Y Blynyddoedd Cynnar

Diweddarwyd y dudalen ar: 14/08/2024

Mae gan bob Awdurdod Lleol swyddog dynodedig o'r enw 'Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol Blynyddoedd Cynnar'  a fydd yn gyfrifol am gydlynu cyfrifoldebau strategol yr Awdurdod Lleol mewn perthynas â phlant o dan oedran ysgol gorfodol (0-5) nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir. Rôl y Swyddog Arweiniol Blynyddoedd Cynnar yw:

Gweithio gyda rhieni/gofalwyr, lleoliadau blynyddoedd cynnar, gweithwyr iechyd proffesiynol a'r holl asiantaethau eraill sy'n gweithio gyda phlant o dan oedran ysgol gorfodol (0-5) sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy'n dod i'r amlwg neu wedi nodi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

Cefnogi datblygiad cynlluniau ar gyfer plant ag anghenion difrifol a chymhleth.

Codi ymwybyddiaeth o systemau ADY a hyrwyddo ymyrraeth gynnar.

Darparu hyfforddiant codi ymwybyddiaeth ADY a chyngor mewn lleoliadau cyn-ysgol.

Cefnogi plant sydd wedi dod i'r amlwg neu adnabod ADY gyda chynllunio pontio gwell wrth fynd i mewn i leoliadau ac ysgolion.

I weithio ar y cyd â gwasanaethau partner fel Iechyd a Gwasanaethau Plant.

Cysylltwch â Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar i gael rhagor o wybodaeth os oes angen: Tracey Davies, e-bost: TJDavies@sirgar.gov.uk

Panel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar

Mae'r Panel yn canolbwyntio ar blant yn y Blynyddoedd Cynnar, o dan 5 oed, nad ydynt eto'n mynychu'r ysgol ac sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy'n dod i'r amlwg neu wedi nodi Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Rôl y panel yw gweithio mewn ffordd amlddisgyblaethol i edrych ar ba gyngor/strategaethau neu ddarpariaeth dysgu ychwanegol sydd eu hangen i gefnogi'r plentyn orau, bryd hynny. Gall ymwelwyr iechyd gyfeirio eich plentyn at y Panel y Blynyddoedd Cynnar drwy ffurflen S64.

Canlyniadau posibl:

Ymyrraeth: cyfnod lle gall plentyn gael mynediad at ymyrraeth ychwanegol i gefnogi gyda sgiliau cymdeithasol, cyfathrebu a chwarae.

Ymyrraeth gan staff cymorth: gall plant gael mynediad at staff cymorth ymyrraeth yn eu lleoliad gofal plant. Defnyddir y gefnogaeth i helpu plant i weithio tuag at eu deiliannau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Cymorth i Deuluoedd: gallai hyn ddigwydd ar ffurf gweithdai, grwpiau neu yn unigol, a all fod yn seiliedig ar y cartref.

Cymorth pontio: bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda'r lleoliad gofal plant / ysgol i gefnogi profiad pontio cadarnhaol, a hwylusir gan Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar neu Gydlynydd Dynodedig. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy 'Cyfarfod Pontio'. Cynhelir cyfarfod pontio yn ystod y tymor cyn i blentyn ddechrau ysgol newydd. Bydd y cyfarfod yn gyfarfod cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn gyda rhieni, gweithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â'r plentyn, lleoliad y blynyddoedd cynnar a'r ysgol y disgwylir i'r plentyn ei mynychu. Cynhelir cyfarfod pontio i sicrhau bod trafodaeth am sut y bydd y plentyn yn cael ei gefnogi ac yn rhoi cyfle i'r rhiant/gwarcheidwad rannu gwybodaeth allweddol a fydd yn helpu'r ysgol newydd i gefnogi'r plentyn. Bydd proffil un dudalen (PUD) yn cael ei ddatblygu ar gyfer y plentyn. Os cydnabyddir bod gan blentyn anghenion dysgu ychwanegol sy'n gofyn am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol, yna  bydd Cynllun Datblygu Unigol (CDU) yn cael ei ddatblygu ar gyfer y plentyn.

Gallai'r gwefannau canlynol fod yn ddefnyddiol ar gyfer mwy o wybodaeth:

Addysg ac Ysgolion