Cyfleoedd dydd i Bobl Hŷn
Diweddarwyd y dudalen ar: 09/06/2025
Mae llawer o wasanaethau yn y gymuned sy'n helpu i gael trigolion hŷn mas o'r tŷ, fel clybiau cinio neu ddigwyddiadau cymdeithasol eraill. Mae'r rhain i'w gweld ar Dewis neu Cysylltu Sir Gâr.
Os ydych dal yn ei chael hi'n anodd ymdopi, efallai cewch chi eich asesu ar gyfer cyfle i ddod i un o'n gwasanaethau Cyfleoedd Dydd.
Darperir Gwasanaethau Dydd i Oedolion Hŷn yn Sir Gaerfyrddin yn Cartref Cynnes yng Nghaerfyrddin a Chwmaman yn y Garnant. Mae'r llefydd cymunedol pwrpasol un llawr hyn yn golygu y gall timau staff sy'n meddu ar y profiad a'r cymwysterau priodol gefnogi unigolion a gofalu amdanynt mewn amgylchedd diogel.
Mae'r Gwasanaeth Dydd yn darparu cysylltiad cymdeithasol i'r rhai a allai fel arall deimlo'n gymdeithasol ynysig, a hefyd mae'n cynnig seibiant i ofalwyr. Ein nod yw annog unigolion i fod mor annibynnol ag y gallant, i'w helpu i fyw'n annibynnol yn y gymuned. Mae yna raglen weithgareddau amrywiol sydd wedi'i theilwra i ddiwallu anghenion y rhai sy'n dod.
Mae'r ddau leoliad ar agor i unigolion o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 8.30a.m. a 5p.m. Mae trafnidiaeth awdurdod lleol sy'n arbenigo mewn cludo pobl ag anghenion corfforol ychwanegol ar gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd os oes angen. Darperir brecwast, cinio, te prynhawn a diodydd a darperir ar gyfer dietau arbennig. Codir tâl am y rhain fesul dydd.
Dim ond i'r rhai sydd ag angen asesedig y mae Cyfleoedd Dydd drwy Gyngor Sir Caerfyrddin ar gael.
I benderfynu a oes gennych angen asesedig, bydd angen i chi gael asesiad Gofal Cymdeithasol i bennu eich anghenion gofal a chymorth.
Mae'n cynnwys sgwrs fanwl rhyngoch chi/eich gofalwr a gweithiwr gofal cymdeithasol proffesiynol i ddeall:
eich amgylchiadau,
canlyniadau personol,
rhwystrau rhag cyflawni'r canlyniadau hynny,
unrhyw risgiau i chi'ch hun neu eraill, eich cryfderau a'ch galluoedd a phenderfynu pa wasanaeth yw'r mwyaf priodol.
Os yw'r asesiad yn dangos bod gennych angen a aseswyd, byddwn yn gweithio gyda chi i gytuno pa mor aml mae angen cymorth arnoch.
Os ydych yn teimlo bod angen gofal a chymorth arnoch trwy gyfle dydd, y cam cyntaf yw gofyn i ni asesu eich anghenion. Mae gan bawb hawl i gael eu hanghenion wedi'u hasesu ac mae modd darparu gwasanaeth os ydych yn bodloni'r meini prawf y cytunwyd arnynt. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
Nid oes un ateb syml. Bydd y gost y bydd yn rhaid i chi ei thalu yn dibynnu ar eich anghenion gofal a aseswyd a pha wasanaeth sydd ei angen a bydd yn cael ei bennu gan asesiad ariannol.
Bydd yn dibynnu ar eich cyfalaf, eich incwm a lwfansau/diystyriadau. Os oes gennych gyfalaf sy'n fwy na'r trothwy cyfalaf uchaf o £24,000 (2024/25) neu nad ydych am ddatgelu eich asedau, byddwch yn cael eich asesu i dalu cost lawn eich gofal, hyd at yr uchafswm tâl.
Ni fydd neb yn talu mwy na'r tâl a godir am y gwasanaethau y byddant yn eu derbyn yn ôl yr asesiad ac ni fydd y tâl yn fwy na'r uchafswm tâl wythnosol o £100 yr wythnos. (2024/25)
Mae rhagor o wybodaeth am yr asesiad ariannol i'w chael yma: