosbi'r rhai sy'n torri'r rheoliadau yw amcan gorfodi rheolau cynllunio ond yn hytrach unioni unrhyw niwed a achosir gan weithredoedd anghyfreithlon. Fodd bynnag, mae pobl nad ydynt yn cael y caniatâd cynllunio angenrheidiol ar gyfer rhywbeth y maent yn ei wneud mewn perygl o wynebu canlyniadau difrifol o ganlyniad i gamau gorfodi a all fod yn gostus iawn, a gall methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi arwain at achos llys a chosbau cyfreithiol. Gall hefyd fod yn anodd neu'n amhosibl gwerthu eiddo os nad yw caniatâd cynllunio wedi'i gael neu ei ddilyn yn gywir.
Mae rheoliadau cynllunio yn caniatáu i rywun wneud cais am ganiatâd cynllunio yn ôl-weithredol ar ôl iddo wneud gwaith neu ddefnydd anawdurdodedig ac mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni dderbyn ac ystyried y cais. Caiff ceisiadau ôl-weithredol o'r fath eu hystyried yn ôl eu rhinweddau cynllunio yn yr un modd â cheisiadau eraill ac nid ydynt yn fwy tebygol o gael eu cymeradwyo na'u gwrthod am eu bod yn cael eu cyflwyno ar ôl y digwyddiad. Gellir rhoi caniatâd cynllunio yn ôl-weithredol os ystyrir bod y cais cynllunio yn dderbyniol ond os nad yw hyn yn wir a bod caniatâd yn cael ei wrthod yna mae'n debygol y bydd camau gorfodi yn dilyn.
Nac oes. Efallai na fydd angen caniatâd cynllunio o gwbl ar gyfer rhai mân newidiadau, megis gosod ffenestr yn wal tŷ sy'n bodoli eisoes. Mewn achosion o'r fath, ni fydd unrhyw gamau gorfodi yn cael eu cymryd.
Nac ydy. Mae cyfraith cynllunio yn caniatáu i rai meintiau a mathau o adeiladau, a rhai newidiadau defnydd ddigwydd heb fod angen caniatâd cynllunio gennym ni, a chyfeirir at y rhain weithiau fel 'datblygiad a ganiateir’. Er enghraifft, mae llawer o estyniadau domestig ac adeiladau allanol i dai yn ddatblygiadau a ganiateir, ond dylai'r rhai sy'n dymuno gwneud y gwaith gadarnhau hyn cyn dechrau unrhyw waith adeiladu. Os byddwch yn cwyno i'r tîm gorfodi rheolau cynllunio am adeilad neu ddefnydd sy'n cael ei wneud, bydd swyddogion yn asesu i ddechrau a oes angen caniatâd cynllunio arno. Os yw'n fath neu'n faint nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer, efallai am ei fod yn ddatblygiad a ganiateir, yna ni fydd yn bosibl inni ystyried cymryd camau gorfodi, na chael mynediad at ei dderbynioldeb fel y gwneir gyda chynnig cais cynllunio.
Nid oes gennym y pŵer o dan y ddeddfwriaeth gynllunio i atal gwaith adeiladu yn y rhan fwyaf o achosion, gan gynnwys, er enghraifft, datblygiadau anawdurdodedig mewn eiddo preswyl, megis adeiladu garej/lolfa haul/tŷ allan. Mewn amgylchiadau eithriadol o brin, mae pŵer i gyflwyno hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddatblygiad anawdurdodedig gael ei atal, lle mae niwed cynllunio difrifol yn cael ei achosi.
Os byddwch yn dymchwel unrhyw beth fel estyniad, garej, adeilad allanol, wal, neu ffens ac yn rhoi rhywbeth union yr un fath yn ei le, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch o hyd. Bydd hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau. Nid yw'r ffaith bod rhywbeth tebyg neu union yr un fath yn bodoli o'r blaen yn ffactor perthnasol wrth benderfynu a oes angen caniatâd cynllunio ai peidio.
Nac ydy. Fodd bynnag, os yw adeilad yn rhestredig, mae'n drosedd gwneud gwaith sy'n ymestyn, newid, dymchwel ac ati unrhyw ran o'r adeilad heb gael caniatâd gennym ni yn gyntaf.
Os cyflwynir hysbysiad gorfodi sy'n ei gwneud yn ofynnol, er enghraifft, cael gwared ar ddatblygiad anawdurdodedig, mae peidio â chydymffurfio â gofynion yr hysbysiad yn yr amser a roddir yn drosedd. Dylid nodi bod gan y troseddwr yr hawl i apelio yn erbyn hysbysiad o'r fath.
Na allwn. Os yw'r gweithgaredd yn achosi rhwystr i'r briffordd, dylid cysylltu â'r heddlu.
Ni allwn ymwneud â materion mewn perthynas ag anghydfodau ffiniau neu honiadau o dresmasu ar eich eiddo. Os caiff estyniad ei adeiladu ar eiddo cymydog yr ydych yn credu bod rhan ohono wedi'i adeiladu ar eich tir chi, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr/ymgynghorydd cyfreithiol ynghylch sut i fynd ar drywydd y mater. Yn yr un modd, os yw cymydog wedi codi sgaffaldiau ar eich eiddo i'w galluogi i adeiladu estyniad, nid oes gennym unrhyw bŵer i weithredu.
Nid oes angen caniatâd cynllunio ar gyfer parcio carafán/cartref modur o fewn cwrtil eiddo domestig. Mae cyfyngiadau ar faterion o'r fath yn aml yn cael eu cynnwys yn weithredoedd eiddo ond nid yw hyn yn rhywbeth y mae gan y Cyngor unrhyw bwerau gorfodi drosto. Byddai'n rhaid cymryd camau sifil mewn achosion fel y rhain.
Ni fyddai angen caniatâd cynllunio i aelod o'r teulu neu ffrind ddefnyddio carafán/cartref modur fel llety byw ategol ar y brif annedd.
Ni allwn ymwneud â materion mewn perthynas â hawliau mynediad ac nid oes gennym bŵer i weithredu. Os yw cymydog wedi gosod ffens o amgylch rhan o'i ardd neu dramwyfa breifat a rennir y credwch fod gennych hawl i gael mynediad iddi, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr/ymgynghorydd cyfreithiol ynghylch sut i fynd ar drywydd y mater.
Yn yr un modd, os bydd eich cymydog yn adeiladu ffens neu wal dros lwybr troed cyhoeddus neu hawl tramwy cyhoeddus, nid oes gennym y pŵer i gymryd unrhyw gamau mewn perthynas â'r gorgyffwrdd. Efallai y bydd Adran Briffyrdd y Cyngor yn gallu ymchwilio i ddatblygiadau sy'n ymddangos fel petaent yn gorgyffwrdd â'r llwybr troed cyhoeddus, ac efallai y bydd yr Adran Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus yn gallu ymchwilio i unrhyw rwystr honedig i hawl tramwy cyhoeddus.
Rydym ond yn gallu ymchwilio i ffens neu wal derfyn anawdurdodedig honedig os yw'n uwch na chyfyngiadau uchder datblygiad a ganiateir. Gellir cael rhagor o wybodaeth am Hawliau Datblygu a Ganiateir ar wefan Gov.uk.
Mewn llawer o achosion, ac eithrio gosod ffenestr newydd sy'n agor ar y llawr cyntaf ar ochr yr eiddo, nid oes angen caniatâd cynllunio i osod ffenestri newydd, ychwanegu ffenestri newydd neu osod ffenestri to mewn eiddo preswyl, hyd yn oed os yw'r eiddo o fewn Ardal Gadwraeth. Fodd bynnag, os yw eiddo yn rhestredig, byddai angen caniatâd adeilad rhestredig. Mae'n ddigon posibl y bydd angen caniatâd cynllunio. Mewn rhai achosion, mae'n bosibl bod Hawliau Datblygu a Ganiateir, sy'n caniatáu i bobl osod ffenestri/ffenestri to newydd, wedi'u dileu, ac os felly byddai angen i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio. Fe'ch cynghorir bob amser i gysylltu â ni cyn i chi wneud gwaith o'r fath.
Fel arfer, gall perchennog eiddo ddefnyddio ystafell yn ei eiddo fel swyddfa gartref, heb orfod gwneud cais am ganiatâd cynllunio. Ni allwn ymwneud â materion mewn perthynas â chynnwys eich gweithredoedd ac nid oes gennym bŵer mewn perthynas â'r mater. Os yw cymydog wedi gwneud rhywbeth sydd, yn eich barn chi, yn cael ei wahardd neu ei gyfyngu gan y gweithredoedd, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr/ymgynghorydd cyfreithiol ynghylch sut i fynd ar drywydd y mater.
Nac ydym, nid ydym yn ymchwilio i'r anghydfodau hyn. Ni allwn ymchwilio i faterion yn ymwneud â deddf waliau cydrannol a materion cyfamod ychwaith, i gael cymorth ag unrhyw un o'r materion hyn, cysylltwch â'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth i gael cymorth a chyngor.
Cynllunio
Cwestiynau Cyffredin - Cynllunio
Ymestyn / newid eich cartref
- Tystysgrif datblygiad cyfreithlon
- Gwasanaeth cyngor cyn ymgeisio
- Caniatâd cynllunio deiliad tŷ
- Eiddo cyfagos / waliau cydrannol
- Ystlumod ac adar sy'n nythu
- Ardaloedd Cadwraeth
- Newidiadau i adeilad rhestredig
Chwilio am gais cynllunio
Cyflwyno sylwadau ar gais cynllunio
Cyflwyno cais cynllunio
Gwasanaeth cyn cyflwyno cais
Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio (PAC)
Cyswllt cynllunio priffyrdd
Torri rheolau cynllunio
Brosiectau Cynllunio Mawr
Adeiladu tŷ newydd
Sut y gwneir penderfyniadau cynllunio
Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy
Apeliadau cynllunio
Polisi Cynllunio
- Cynllun Datblygu Lleol 2006 - 2021
- Adroddiad Adolygu
- Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
- Tai Fforddiadwy
- Ardaloedd Tai Fforddiadwy
- Adroddiad Monitro Blynyddol (AMB)
- Cyflenwad tir ar gyfer tai
- Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC)
Fy Un Agosaf - Gwybodaeth Cynllunio
Cyngor ecoleg
Adeiladau rhestredig
- Deall rhestru
- Pryd mae'n ofynnol cael caniatâd adeilad rhestredig?
- Addasiadau i Adeiladau Rhestredig
- Gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig
- Beth sy'n digwydd ar ôl i benderfyniad ynghylch caniatâd adeilad rhestredig gael ei wneud
- Gwaith ar adeilad rhestredig heb ganiatâd
- Cynnal a chadw ac atgyweirio
- Ffynonellau gwybodaeth eraill
Enwi a rhifo strydoedd
Ynni Adnewyddadwy
Cynllun Datblygu Lleol 2018 - 2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ac Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd
- Cytundeb Cyflawni
- Safleoedd Ymgeisio
- Adroddiad yr Arolygydd a Mabwysiadu'r Cynllun
- Cyflwyno'r Cynllun, ac Archwiliad Annibynnol
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo
- Strategaeth a Ffefrir (Ymgynghoriad Cyhoeddus Cyn Adneuo)
- Datblygu sylfaen o dystiolaeth
- Cwestiynau cyffredin
- Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo Cyntaf
Caniatâd cynllunio i ddatblygwyr
- Adran 106: Cartrefi Fforddiadwy
- Adran 106: Rhwymedigaethau Cynllunio
- Offeryn Asesu Model Hyfywedd Datblygu
Gorchymyn Datblygu Lleol (GDLl)
Gwnewch gais am arian Adran 106
Cadwraeth a chefn gwlad
Gwastraff
Bioamrywiaeth
- Pam mae bioamrywiaeth yn bwysig
- Rhywogaethau Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Cynefinoedd Blaenoriaeth yn Sir Gaerfyrddin
- Partneriaeth Natur Sir Gaerfyrddin
- Prosiect Corsydd HLF
- Prosiect brithegion y gors
- Gwrychoedd
- Coetiroedd
- Pryfed Peillio
- Mynd yma ac acw!
- Deddfwriaeth a Chanllawiau
- Safleoedd Gwarchodedig
- Clefyd coed ynn
- Bywyd Gwyllt yn eich Ward
Ardaloedd cadwraeth
Mwy ynghylch Cynllunio