Anghenion Dysgu Ychwanegol
Diweddarwyd y dudalen ar: 25/11/2025
Rydym yma i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol drwy hyrwyddo cyflawniad a llesiant i bawb.
Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yw'r term a ddefnyddir yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc sydd angen cymorth ychwanegol i ddysgu. Mae'r system ADY newydd yn sicrhau bod pob plentyn yn cael y gefnogaeth gywir, ar yr adeg iawn. Mae'n disodli'r hen system AAA ac yn rhoi cynllun clir i deuluoedd o'r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Mae'r cynllun hwn yn esbonio pa gymorth sydd ei angen ar eich plentyn a sut y bydd yr ysgol a gwasanaethau eraill yn gweithio gyda'i gilydd. Y nod yw helpu pob plentyn i ddysgu a chyrraedd eu potensial.





















