Ceisiwch gymorth gan eich ysgol
Diweddarwyd y dudalen ar: 27/08/2024
Os yw lefel presenoldeb eich plentyn yn gostwng, bydd ei ysgol yn cysylltu â chi i archwilio'r rheswm.
Mae pob ysgol yno i gefnogi pob disgybl. Mae ysgolion hefyd yn cynnig cymorth i deuluoedd neu'n eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun a all helpu.
Siaradwch ag ysgol eich plentyn am unrhyw bryderon a allai fod gennych am ei bresenoldeb ef neu ei phresenoldeb hi. Siaradwch â'ch plentyn a chael gwybod pam nad yw'n mynd i'r ysgol e.e. Beth yw'r peth gorau a'r peth gwaethaf am y diwrnod ysgol? Os gallet ti newid un agwedd ar dy ysgol, beth fyddai hynny? Sut rai yw dy ffrindiau yn yr ysgol? Siaradwch ag athrawon eich plentyn. A oes unrhyw bynciau mae'n gofidio amdanynt? Rydym yn aml yn gweld y gellir adnabod y mater drwy siarad â'ch plentyn a'r ysgol, a rhoi camau yn eu lle.
Bydd yr ysgol hefyd am gynnwys eich plentyn yn y sgyrsiau hyn fel y gallwch gyda'ch gilydd roi atebion ar waith a fydd yn cefnogi'ch plentyn i fynd i'r ysgol. Mae'n bwysig bod y nodau'n realistig a bod y cynlluniau hyn yn cael eu hadolygu'n rheolaidd gyda'r disgyblion, y teuluoedd a'r ysgolion.
Os cewch unrhyw broblemau wrth gysylltu â'ch ysgol, rhannwch eich pryderon â Chadeirydd y Llywodraethwyr. Fe welwch eu manylion ar wefan yr ysgol neu yn yr adroddiad blynyddol i rieni.
Os oes gennych bryder ynghylch mater diogelu, cysylltwch â CRTchildren@sirgar.gov.uk.
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein Cwestiynau Cyffredin
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi