Therapi galwedigaethol

Diweddarwyd y dudalen ar: 26/07/2024

Mae Therapyddion Galwedigaethol yn cynghori ac yn helpu pobl ag anableddau a salwch sydd angen cymorth i fod mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.

Efallai eich bod yn ei chael yn anodd cyflawni tasgau pob dydd yn eich cartref, fel mynd i fyny ac i lawr y grisiau, codi o’ch cadair neu ddefnyddio'r bath. Yn dibynnu ar y math o gymorth a lefel y cymorth sydd ei angen arnoch, gall Therapyddion Galwedigaethol gynnig awgrymiadau a chymorth ymarferol ar sut i ymdopi â'ch anawsterau penodol chi. Byddan nhw’n gallu rhoi cyngor am offer anabledd neu addasiadau i'ch cartref.

Sut alla i gael help?

Os ydych yn byw yn Sir Gaerfyrddin, ac yn anabl neu’n cael anawsterau yn eich bywyd pob dydd gallwch chi (neu rywun sy'n gweithredu ar eich rhan) trefnu i Swyddog Therapi Galwedigaethol dod i ymweld â chi yn eich cartref.

Os ydych chi'n meddwl y gallech fod angen cefnogaeth gan Therapydd Galwedigaethol, cliciwch ar yr eicon 'gwneud cais am asesiad' isod a rhowch gymaint o fanylion â phosibl am y pethau rydych chi'n eu cael yn anodd eu gwneud, neu'n angen help gyda nhw. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth glir i ni o'ch sefyllfa ac yn ein helpu i drefnu asesiad. Mae galw mawr am y gwasanaeth hwn. Mae rhestr aros ar waith, felly efallai na fyddwn yn gallu cynnal asesiad ar unwaith.

Beth yw asesiad?

Mae hyn yn digwydd pan fydd aelod o'r Tîm Therapi Galwedigaethol yn ymweld â chi yn eich cartref i gael mwy o wybodaeth am eich anawsterau a sut rydych yn rheoli gweithgareddau pob dydd. Efallai y byddwn yn gofyn i chi ddangos sut rydych yn cyflawni tasgau penodol. Ar ôl yr asesiad byddwn yn trafod gyda chi yr opsiynau sydd ar gael i ddiwallu eich anghenion, a pha gymorth neu gyngor y gallwn ei gynnig. yddwn yn gwrando ar eich barn (a rhai eich gofalwr os yn berthnasol) yn ystod yr asesiad. Byddwch yn cael eich trin gyda chwrteisi a pharch bob amser.

GWNEUD CAIS AM ASESIAD

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd