Cwestiynau cyffredin
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
‘Sut alla i helpu gyda gwaith cartref fy mhlentyn os nad ydw i’n siarad llawer o Gymraeg?’
Mae ysgolion Cymraeg yn nodi cyfarwyddiadau gwaith cartref yn Gymraeg ac yn Saesneg, felly fydd dim trafferth gennych chi o ran deall pa waith sy’n rhaid i’r plentyn ei wneud. Bydd pob ysgol unigol yn fodlon cynnig cyngor ar addysg a bydd y nosweithiau rhieni yn eich dewis iaith chi.
Bydd gwaith yn cael ei osod yn addas i lefel a gallu’r disgybl. Fe fydd, felly, o fewn cyrraedd i’ch plentyn.
Wrth i blant dyfu’n hŷn a datblygu’n ddysgwyr annibynnol, mae’n debygol y byddant yn hapus i fwrw ati heb arweiniad ychwanegol gan rieni.
‘Bydd y plant yn drysu a bydd eu Saesneg yn dioddef’
Ar gyfartaledd, mae plant dwyieithog yn cyflawni’n well yn Saesneg. Hefyd, drwy esbonio’r gwaith cartref i’w rhieni yn Saesneg, mae’r plentyn yn atgyfnerthu ei wybodaeth, a dyfnhau ei ddealltwriaeth ei hun. Gofynnwch i’ch plentyn ddisgrifio yr hyn y mae’n ei gwneud yn ei eiriau ei hun.
Ar gyfartaledd, mae tua 80% o ddisgyblion Sir Gaerfyrddin sy’n derbyn addysg Gymraeg yn cael A* i C yn eu TGAU Saesneg a Chymraeg.
A fydd meddwl fy mhlentyn yn cael ei effeithio oherwydd bod yn ddwyieithog?
Yr ateb yw ‘bydd’, a hynny mwy na thebyg er gwell. Mae presenoldeb dwy iaith yn system weithredu’r ymennydd yn debygol o gynhyrchu peiriant meddwl mwy cyfoethog. (Baker, 2000: 66-67)
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi