Byw yn annibynnol

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023

Os hoffech chi barhau i fyw'n annibynnol, ond am gael sicrwydd o gefnogaeth gan staff ar y safle efallai y byddwch am ystyried tai Gofal Ychwanegol. Mae Cynlluniau Gofal Ychwanegol yn ddull gofal hyblyg ac annibynnol.

Mae pedwar cynllun gofal ychwanegol yn Sir Gaerfyrddin – Plas y Môr ym Mhorth Tywyn a Chwm Aur yn Llanybydder, sy'n cael eu rhedeg gan Gwalia; a Chartref Cynnes yng Nghaerfyrddin a Thŷ Dyffryn yn Rhydaman, sy'n cael eu rhedeg gan Gymdeithas Tai Teulu Cymru.

Mae'r cynlluniau i gyd yn cynnig ystod o fflatiau un a dwy ystafell wely, ac maent wedi eu dylunio i'ch galluogi i fyw'n annibynnol, gyda chymorth staff sy'n bresennol ar y safle 24 awr y dydd. Dylunnir eiddo mewn modd penodol er mwyn cynnig diogelwch a mynediad hwylus, ac maent yn cynnwys nifer o nodweddion y mae pobl hŷn yn eu gwerthfawrogi

Anelir gofal ychwanegol at bobl dros 55 oed gan eu galluogi i aros yn annibynnol. Mae rhai o'r bobl sy'n symud i mewn yn cael gofal a chymorth ar lefel uchel, ond mae modd ichi gael eich ystyried hyd yn oed os nad oes gennych anghenion gofal neu os ydynt yn fach iawn.

Byddech chi'n byw fel y byddech yn ei wneud yn eich cartref eich hun – gallwch fyw gyda'ch gilydd os ydych yn gwpwl a gallwch gael ymwelwyr i aros yn eich fflat os ydych yn dymuno. Mae gan bob cynllun lecynnau bwyta ac ymlacio cymunedol, yn ogystal â chyfleusterau ar y safle sy'n cynnwys ystafelloedd crefftau a diddordebau, ystafelloedd i westeion, golchdai, llyfrgelloedd, sbas gwallt a harddwch a siop.

Mae gan rai o'r cynlluniau gyfleusterau penodedig ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia, a chyfleusterau canolfan ddydd y gall y gymuned leol eu defnyddio.

I gael gwybod rhagor ar gyfer Plas y Môr ym Mhorth Tywyn a Chwm Aur yn Llanybydder, e-bostiwch Pobl Group neu ffoniwch 0330 1759726 (01792 488288 os ydych yn galw ar ffôn symudol). Ar gyfer Cartref Cynnes yng Nghaerfyrddin a Thŷ Dyffryn yn Rhydaman, e-bostiwch Chymdeithas Tai Teulu Cymru neu ffoniwch 01792 460192.

Tai Gwarchod

Fel arall, mae Tai Gwarchod yn ateb delfrydol i bobl sy'n chwilio am gartref iddynt eu hunain, ond gyda chysur ychwanegol cymorth a chyfeillgarwch gerllaw. Mae'r cynlluniau'n rhan o gymunedau ledled Sir Gaerfyrddin, fel bod modd i denantiaid barau i fwynhau bywydau llawn, actif.  Mae ystod o ddewisiadau ym mhob un, gan gynnwys fflatiau llawr gwaelod a llawr cyntaf, gyda gerddi hardd a chyfleusterau cymunedol a fydd yn eich gwneud yn gartrefol.

Gweld eiddo i'w osod