Allwedd RADAR – Toiledau cyhoeddus i bobl ac anableddau
Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023
Mae'r Cynllun Allwedd Cenedlaethol (NKS) yn cynnig mynediad annibynnol i bobl anabl i oddeutu 9,000 o doiledau cyhoeddus sy'n cael eu cloi ar draws y wlad.
Gall unrhyw un sydd ag anabledd parhaol brynu'r allwedd. I brynu allwedd, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- Trefnu apwyntiad yn un o'n Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid
- Llenwi ffurflen gais ar gyfer allwedd Radar
- Darparu tystiolaeth i gefnogi eich cais
Gellir lawrlwytho'r ffurflen cyn eich apwyntiad neu gellir ei chael yn un o'n Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid. Yn ogystal â'r ffurflen, bydd angen i chi ddod â thystiolaeth i'ch apwyntiad gwasanaethau cwsmeriaid i gefnogi eich cais. Mae enghreifftiau o dystiolaeth yn cynnwys un o'r canlynol:
- Bathodyn Parcio Glas
- Llythyr oddi wrth ysbyty neu feddyg teulu
- Llythyr yn cyfeirio at dalu Lwfans Byw i'r Anabl neu fudd-dal anabledd arall
Ar hyn o bryd, mae allweddi RADAR ar gyfer pobl anabl yn costio £4.70. Does dim angen ichi dalu TAW os ydych yn datgan bod gennych anabledd. Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael Allwedd RADAR yn ystod eich apwyntiad.
Gellir prynu allwedd yn bersonol neu gall rhywun brynu un ar eich rhan yn ein canolfannau gwasanaeth cwsmeriaid. Os oes rhywun yn codi allwedd ar eich rhan, bydd angen iddo/iddi ddod â'ch ffurflen wedi'i chwblhau ynghyd â thystiolaeth i brofi ei fod/bod yn gweithredu ar eich rhan chi.
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
A ydych chi'n poeni am oedolyn/blentyn?
Taliadau am ofal yn y cartref
Sut i gysylltu â ni
Cyfleoedd dydd
Dementia
Taliadau Uniongyrchol
Anabledd ac Awtistiaeth
Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
Taflenni gwybodaeth
Mynd yma ac acw
Sut i gael help
Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol
Iechyd Meddwl
Mwy ynghylch Gofal Cymdeithasol ac Iechyd