Larymau personol/dyfeisiau monitro

Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023

Mae amrywiaeth o ddyfeisiau monitro a larymau personol sy'n gallu eich helpu i barhau i fyw gartref yn ddiogel ac yn annibynnol.

Nod Llesiant Delta yw rhoi'r cymorth a'r gefnogaeth gywir i chi pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch drwy’r gwasanaeth Llinell Gymorth Delta gan ddefnyddio'r Gofal trwy Gymorth Technoleg ddiweddaraf. Maent yn darparu gwasanaeth sy'n rhoi Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth dwyieithog 24/7 365 diwrnod i unigolion a sefydliadau sy'n hyrwyddo ac yn cynnal llesiant ac annibyniaeth gartref. Gynt yn wasanaeth Llinell Gofal Cyngor Sir Gâr, a oedd wedi bod ar waith ers dros 30 mlynedd, sefydlwyd Llesiant Delta yn 2018 ac mae bellach yn gweithredu fel Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy'n dal i fod yn eiddo i'r cyngor.

Mae Llesiant Delta yn cynnig atebion technoleg megis larymau a wisgir ar yr arddwrn neu ddyfeisiau symudol bychain a all ffitio i mewn i'ch poced. Pan fyddwch yn galw am gymorth, gallwch gael tawelwch meddwl y gall Llesiant Delta, neu eich enw cyswllt dewisedig yn gallu ymateb i'ch galwad yn gyflym.

Sut mae Llinell Gymorth Delta yn gweithio?

  • Daw Llinell Gymorth Delta ar ffurf blwch, sy'n cael ei reoli gan fotwm neu ddyfais rydych chi'n ei wisgo. Bydd angen mynediad i'ch ffôn llinell dir i allu gweithredu a chysylltu â'n canolfan fonitro 24/7 neu eich cyswllt/cysylltiadau enwebedig yn dibynnu ar y cynllun rydych chi wedi'i ddewis.
  • Heb linell dir? Peidiwch â phoeni! Gallwn ddarparu cerdyn SIM Llinell Gymorth Delta arbennig i'w roi yn eich uned sy'n cysylltu'n uniongyrchol â'ch Wi-Fi cartref ac yn eich galluogi i gysylltu â'n canolfan fonitro neu eich cysylltiadau enwebedig pryd bynnag y bydd angen i chi wneud hynny.

Mae gan Llinell Gymorth Delta y potensial i drawsnewid y ffordd rydych yn rheoli eich iechyd a'ch llesiant eich hun gan eich galluogi i fyw eich bywyd mewn ffordd rydych chi eisiau. Gall helpu i'ch cefnogi os oes gennych broblemau iechyd, os ydych chi'n ofalwr sydd angen help i ofalu am rywun, neu gall gynnig sicrwydd a thawelwch meddwl. I gael rhestr o gynlluniau talu, a gwybodaeth am yr hyn sydd wedi'i gynnwys, ewch i wefan Llesiant Delta.

Yn ogystal â gwasanaeth Llinell Gymorth Delta, maent hefyd yn darparu gwasanaeth CONNECT rhanbarthol sy'n darparu gwasanaeth teleofal a llinell gymorth well.

Bydd y gwasanaeth CONNECT yn galluogi unigolion a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn y gymuned i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach, drwy:

  • Galwadau llesiant
  • Cymorth digidol a phecynnau Gofal trwy Gymorth Technoleg
  • Cymorth i ymgysylltu â'r gymuned leol unwaith eto (yn ddigidol ar hyn o bryd, ond wyneb i wyneb yn y tymor hir)
  • Mynediad i Dîm Ymateb Cymunedol priodol 24/7, os mewn argyfwng

Darperir gwasanaeth CONNECT mewn partneriaeth â chynghorau Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y trydydd sector ac mae'r gwasanaeth ar gael ar hyn o bryd ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

I gael rhagor o fanylion am becynnau Gofal trwy Gymorth Technoleg Llesiant Delta neu wasanaeth CONNECT ewch i www.llesiantdelta.org.uk neu siaradwch ag ymgynghorwr drwy ffonio 0300 333 2222.