Canolfan Ddysgu Rhydaman @ Streets
Stryd y Gwynt, Rhydaman, SA18 3DN
- 01269 598339
- asykes@sirgar.gov.uk
| Dydd | Amserau Agor |
|---|---|
| Dydd Llun | 09:00 - 15:00 |
| Dydd Mawrth | 09:00 - 15:00 |
| Dydd Mercher | 09:00 - 15:00 |
| Dydd Iau | 09:00 - 15:00 |
| Dydd Gwener | 09:00 - 15:00 |
| Dydd Sadwrn | Ar gau |
| Dydd Sul | Ar gau |
Sut i ddod o hyd i ni: Gallwch ddod o hyd inni yn Theatr y Glowyr ger y brif ffordd yn Rhydaman. Ni fyddwch yn gallu gweld y ganolfan ddysgu o'r brif ffordd gan ei bod y tu ôl i Glwb Lles Glowyr Rhydaman. Ar ôl dod i mewn i Rydaman byddwch yn cyrraedd croesffyrdd, a dylech droi i Lôn Tir-y-dail a chymryd y troad cyntaf ar y dde i faes parcio Stryd y Gwynt. Mae'r ganolfan ddysgu y tu cefn i'r adeilad brics coch mawr, ym mhen pella’r maes parcio.
Gwneud apwyntiad
Sut i drefnu apwyntiad
I gwneud apwyntiad, ffoniwch ni ar 01269 598339. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch eich enw a'ch rhif ac fe ffoniwn ni chi’n ôl cyn gynted â phosibl. Fel arall, gallwch chi anfon e-bost atom.
Rydym am i'ch profiad dysgu fod yn bleserus a gwerth chweil. Darganfyddwch yr hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gennym ni, trwy ddarllen ein gwybodaeth ar gyfer dysgwyr.
