Cwestiynau Cyffredin - Ailgylchu a gwastraff

Dylai'r cwestiynau cyffredin canlynol ateb unrhyw gwestiynau posibl sydd gennych ynglŷn ag ailgylchu, binau a sbwriel. Cysylltwch drwy'r tab "Gofyn cwestiwn" os oes unrhyw beth y mae angen gwybodaeth ychwanegol arnoch amdano.

Gwastraff gardd

Mae'n rhaid gosod y gwastraff gardd yn rhydd yn y bin (peidiwch â defnyddio unrhyw fagiau). NI FYDD unrhyw wastraff sy'n cael ei osod y tu allan i'r bin yn cael ei gasglu.

Ie, i mewn â nhw... 

  • Toriadau gwrychoedd, coed a llwyni; gwreiddiau; toriadau a chribinion porfa;dail; planhigion, blodau a chwyn.

Na, peidiwch â'u cynnwys...

  • Bagiau plastig, potiau a hambyrddau; briciau, rwbel, pridd a cherrig; ffensiau, siediau a physt; gwastraff bwyd yn cynnwys crafion; boncyffion coed a changhennau dros 4 modfedd (10cm) o ddiamedr; gwellt gwely, gwasarn ac ysgarthion anifeiliaid; chwyn ymwthiol fel canclwm Siapan, yr efwr enfawr a’r ffromlys chwarennog.

NI FYDD eich bin yn cael ei wagio os yw'n cynnwys eitemau nad ydynt yn cael eu caniatáu. Byddwn yn ymchwilio i achosion cyson o halogi ac os bydd yn parhau mae'n bosibl y daw'r gwasanaeth i ben.

Peidiwch â gorlenwi na chywasgu'r gwastraff yn y bin. Os bydd y bin yn rhy drwm i'r lori ei godi NI FYDD yn cael ei wagio.

Byddwn yn anfon e-bost neu’n ysgrifennu atoch cyn y bydd angen i chi adnewyddu eich tanysgrifiad.

Byddwn yn casglu eich gwastraff gardd bob pythefnos rhwng Mawrth a Tachwedd.

Byddwn yn rhoi gwybod ichi pryd fydd eich diwrnod casglu pan fyddwch yn tanysgrifio. Bydd casgliadau'n digwydd bob pythefnos. Cofiwch y gallai'r diwrnodau casglu newid yn ystod, neu ar ôl, gwyliau'r banc.

Rhaid rhoi’r bin gwastraff gardd yn yr un man ag y caiff eich sbwriel/deunyddiau ailgylchu eu casglu ohono.

Byddwn yn darparu whilfin 240 litr, a fydd hyn cyfwerth â thua chwe bag gwastraff o faint safonol. Fodd bynnag, cofiwch mae'n rhaid i chi roi eich gwastraff gardd yn rhydd yn y bin.

Bydd yr holl danysgrifiadau yn rhedeg yn flynyddol ac yn digwydd rhwng mis Mawrth a Thachwedd. Byddwch yn talu'r gost lawn pa bynnag adeg o'r flwyddyn rydych yn tanysgrifio i'r gwasanaeth, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o gasgliadau sydd eu hangen arnoch.

NI FYDDWN yn gallu cynnig unrhyw ad-daliadau. Os ydych am ganslo eich tanysgrifiad, rhowch wybod i ni a byddwn yn dirwyn y gwasanaeth i ben ar unwaith.

Os byddwch yn symud o fewn y sir gallwch fynd â'r bin gyda chi i'ch cyfeiriad newydd. Rhowch wybod i ni o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn y mae'n rhaid i chi symud er mwyn i ni sicrhau bod eich bin yn cael ei wagio yn eich cyfeiriad newydd. Os byddwch yn symud y tu allan i'r sir, ni fyddwn yn casglu eich bin oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.

Nid yw casglu gwastraff gardd yn wasanaeth statudol. Mae'r gost yn cynnwys tâl untro am brynu'r bin a chostau'r casgliadau bob pythefnos. Mae hyn hefyd yn fwy teg i drigolion nad oes gardd ganddynt, sy'n dewis compostio gartref, neu sy'n dymuno peidio â defnyddio'r gwasanaeth.

Bydd eich gwasanaeth yn dechrau pan fyddwn yn dosbarthu eich bin. Ein nod yw dosbarthu'r bin o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich taliad. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn bosibl yn ystod cyfnodau prysur, megis ar ddechrau blwyddyn tanysgrifio newydd, oherwydd y galw mawr.

Er mwyn cynnal gwasanaeth cost effeithiol penderfynwyd peidio â darparu'r gwasanaeth yn ystod misoedd y gaeaf, pan nad oes llawer iawn o wastraff gardd yn cael ei gynhyrchu.

Gellir compostio gwastraff gardd gartref neu fynd ag ef i un o'n canolfannau ailgylchu gwastraff cartref. Gellir prynu biniau compostio oddi wrthym am £14.50 gan gynnwys cludiant.

Efallai y byddai modd ichi uno gyda'ch cymydog sydd â mwy o le i gadw'r whilfin. Trwy wneud hynny, byddwch yn dal i elwa ar y gwasanaeth ac yn arbed arian drwy rannu'r gost.

Os nad ydych chi'n credu y byddwch yn gallu trafod whilfin 240 litr anfonwch e-bost at Gwastraff.Gardd@sirgar.gov.uk er mwyn inni eich cynghori ynghylch opsiynau eraill.

Mae'n bosibl na fydd pob eiddo yn addas ar gyfer y gwasanaeth hwn oherwydd cyfyngiadau mynediad i'n cerbydau casglu. Rydym yn cadw'r hawl i benderfynu p'un ai bod modd inni gynnig y gwasanaeth casglu gwastraff gardd neu beidio.

Bydd, os yw'n ymarferol i wneud hynny. Llenwch y ffurflen gais ar-lein. Byddwn yn anfon y penderfyniad atoch drwy e-bost o fewn 10 diwrnod gwaith.

Mae yna gost prynu ar gyfer pob bin a bydd y tâl gwasanaeth ar gyfer pob bin ychwanegol yn cael ei leihau 10%.  Gweler ein tudalen gwastraff gardd ar gyfer y taliadau presennol.

Os na dderbynnir taliad, bydd y casgliadau'n dod i ben ond bydd y bin yn aros gyda chi.  Galwch ddefnyddio'r bin i storio gwastraff arall, ond gofynnir i chi beidio â'i roi allan ar gyfer casgliadau neu na fydd yn cael ei wagio.

Gallwch gofrestru i dderbyn negeseuon e-bost neu negeseuon testun i'ch atgoffa o'ch diwrnodau casglu. 

Cofrestrwch ar gyfer negeseuon atgoffa

Os ydych chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod yn ei chael hi'n anodd rhoi gwastraff a deunyddiau ailgylchu allan i'w casglu, efallai y gallwn ni helpu gyda chasgliad gwastraff â chymorth.

Mae angen cwblhau cais a chael asesiad o'r eiddo cyn y gellir darparu'r gwasanaeth.

Casgliad gwastraff â chymorth

Edrychwch a dilynwch y cyngor ar ein tudalen sbwriel heb ei gasglu, cyn rhoi gwybod bod eich gwastraff wedi cael ei adael ar ôl.

Sbwriel heb ei GASGLU

 

 

Llwythwch mwy