Talu am Ofal Preswyl
Diweddarwyd y dudalen ar: 28/05/2025
Nid oes un ateb syml. Bydd y gost y bydd yn rhaid i chi ei thalu yn dibynnu ar eich anghenion gofal a aseswyd a pha fath o arhosiad neu leoliad sydd ei angen a bydd yn cael ei bennu gan asesiad ariannol. Ni fydd unrhyw un yn talu mwy na chost lawn y lleoliad yn y cartref gofal.
Byddwch yn cael cynnig asesiad ariannol i benderfynu faint y byddwch yn ei dalu am y lleoliad. Bydd y swm y gofynnir i chi ei dalu yn amrywio, yn dibynnu ar eich incwm a'ch asedau.
Os oes gennych gyfalaf (gan gynnwys eiddo yn y rhan fwyaf o achosion) uwchlaw'r trothwy cyfalaf uchaf o £50,000 (2025/26) byddwch yn cael eich asesu i dalu cost lawn y lleoliad, hyd nes y bydd lefel eich asedau yn is na'r ffigur hwn ac yna bydd asesiad ariannol newydd yn cael ei gynnal, a bydd tâl newydd yn cael ei gyfrifo.
Codir tâl gweinyddol o £10.00 yr wythnos os oes gennych ddigon o gyfalaf hylif (uwchlaw'r trothwy cyfalaf) / incwm i allu trefnu eich lleoliad cartref gofal eich hun (mewn cartref gofal preifat) heb gyfranogiad gan y cyngor ond mae'n well gennych fod y cyngor yn gwneud hyn i chi – mae'r tâl hwn yn ychwanegol at eich tâl a asesir yn ariannol.
Os yw eich asedau cyfalaf yn is na'r trothwy o £50,000.00 byddwch yn cael eich asesu i dalu cyfraniad yn seiliedig ar eich incwm, heb gynnwys yr incwm a ddiystyrir.
Bydd y gofal yn rhad ac am ddim:
- os ydych yn derbyn gwasanaethau ôl-ofal a fydd yn cael eu darparu o dan Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983
- os ydych yn oedolyn sydd wedi cael diagnosis fod gennych CJD
- neu os yw eich gwasanaethau'n cael eu cyllido drwy Ofal Iechyd Parhaus gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
Codir tâl arnoch o ddiwrnod cyntaf y lleoliad, ond ni chaiff yr anfoneb gyntaf ar gyfer taliadau gofal ei chyflwyno hyd nes y cewch ddatganiad sy'n manylu ar sut y cyfrifwyd y tâl. O ganlyniad, bydd angen i chi gadw eich budd-daliadau a'ch incwm o'r dyddiad y byddwch yn mynd i mewn i'r cartref gofal, gan y bydd angen defnyddio'r rhan fwyaf o'r rhain i dalu tuag at gost y cartref gofal.
Gallwch ddewis peidio â datgelu eich asedau; yn yr achosion hynny gofynnir i chi dalu cost lawn y lleoliad. Bydd y gost lawn yn dibynnu ar eich anghenion gofal a aseswyd a'r math o arhosiad a gall gynnwys Cost Ychwanegol. Byddwch yn gallu hawlio Lwfans Gweini / Lwfans Byw i'r Anabl - Elfen Ofal / Taliad Annibyniaeth Personol - Bywyd Bob Dydd (ar y gyfradd uwch fel arfer) i helpu i dalu am eich gofal a'ch cymorth os byddwch yn dewis peidio â datgelu eich asedau, gan ein bod yn tybio bod gennych ddigon o incwm/asedau i dalu cost lawn eich lleoliad.
Codir tâl gweinyddol o £10.00 yr wythnos os byddwch yn dewis peidio â datgan eich incwm a'ch asedau gan y tybir bod gennych ddigon o gyfalaf hylifol (uwchlaw'r trothwy cyfalaf) / incwm i allu trefnu eich lleoliad cartref gofal eich hun (mewn cartref gofal preifat) heb gyfranogiad gan y cyngor ond mae'n well gennych fod y cyngor yn gwneud hyn i chi – mae'r tâl hwn yn ychwanegol at eich tâl a asesir yn ariannol.
Os yw eich cynilion yn uwch na'r trothwy cyfalaf uchaf (gan gynnwys eiddo) neu os yw eich incwm wythnosol yn ddigonol i dalu cost lawn eich lleoliad, yna gallwch ofyn i'r Awdurdod Lleol drefnu'r lleoliad ar eich cyfer a byddwch yn talu cost lawn y lleoliad. Byddwch yn gallu hawlio Lwfans Gweini / Lwfans Byw i'r Anabl - Elfen Ofal / Taliad Annibyniaeth Personol - Bywyd Bob Dydd (ar y gyfradd uwch fel arfer) i helpu i dalu am eich gofal a'ch cymorth os oes gennych ddigon o incwm/asedau i dalu cost lawn eich lleoliad.
Codir tâl gweinyddol o £10.00 yr wythnos os oes gennych ddigon o gyfalaf hylif (uwchlaw'r trothwy cyfalaf) / incwm i allu trefnu eich lleoliad cartref gofal eich hun (mewn cartref gofal preifat) heb gyfranogiad gan y cyngor ond mae'n well gennych fod y cyngor yn gwneud hyn i chi – mae'r tâl hwn yn ychwanegol at eich tâl a asesir yn ariannol.
Os yw cyfanswm eich cyfalaf dros y trothwy cyfalaf uchaf, ond nad yw'n hygyrch, oherwydd bod eich cyfalaf ynghlwm â'ch prif eiddo/tir ac nad ydych yn dymuno neu'n methu ei werthu ar hyn o bryd, yna gallwch ddewis ymrwymo i Gytundeb Taliadau Gohiriedig lle byddwch yn gallu gohirio elfen o'ch tâl. Bydd y Cyngor yn rhoi "Arwystl Cyfreithiol" ar y brif breswylfa ac yn cronni'r ddyled tan ddyddiad hwyrach. Mae hyn yn golygu y byddwn yn adennill y swm sy'n ddyledus gennych i ni o'r arian a gewch os neu pan fyddwch yn penderfynu gwerthu'ch cartref neu o'ch ystâd ar ôl i'ch lleoliad ddod i ben. Fodd bynnag, bydd gofyn i chi ddefnyddio'ch incwm wythnosol gan gynnwys incwm rhent os yw'n berthnasol ac unrhyw gynilion hygyrch i dalu tuag at eich tâl wythnosol hyd nes y bydd eich eiddo yn cael ei werthu neu hyd nes bod eich cynilion wedi gostwng. Ceir rhagor o wybodaeth am ohirio talu yma:
Byddwch yn gallu hawlio Lwfans Gweini / Lwfans Byw i'r Anabl - Elfen Ofal / Taliad Annibyniaeth Personol - Bywyd Bob Dydd (ar y gyfradd uwch fel arfer) i helpu i dalu am eich gofal a'ch cymorth os oes gennych ddigon o incwm/asedau i dalu cost lawn eich lleoliad.
Os cewch eich derbyn i gartref gofal fel lleoliad dros dro, yna caiff eich prif breswylfa ei diystyru o'r asesiad ariannol dros gyfnod y lleoliad dros dro, hyd at uchafswm o 52 wythnos. Os ydych yn berchen ar dir, neu'n berchen ar unrhyw eiddo ychwanegol, yna mae gwerth y rhain yn cael eu cynnwys yn yr asesiad ariannol o ddechrau'r lleoliad.
Os cewch eich derbyn am leoliad parhaol, diystyrir gwerth eich prif breswylfa o'r asesiad ariannol am y 12 wythnos gyntaf ar ôl cael eich derbyn i ofal. Fodd bynnag, pe byddech yn gwerthu'ch prif breswylfa yn ystod y cyfnod cychwynnol hwn o 12 wythnos, byddai'r elw ar y gwerthiant yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol o ddyddiad y gwerthiant. Os ydych yn berchen ar dir, neu'n berchen ar unrhyw eiddo ychwanegol, yna mae'r gwerth yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol o ddechrau'r lleoliad.
Mewn rhai amgylchiadau, bydd eich prif breswylfa yn cael ei diystyru o'r asesiad ariannol yn llwyr, os mai dyma hefyd brif breswylfa unrhyw un o'r bobl ganlynol:
- Eich partner (mae hyn yn golygu gŵr neu wraig, neu rywun rydych chi'n byw gyda nhw fel gŵr/gwraig neu bartner sifil oni bai ei fod wedi'i ddieithrio)
- Perthynas sy'n 60 oed neu'n hŷn
- Perthynas sydd wedi'i analluogi
- Eich plentyn o dan 18 oed
- Rhiant unigol sydd â phlentyn dibynnol sy'n gyn-bartner i chi neu sydd wedi ysgaru oddi wrthych.
Os bydd unrhyw un o'r amodau hyn yn dod i ben yn ystod y lleoliad, bydd gwerth yr eiddo yn cael ei gynnwys yn yr asesiad ariannol o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd yr amgylchiadau'n newid.
Mae gan y Cyngor ddisgresiwn i ystyried sefyllfaoedd eraill, ac mae'r rhain yn cael eu hystyried yn ôl eu rhinweddau unigol.
Byddem yn archwilio dogfennaeth i gadarnhau bod yr eiddo yn eiddo ar y cyd ac fel arfer dim ond gwerth eich cyfran chi o'r eiddo y byddem yn ei ystyried.
Mae'r asesiad ariannol yn seiliedig ar eich asedau eich hun yn unig, gan gynnwys eich cyfran chi o’r asedau ar y cyd. Bydd yr asesiad ariannol yn cael ei gynnal ar y person sy'n cael ei dderbyn i'r Cartref Gofal. Dim ond yr incwm a'r cyfalaf y mae gan y person hwnnw hawl iddynt fydd yn cael eu hystyried. Os yw'r cyfalaf/buddsoddiadau ac ati ganddynt ar y cyd â rhywun arall yna cânt eu dosrannu'n gyfartal neu ar sail hawl os yw'r wybodaeth a ddarperir yn dangos rhywbeth gwahanol. Os oes budd-daliadau'n cael eu talu ar sail ‘pâr’ yna bydd y swm a delir i'r person sy'n derbyn gwasanaeth yn cael ei ystyried yn y broses asesu ariannol. Byddwn yn diystyru 50% o bensiwn preifat/galwedigaethol lle rydych yn rhoi o leiaf 50% o'r pensiwn i'ch priod/partner i dalu eu costau byw. Os yw eich priod/partner yn parhau i fyw gartref, yna bydd yr eiddo yn cael ei ddiystyru at ddibenion asesu tra byddant yn parhau i fyw yno, ond byddai'r penderfyniad hwn yn cael ei adolygu pe bai'r amgylchiadau'n newid a bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd hyn yn digwydd. Bydd y Cyngor yn ymdrechu i sicrhau nad yw incwm eich priod/partner yn disgyn yn is na lefel benodol a bennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau/Canolfan Byd Gwaith. Bydd asesiad ariannol yn cael ei gynnig i'r person arall/y bobl eraill sy'n byw yn y tŷ.
Byddem yn archwilio'r ddogfennaeth sy'n cadarnhau hyn a byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth sy'n ymwneud â thelerau'r trosglwyddiad. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddod i benderfyniad ynghylch a yw'r eiddo yn cael ei gynnwys neu ei ddiystyru o'r asesiad ariannol. Efallai y bydd person sy'n manteisio ar y trosglwyddiad yn dod yn atebol am unrhyw daliadau sydd heb eu talu.
Os byddwch yn dewis gwerthu'ch prif breswylfa byddwn yn parhau i'ch helpu i dalu am eich costau gofal nes bod eich eiddo yn cael ei werthu. Ar ôl ei werthu, rhaid i chi ddweud wrthym ac yna byddwn yn cyfrifo faint sy'n ddyledus gennych am gostau eich lleoliad.
Fel rhan o'r asesiad ariannol, bydd yr awdurdod lleol yn prisio eich holl eiddo at ddibenion asesu ariannol. Os yw'r pris gwerthu yn wahanol i'r prisiad, yna byddwn yn ystyried y rhesymau dros hyn bryd hynny. Dylech ddweud wrthym a ydych chi'n ystyried derbyn cynnig ar gyfer yr eiddo sy'n llai na phrisiad y cyngor, cyn cytuno i'w werthu. Gall y cyngor ail-brisio'r eiddo.
Gall yr awdurdod lleol gynnig Cytundeb Taliadau Gohiriedig. Mae hwn yn gytundeb cyfreithiol rhwng y defnyddiwr gwasanaeth a'r Cyngor i ohirio rhan o'ch tâl. Gweler y Cynllun Taliadau Gohiriedig am ragor o wybodaeth.
Os ydych yn trosglwyddo cynilion, arian neu asedau eraill , gan gynnwys eiddo, neu wedi gwerthu eiddo am lai na'i werth ar y farchnad, neu’n roi eiddo mewn ymddiriedaeth / ei drosglwyddo i rywun arall neu’n dorri tenantiaeth ar y cyd cyn derbyn gofal, neu tra byddwch yn derbyn gofal, efallai y byddwn yn eich asesu fel petaech yn dal i fod â gwerth llawn yr ased. Efallai y bydd person sy'n manteisio yn dod yn atebol am unrhyw daliadau sydd heb eu talu.
Byddwn yn gofyn i chi am amser, rheswm, derbynnydd, a gwerth ariannol y trosglwyddiad ac yn defnyddio'r wybodaeth hon i seilio ein penderfyniad ar a yw amddifadedd asedau wedi digwydd; byddwn yn gwneud penderfyniad ynghylch a yw'r ased wedi'i gynnwys neu ei ddiystyru o'r asesiad ariannol.
Byddwn yn edrych ar gofnodion Gofal Cymdeithasol ac efallai y byddwn yn gofyn am Gofnodion Meddygol i benderfynu a allai Gofal a Chymorth fod wedi cael ei ragweld yn rhesymol ar yr adeg y rhoddwyd yr asedau ac yn cynorthwyo yn ein penderfyniad ynghylch amddifadu asedau.
Mae gennym ddyletswydd i ddiogelu pobl agored i niwed ac felly gall rhai achosion arwain at atgyfeiriad i'r Tîm Diogelu i'w ymchwilio.
Mewn rhai amgylchiadau, bydd eich anghenion gofal iechyd yn golygu y bydd yr Awdurdod Iechyd yn derbyn cyfrifoldeb am gost lawn y lleoliad o dan y trefniadau Gofal Iechyd Parhaus; yn y sefyllfa hon ni fyddai gofyn i chi wneud unrhyw gyfraniad ariannol.
Os yw'r Cyngor wedi trefnu'r lleoliad mewn cartref gofal tra bod yr Awdurdod Iechyd yn asesu eich cymhwysedd ar gyfer cyllid GIP, yna bydd tâl wedi'i asesu'n ariannol yn ddyledus am y cyfnod hwn; bydd hyn yn cael ei ail-dalu i chi am unrhyw gyfnod y mae'r AI yn penderfynu y dylai'r lleoliad fod wedi cael ei ariannu o dan gyllid GIP.
Os caiff eich anghenion eu hailasesu ac nad ydych bellach yn gymwys i gael cyllid Gofal Iechyd Parhaus llawn, gallai’r cyngor dalu rhywfaint neu ran o'r cyllid ar gyfer eich lleoliad. Gofynnir i chi gwblhau asesiad ariannol i bennu eich cyfraniad tuag at eich gofal a'ch cymorth. Sylwch y gellir ôl-ddyddio'r tâl hwn.
Mae gan yr awdurdod ffioedd safonol y mae'n eu talu i'r cartref gofal, yn dibynnu ar eich anghenion gofal a asesir. Os byddwch yn dewis cartref gofal sy'n ddrutach na'r ddau gartref gofal a gynigir adeg y lleoliad, hynny yw, pan fo'r cartref gofal a ddewisir yn codi tâl wythnosol sy'n uwch na'r ffioedd a godir gan y ddau gartref gofal a gynigir i chi, yna dim ond os oes gennych eiddo ac y gallwch ymrwymo i Gytundeb Taliadau Gohiriedig y gallwch ariannu'r Gost Ychwanegol eich hun.
Os am unrhyw reswm na allwch ymrwymo i Gytundeb Taliad Gohiriedig (e.e. nad yw eich eiddo wedi'i gofrestru gyda'r Gofrestrfa Tir, neu nad ydych yn berchen ar eiddo) a nad oes gennych ddigon o incwm a ddiystyrir i dalu am gost y lleoliad ac na allwch ymrwymo i Gytundeb Taliadau Gohiriedig, yna mae'n rhaid i drydydd parti gytuno i dalu Cost Ychwanegol y Cartref Gofal ac ef/hi fydd yn gyfrifol am dalu'r swm hwn drwy gydol y lleoliad a bydd hyn yn ychwanegol at eich tâl a aseswyd.
Gofynnir i'r trydydd parti, neu i chi, yn dibynnu ar yr amgylchiadau, lofnodi cytundeb gyda'r awdurdod lleol i dalu'r Gost Ychwanegol.
Os nad oes trydydd parti sy'n fodlon ac yn gallu ariannu'r Gost Ychwanegol, rhaid i chi dderbyn un o'r ddau leoliad a gynigir i chi gan y cyngor neu wneud eich trefniadau eich hun ar gyfer lleoliad cartref gofal, heb gyfranogiad gan y cyngor.
Bydd y taliad Cost Ychwanegol ar ben eich tâl lleoliad sy'n ddibynnol ar brawf modd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen Cost Ychwanegol Cartref Gofal.
Sylwch nad yw'n ofynnol i'r awdurdod lleol gynnig dewis o ddau gartref gofal os bydd y lleoliad hwnnw yn cael ei ddarparu o dan Adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Fel rhan o'ch asesiad ariannol, ystyrir eich holl incwm a lle bo'n berthnasol, diystyrir rhai mathau o incwm o'r asesiad ariannol.
Yn gynwysedig yn eich budd-daliadau, mae swm a elwir yn Isafswm Incwm ac mae'r swm hwn yn cael ei ddiystyru o'ch asesiad ariannol ac mae gennych hawl i'w wario fel y dymunwch. Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r swm ac mae'n cael ei adolygu'n flynyddol. Y swm ar gyfer 2025/26 yw £44.65 yr wythnos.
O fewn yr asesiad ariannol mae mathau eraill o fudd-daliadau ac incwm sy'n cael eu diystyru o'r asesiad ariannol. Dyma rai enghreifftiau:
- holl elfennau symudedd Lwfans Byw i'r Anabl a Thaliad Annibyniaeth Personol
- £10 cyntaf Pensiynau Rhyfel Gwraig Weddw/Gŵr Gweddw
- y cyfan o’r Pensiwn Atodol Gweddwon Rhyfel
- y cyfan o’r Pensiwn Anabledd Rhyfel
- yr holl enillion
- holl daliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
- holl Daliadau Incwm Gwarantedig a wnaed o dan gynllun iawndal y Lluoedd Arfog
- hyd at £5.75 o gredyd cynilion (rhan o'r Credyd Pensiwn). Dyma'r swm ar gyfer 2025/26 ac mae'r swm hwn wedi'i bennu gan Lywodraeth Cymru.
Nid yw hon yn rhestr gyflawn.
Fel rhan o'ch asesiad ariannol, ystyrir eich holl gyfalaf a lle bo hynny'n berthnasol, diystyrir rhai mathau o gyfalaf o'r asesiad ariannol.
Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru yn pennu swm y mae'n rhaid ei ddiystyru o'r cyfrifiad. Y swm ar gyfer 2025/26 yw £50,000.00. Mae gwerth cyfalaf sy'n fwy na'r ffigwr hwn wedi'i gynnwys yn yr asesiad ariannol. Os yw eich cyfalaf yn is na'r ffigwr hwn, nid yw'n golygu y gallwch gadw'r incwm hyd nes bod eich cyfalaf yn cyrraedd y trothwy hwn.
Yn ogystal, bydd cyfalaf a dderbynnir ar ffurf taliadau ex-gratia a wneir i Gyn-garcharorion Rhyfel y Dwyrain Pell, taliadau a wneir o dan y Cynllun Niwed trwy Frechiad a rhai taliadau a wneir gan elusennau, ymddiriedolaethau ac ati hefyd yn cael eu diystyru o'r asesiad ariannol. Nid yw hon yn rhestr gyflawn. Cysylltwch â'r Tîm Asesiadau i gael rhagor o gyngor.
Os ydych yn trosglwyddo cynilion, arian neu asedau eraill i rywun neu yn gwerthu eiddo am lai na'i werth cyn mynd i gartref gofal, neu tra byddwch yn derbyn gofal, efallai y byddwn yn eich asesu fel petaech yn dal i fod â gwerth llawn yr ased. Efallai y bydd person sy'n manteisio ar hyn yn dod yn atebol am unrhyw daliadau sydd heb eu talu.
Byddwn yn gofyn i chi am amseriad y trosglwyddiad, y rheswm am ei wneud, pwy yw'r derbynnydd a gwerth ariannol y trosglwyddiad a byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i seilio ein penderfyniad ynghylch a yw'r ased yn cael ei gynnwys neu ei ddiystyru o'r asesiad ariannol.
Os ydych yn breswylydd dros dro neu’n breswylydd parhaol mewn Cartref Gofal ac yn cael eich derbyn i’r ysbyty neu yn gadael y cartref dros dro, byddwn yn cadw eich lleoliad ar eich cyfer hyd nes y penderfynir nad oes angen y lleoliad arnoch fwyach neu hyd nes y penderfynir na fydd y lleoliad yn gallu diwallu eich anghenion yn y dyfodol. Rhaid i'r Awdurdod Lleol dalu'r cartref gofal yn llawn dra bod y lleoliad yn cael ei gadw. Yn ystod eich cyfnod yn yr ysbyty/y cyfnod rydych i ffwrdd o’r cartref gofal byddwn yn dal i godi y tâl arferol a asesir yn ariannol arnoch am eich lleoliad.
Os oes Cost Ychwanegol yn y lleoliad, codir hyn hefyd (gweler Cost Ychwanegol).
Bydd gennych hawl i Isafswm Incwm bob wythnos. Gellir defnyddio hwn fel y dymunwch ac ni ellir byth ei ddefnyddio i dalu tuag at eich gofal oni bai eich bod yn dewis gwneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn pennu'r Isafswm Incwm bob blwyddyn a'r swm presennol yw £44.65 (25/26).
Gall y Cyngor dalu'r Isafswm Incwm i'r cartref gofal i'w drosglwyddo i chi, fel bod arian ar gael at eich defnydd eich hun ac os yw hyn yn wir bydd yr Isafswm Incwm yn cael ei ychwanegu at anfonebau a anfonir ar gyfer taliadau cartref gofal.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch dalu am eich ffioedd, a gallwch ddewis pa opsiwn sy'n fwyaf addas i chi. Yn aml, defnyddir mwy nag un opsiwn lle mae'n fwyaf cyfleus i chi.
Yr opsiynau mwyaf poblogaidd yw:
- Ailgyfeirio pensiynau - mae’n bosibl trefnu i’ch pensiwn gwladol (Pensiwn y Wladwriaeth) a’ch budd-daliadau eraill gael eu hailgyfeirio o dan apwyntiad gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau/Canolfan Byd Gwaith fel y telir hwy’n uniongyrchol i’r awdurdod lleol yn hytrach nag i chithau. Bydd y Cyngor yn codi ffi un-tâl wythnosol o £5.00 yr wythnos (2025/26) am y trefniant hwn a ganiateir fel treuliau yn erbyn eich asesiad ariannol
- Trwy anfoneb - gallwn anfon anfoneb atoch yn rheolaidd am y rhan o'r tâl y gallwch ei thalu/rydych wedi dewis ei thalu yn y modd hwn. Bydd yr anfoneb yn berthnasol i wasanaeth y byddwch eisoes wedi’i dderbyn.
- Debyd Uniongyrchol - gallwch sefydlu cytundeb debyd uniongyrchol fel bod rhan o'r taliad neu'r taliad cyfan yn cael ei gymryd yn uniongyrchol o'ch cyfrif banc. Byddwch yn derbyn anfoneb i ddangos faint sy'n ddyledus cyn i'r taliad gael ei gymryd o'ch cyfrif
Os nad oes gennych allu i reoli eich cyllid ac nad oes unrhyw un ag awdurdod cyfreithiol i wneud hynny drosoch, yna efallai y bydd yn briodol i Ddirprwy gael ei benodi gan y Swyddfa Gwarcheidwaid Cyhoeddus. Mewn amgylchiadau eithriadol, gall y cyngor wneud cais i ddod yn Ddirprwy ac os yw hyn yn wir yna codir ffi untâl 0 £944.00 (2025/26) am y cais. Bydd ffioedd eraill, fel ffioedd blynyddol yn berthnasol ar ôl i'r Dirprwy gael ei benodi, a bydd y rhain yn dibynnu ar faint o gyfalaf a ddelir ac ati.
Os na fyddwch yn talu, byddwn yn cysylltu â chi i weld a oes problem. Os oes problem, byddwn yn ceisio eich helpu i'w datrys. Os nad oes problem a'ch bod yn parhau i beidio â thalu eich biliau, yna bydd angen i ni gymryd camau priodol i adennill unrhyw ddyledion.
Os ydych yn credu bod eich tâl wedi cael ei asesu'n anghywir yna cysylltwch â'r Tîm Asesiadau Ariannol. Bydd Swyddog yn bwrw golwg dros eich asesiad i sicrhau bod yr holl ffigurau'n gywir ac nad oes unrhyw wybodaeth berthnasol ar goll.
Os ydych yn dal yn anhapus â'r canlyniad, gallwch ofyn i reolwr wirio'r asesiad. Os ydych yn dal yn anhapus ar ôl hyn, gallwch wneud cais am adolygiad ffurfiol ynghylch y penderfyniad a gall staff y Tîm Asesiadau Ariannol esbonio'r camau y dylech eu dilyn nesaf.
Hefyd gallwch ofyn i rywun y tu allan i'r Cyngor fwrw golwg dros y cyfrifiadau e.e y Ganolfan Cyngor ar Bopeth.
I gael gwybodaeth fanylach am godi tâl am ofal Preswyl, gweler Taflen Ffeithiau 2 – Symud i Gartref Gofal, dolen isod:
Os dymunwch gysylltu â'r Cyngor ynghylch eich taliadau yna gallwch ysgrifennu at y canlynol neu eu ffonio:
Tîm Asesiadau Ariannol Preswyl
Adran Cymunedau
Cyngor Sir Caerfyrddin
3 Heol Spilman
Caerfyrddin
SA31 1LE
Ffôn: 01267 228903/228632/228997
E-bost: gctasesiadauariannol@sirgar.gov.uk