Help wrth adael yr ysbyty
Diweddarwyd y dudalen ar: 30/09/2024
Pan fyddwch yn barod i adael yr ysbyty efallai y bydd angen rhywfaint o help ychwanegol arnoch. Mae llawer o bobl sy'n gadael yr ysbyty yn cael help gan eu teulu a'u ffrindiau, ond os na allwch wneud y trefniadau hyn eich hun, byddwn yn edrych ar ffyrdd o drefnu gwasanaethau i chi. Gallwch gael gair â staff y ward sydd yn gofalu amdanoch. Efallai y byddan nhw’n gofyn i weithiwr cymdeithasol ddod i asesu eich anghenion. Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn gweithio gyda chi neu eich teulu neu ofalwyr fel y gallwch adael yr ysbyty yn ddiogel.
Cymorth yn y cartref
Efallai mai dim ond cymorth am gyfnod byr y byddwch chi ei angen, wrth i chi addasu i fyw gartref.Gallwn ddarparu Gwasanaeth Ailalluogi i chi sy'n eich helpu i adennill eich annibyniaeth. Gall y gwasanaeth hwn para hyd at chwe wythnos. Bydd y tîm Ailalluogi yn eich helpu i ennill hyder i allu gwneud tasgau i chi'ch hun, byddant yn gwneud hyn trwy eich helpu i ddatblygu technegau er mwyn i chi fyw'n annibynnol yn eich cartref eich hun. Gall larymau personol a systemau monitro fod yn help i dawelu meddyliau pobl sy'n dychwelyd adref i fyw, a gall fod yn help i’w teuluoedd hefyd.
Ailalluogi Preswyl
Gan ddibynnu ar eich anghenion iechyd, efallai y bydd angen i chi ystyried uned gwely ymadfer. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhoi cyfle i chi wella a chryfhau’n raddol ar ôl llawdriniaeth neu salwch mewn amgylchedd cefnogol. Nod yr uned ymadfer yw eich cefnogi a’ch galluogi i fod yn annibynnol, magu hyder a gwella, a’ch paratoi ar gyfer dychwelyd adref neu ar gyfer trefniadau gofal tymor hir eraill.
Mae'r uned yn darparu cefnogaeth am hyd at chwe wythnos mewn lleoliad cartref gofal i bobl hŷn sydd wedi eu rhyddhau o ofal acíwt, ond sydd angen amser ychwanegol i gryfhau. Mae hefyd yn gyfle i wneud asesiad i weld pa drefniadau rhyddhau sy’n briodol ac yn addas ar gyfer anghenion yr unigolyn.
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
A ydych chi'n poeni am oedolyn/blentyn? (1)
Taliadau am ofal yn y cartref
Sut i gysylltu â ni
Cyfleoedd dydd
Dementia
Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid
Anabledd ac Awtistiaeth
Fersiwn drafft o'r polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
Taflenni gwybodaeth
Mynd yma ac acw
Sut i gael help
Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol
Byw'n Dda yn Sir Gâr
Awdurdodau Rheoli
Mwy ynghylch Gofal Cymdeithasol ac Iechyd