Adeiladau wedi'u heithrio

Diweddarwyd y dudalen ar: 04/09/2023

Ystyrir bod rhai adeiladau wedi’u heithrio o ofynion y Rheoliadau Adeiladu. Yn gyffredinol, dyma’r mathau o adeiladau lle byddai cymhwyso’r rheoliadau yn rhy feichus. Mewn achosion o’r fath, gallwch adeiladu heb gymeradwyaeth dan y Rheoliadau Adeiladu.

Er y gall fod eich cynigion wedi’u heithrio o’r Rheoliadau Adeiladu, gall fod arnoch angen caniatâd cynllunio o hyd. Cyn i chi fynd yn eich blaen, fe’ch cynghorir i hysbysu i ni (yr adain Rheoli Adeiladu a Gwasanaethau Cynllunio) gan roi manylion ysgrifenedig a brasluniau o’ch cynigion. Yna, byddant yn cadarnhau a yw’r gwaith wedi’i eithrio a gallwch gadw’r cadarnhad gyda manylion eich eiddo i gyfeirio ato yn y dyfodol os bydd angen prawf pan fyddwch yn gwerthu eich eiddo neu am unrhyw reswm arall. Rhestr o adeiladau wedi’u heithrio:

  • Swyddfeydd safle adeiladu nad ydynt yn cynnwys lle cysgu.
  • Adeiladau gwerthu ar ystadau.
  • Adeiladau heblaw am breswylfeydd neu swyddfeydd a ddefnyddir mewn cysylltiad â chloddfa neu chwarel.

Mae'r rhain yn adeiladau ar wahân nad yw pobl fel arfer yn mynd i mewn iddynt neu'n adeiladau y mae pobl yn mynd i mewn iddynt yn ysbeidiol i archwilio offer a pheiriannau.

Mae'r eithriad hwn yn berthnasol dim ond os yw'r adeilad wedi'i osod o leiaf 1.5 gwaith ei uchder i ffwrdd naill ai o'r ffin neu o unrhyw ran o adeilad y mae pobl fel arfer yn mynd i mewn iddi.

Er mwyn iddo fod wedi’i eithrio, mae’n rhaid i’ch porth ceir fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid iddo fod ar lefel y llawr daear yn unig.
  • Ni ddylai arwynebedd y llawr mewnol fod yn fwy na 30 metr sgwâr.
  • Rhaid i’r porth ceir fod yn agored ar ddwy ochr o leiaf

Bydd rheoliadau adeiladu yn berthnasol yn gyffredinol os ydych am adeiladu estyniad i'ch cartref.

Fel rheol, fodd bynnag, caiff ystafell wydr ei heithrio rhag rheoliadau adeiladu:

  • Os caiff ei hadeiladu ar lefel y llawr gwaelod ac os yw arwynebedd ei llawr mewnol yn llai na 30 metr sgwâr
  • Os caiff ei gwahanu'n thermol oddi wrth y tŷ gan waliau, drysau neu ffenestri sydd o ansawdd rhai allanol
  • Nid oes offer gwresogi sefydlog neu nid yw system wresogi’r adeilad yn cael ei ymestyn i'r ystafell wydr.
  • Os yw'r gwydr ac unrhyw osodiadau trydanol sefydlog yn cydymffurfio â'r gofynion perthnasol o ran rheoliadau adeiladu.

Fe'ch cynghorir i beidio ag adeiladu ystafelloedd gwydr mewn mannau lle byddant yn cyfyngu ar y gallu i ddefnyddio ysgol i gyrraedd ffenestri ystafelloedd sydd wedi'u creu yn y to neu'r atig, yn enwedig os bwriedir i unrhyw rai o'r ffenestri hynny helpu pobl i ddianc neu gael eu hachub pe bai tân.

Bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar unrhyw agorfa strwythurol newydd rhwng yr ystafell wydr a'r tŷ presennol, hyd yn oed os yw'r ystafell wydr ei hun yn strwythur sydd wedi'i eithrio.

Iard neu lwybr dan orchudd.

Er mwyn iddi fod wedi’i heithrio, mae’n rhaid i’ch garej fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid iddi fod ar wahân.
  • Ni ddylai arwynebedd y llawr mewnol fod yn fwy na 30 metr sgwâr.
  • Mwy nag 1 metr oddi wrth y ffin neu wedi’i hadeiladu o waith brics neu waith blociau.

Caiff tai gwydr eu heithrio dim ond os nad ydynt yn cael eu defnyddio at ddibenion adwerthu, pecynnu ac arddangos.

Caiff adeiladau amaethyddol ac adeiladau sydd yn bennaf ar gyfer cadw anifeiliaid eu heithrio os nad ydynt yn cael eu defnyddio fel preswylfa, os ydynt o leiaf 1.5 gwaith eu huchder i ffwrdd o unrhyw adeilad lle mae lle cysgu ac os oes ganddynt allanfa dân sydd heb fod yn fwy na 30 metr o unrhyw ran o adeilad.

Y diffiniad o gyntedd yw estyniad un llawr, a ddefnyddir yn bennaf fel lloches rhag y gwynt, ond a ddefnyddir hefyd i storio cotiau, esgidiau, ymbarelau ac ati, sydd wedi’i gysylltu ag adeilad presennol ar lefel y ddaear a’i osod dros ddrws mynediad.

Er mwyn iddo fod wedi’i eithrio, mae’n rhaid i’ch estyniad cyntedd fodloni’r meini prawf canlynol:

  • Rhaid iddo fod ar lefel y llawr daear yn unig.
  • Ni ddylai arwynebedd y llawr mewnol fod yn fwy na 30 metr sgwâr.
  • Ni ddylid ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall (e.e. cegin neu le byw / cysgu).
  • Rhaid cadw drysau mynediad a/neu ffenestri allanol presennol.
  • Rhaid defnyddio gwydr diogelwch.

Adeiladau unllawr ag arwynebedd llawr sy'n llai na 30 metr sgwâr, sydd heb fod yn cynnwys lle cysgu, sydd wedi eu hadeiladu’n bennaf â defnydd nad yw'n llosgadwy, neu sydd wedi eu gosod o leiaf un metr i ffwrdd o'r ffin neu'r cwrtil (e.e. garej ar wahân).

Llochesi niwclear ag arwynebedd llawr sy'n llai na 30 metr sgwâr: lle nad yw'r gwaith cloddio ar gyfer y lloches yn nes at unrhyw adeiladau eraill na dyfnder y gwaith cloddio ag un metr ychwanegol.

Adeilad ar wahân, ag arwynebedd llawr sydd heb fod yn fwy na 15 metr sgwâr a heb le cysgu. Mae’n gallu cael ei adeiladu o unrhyw ddefnydd.

Adeiladau sy'n cael eu codi am lai na 28 diwrnod.