Parth Twf Cross Hands

Diweddarwyd y dudalen ar: 01/12/2023

Deilliodd Parth Twf Cross Hands fel project Trawsnewid o gasgliad cyffrous o ddatblygiadau unigol sy’n clystyru ar gyrion ardal drefol Cross Hands, a all wneud argraff anferth ar adfywiad yr ardal. Mae’r rhain oll ar wahanol gyfnodau yn eu datblygiad ac, yn eu crynswth, byddant yn cyfrannu’n sylweddol at dwf economaidd Dinasranbarth Bae Abertawe.

Mae pum safle datblygu blaenllaw o fewn Parth Twf Cross Hands. Yn fasnachol, mae’r hyn mae Parth Twf Cross Hands yn ei gynnig yn ddeniadol iawn. Cynigir cymysgedd ddymunol o ddefnyddiau a chyfleoedd ac mae’r holl elfennau yno i esmwytho llwybr unrhyw fuddsoddwr. Mae’r parth yn un aeddfed ond yn dal i gynnig posibiliadau twf economaidd anferth, gyda’r pum safle newydd sy’n datblygu o’i fewn. Cynllunir rhyw 500 o gartrefi newydd, £50m o fuddsoddi gan y sector preifat, a 1,500 o swyddi.

Bydd y Parth yn cydgyfnerthu’r hyn a fu’n ardal o hunaniaethau amrywiol er y 1980au. Gyda gwelliannau arfaethedig i drafnidiaeth yn ogystal â’r buddsoddi helaeth a welwyd hyd yma, lleoliad cyfleus i farchnadoedd, arddull byw, gweithlu, ac argaeledd grantiau o bosib, mae Parth Twf Cross Hands yn caniatáu i chi adeiladu ar sail ei hanes ar gyfer y dyfodol.

Mae safle Sir Gaerfyrddin yn Ninas-ranbarth newydd Bae Abertawe yn un cyffrous. Mae meddwl yn uchelgeisiol bellach yn rhagamod hanfodol ar gyfer gwaith adfywio – mae Parth Twf Cross Hands yn enghraifft berffaith. Fe’i cyflawnir trwy gydweithrediad a dulliau arloesol o fynd ati er mwyn cwblhau’r gwaith a darparu twf cynaliadwy a swyddi. Rhagwelir y bydd Parth Twf Cross Hands yn cynhyrchu rhyw £50m o fuddsoddi gan y sector preifat erbyn 2020 – mae’n bryd i chi fod yn rhan o hyn. Er mwyn cofnodi eich diddordeb yn unrhyw un o ddatblygiadau Parth Twf Cross Hands, e-bostiwch ni ar BusinessSupport@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01269 590214.