Cwestiynau Cyffredin

Taliad Uniongyrchol yw taliad y gall y Gwasanaethau Cymdeithasol ei wneud i bobl sy’n gymwys i dderbyn gwasanaethau gofal cymunedol ac y byddai’n well ganddynt drefnu eu gwasanaethau eu hunain. 

Mae Taliadau Uniongyrchol yn ei gwneud hi'n bosibl i chi brynu'r gwasanaethau yr aseswyd bod arnoch eu hangen, mewn ffordd sy'n rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i chi. Mae Taliadau Uniongyrchol hefyd yn caniatáu i berson addas arall weithredu ar eich rhan os oes angen. Byddai angen person addas pe bai’r person ag anghenion gofal a chymorth heb y galluedd meddyliol i reoli taliad uniongyrchol, hyd yn oed gyda chymorth. 

Gallwch chi benderfynu sut y bydd eich anghenion yn cael eu hateb, gan bwy ac ar amser sy'n gyfleus i chi. Cewch ddewis ehangach o wasanaethau yn ogystal â rheolaeth wirioneddol dros eich bywyd – byddwch yn rheoli eich pecyn gofal eich hun. Mae taliadau uniongyrchol yn helpu i roi cyfle i bobl fyw mor annibynnol ag sydd modd.

Cewch gymorth i hysbysebu a chyflogi Cynorthwyydd Personol drwy eich Ymgyngynghorydd Taliadau Uniongyrchol a’ch Cydgysylltydd Cynorthwywyr Personol.

Cysylltwch â’ch Ymgynghorwyr Taliadau Uniongyrchol neu SCHDirectPaymentsBrokerage@sirgar.gov.uk.

Fel arall, cewch ffonio 01267 242324.

Gellir cynnig Taliadau Uniongyrchol i rywun sy’n gymwys i dderbyn Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol.

Mae’r bobl sy’n gymwys yn cynnwys y bobl hynny sydd wedi cael eu hasesu gennym ni fel rhai sydd ag anghenion gofal a chymorth cymwys neu, yn achos gofalwyr, sydd ag anghenion cymorth.

Ni ellir gwario Taliadau Uniongyrchol ond ar wasanaethau i gwrdd â'r anghenion a ddisgrifir yn eich asesiad ac y manylir arnynt yn eich cynllun gofal neu, yn achos gofalwyr, eu cynllun cymorth.

Cewch ddefnyddio eich Taliadau Uniongyrchol i brynu gwasanaethau gofal cymunedol fel:

  • Cymorth gyda gofal personol megis ymolchi, gwisgo a bwyta prydau bwyd 
  • Cymorth a chefnogaeth ymarferol gyda gweithgareddau 
  • Gofal seibiant

Ni chewch ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol ar gyfer gwasanaethau iechyd neu dai. 

 

  • Cewch ddewis sut y caiff eich anghenion eu hateb
  • Cewch ddewis pwy sy’n darparu’r gwasanaethau
  • Cewch dderbyn gwasanaethau ar amser sy’n addas i chi
  • Byddwch yn derbyn cymorth a chefnogaeth i reoli’r cynllun

Byddwch yn gyfrifol am reoli’r ffordd y caiff eich Taliadau Uniongyrchol eu gwario yn unol â’r Cytundeb y byddwch yn cytuno arno gyda ni.

Os byddwch yn cyflogi Cynorthwyydd Personol yn uniongyrchol, bydd gennych gyfrifoldebau cyflogwr. Os byddwch yn cyflogi cynorthwyydd personol, byddwn yn disgwyl i'r person hwn fod â thystysgrif datgelu a gwahardd (DBS) ddilys cyn iddo ddechrau gweithio. 

Gallwch gyflogi unrhyw un ar yr amod ei fod yn hybu eich lles.

Bydd, bydd yr arian a gewch fel Taliad Uniongyrchol ar gyfer gwasanaethau i ateb eich anghenion gofal cymdeithasol. Mae’n dal i fod yn arian cyhoeddus; rhaid ichi ei wario ar wasanaethau i gwrdd â’ch anghenion gofal. Pan fyddwch yn dechrau'r cynllun byddwch yn cael gwybod pa gofnodion i'w cadw a pha wybodaeth y disgwylir i chi ei darparu.

Os ydych yn poeni efallai na fyddwch yn gallu rheoli Taliadau Uniongyrchol ar eich pen eich hun gallwch gael help. Gall ymgynghorydd o’r cynllun cymorth Taliadau Uniongyrchol mewnol gynnig cyngor a chefnogaeth i chi gyda hyn, a’ch cynorthwyo gyda recriwtio a rheoli staff.

Mae hyn yn dibynnu ar asesiad o faint a pha fath o gymorth y mae arnoch ei angen. Bydd eich Cynllun Gofal a Chymorth yn nodi nifer yr oriau yr wythnos y mae arnoch eu hangen a faint fydd hyn yn ei gostio.

Na, nid yw Taliadau Uniongyrchol yn effeithio ar eich budd-daliadau o gwbl ac nid ydynt yn cael eu dosbarthu fel incwm at ddibenion treth.

Efallai y gofynnir i chi wneud cyfraniad tuag at gost eich gofal. Bydd hyn yr un fath p’un a fydd y gwasanaethau yn cael eu trefnu i chi gennym ni neu os byddwch yn dewis Taliadau Uniongyrchol.

Bydd gennych hawl i gael asesiad ariannol (prawf modd) a bydd canlyniad hwn yn penderfynu faint y gofynnir i chi ei gyfrannu.

Cysylltwch â’ch Gweithiwr Cymdeithasol neu Therapydd Galwedigaethol os oes gennych un neu, os hoffech dderbyn asesiad o’ch anghenion gofal, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor a Chymorth drwy:

  • Ffôn: 0300 333 2222 
  • Minicom: 01554 756741
  • SMS: 0789 2345678
  • Gwneud atgyfeiriad drwy ein gwefan

Neu gallech gysylltu â’r cynllun cymorth Taliadau Uniongyrchol ar y rhif ffôn: 01267 242324

Gofyn am asesiad

Gellwch ddod i wybod am y Cynllun Taliadau Uniongyrchol drwy:

Gofal Cymdeithasol Cymru

Bydd Gweithiwr Cymdeithasol yn ymweld â chi i siarad am eich sefyllfa a'r cymorth y mae arnoch ei angen. Gelwir hyn yn asesiad. Unwaith y byddwch wedi cael eich asesu i fod ag anghenion gofal cymdeithasol, caiff Cynllun Gofal a Chymorth ei drefnu a bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn trafod y dewis o Daliadau Uniongyrchol.

Rydym yn darparu cynllun cymorth mewnol i helpu pobl i reoli eu Taliadau Uniongyrchol os oes angen.  Os byddwch yn penderfynu yr hoffech dderbyn Taliadau Uniongyrchol a cael eu cefnogi gan y gwasanaeth cymorth, bydd Ymgynghorydd o'r gwasanaeth trefnu apwyntiad gyda chi i drafod y Cynllun.

Llwythwch mwy