A ydych chi'n poeni am oedolyn/blentyn?

Diweddarwyd y dudalen ar: 18/12/2020

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod plant ac oedolion sy'n agored i niwed yn cael eu gwarchod rhag camdriniaeth ac esgeulustod a byddwn yn cymryd camau ar unwaith lle bydd angen, i'w diogelu rhag niwed.

Os ydych chi’n pryderu am blentyn edrychwch o fewn yr adain Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar ein gwefan lle cewch y manylion cyswllt perthnasol.

Nid yw'n bosibl i rai oedolion amddiffyn eu hunain neu ofalu amdanynt eu hunain drwy'r amser. Ystyr oedolion mewn perygl yw pobl 18 a hŷn sy'n methu amddiffyn eu hunain rhag niwed oherwydd anabledd, anhwylder iechyd meddwl, salwch, llesgedd meddwl neu gorfforol. Gall niwed fod ar ffurf corfforol, esgeulustod, ariannol, rhywiol, seicolegol, neu gwahaniaethol a gall ddigwydd yn unrhyw le. Gall unrhyw un achosi niwed a gall gynnwys perthnasau a theulu, staff proffesiynol, gweithwyr gofal cyflogedig, gwirfoddolwyr, defnyddwyr eraill y gwasanaeth, cymdogion a ffrindiau.

Os ydych chi yn cael eich cam-drin, neu os ydych yn pryderu y gallai unigolyn rydych yn ei adnabod fod mewn perygl o gael ei gam-drin dylech siarad â rhywun. Ffoniwch Llesiant Delta ar 0300 333 2222 (ar agor 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos). Os oes angen cymorth ar unwaith ffoniwch 999.

Mae pawb yn gyfrifol am chwarae eu rhan er mwyn amddiffyn pobl sy'n agored i niwed. Mae dyletswydd ar yr Awdurdod Lleol i ymwneud ymholiadau ynghylch achos honedig o gamdriniaeth neu esgeulustod. Gall gweithwyr proffesiynol eraill gyfrannu i'r gwaith, er enghraifft, swyddogion yr heddlu neu'r gwasanaethau iechyd.

Ymdrinnir mor sensitif ag y bo modd â'r ymholiadau. Gwrandewir ar yr oedolion a rhoddir ystyriaeth i'w dymuniadau. Os yw'r pryderon yn ddifrifol byddwn yn gweithredu ar unwaith i sicrhau bod yr oedolyn yn ddiogel.

RHOI GWYBOD AM BROBLEM