Cwestiynau Cyffredin
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/09/2025
Dyfais symudol bersonol yw unrhyw ddyfais y gellir ei defnyddio i gyfathrebu â'r rhyngrwyd neu fynd ar y rhyngrwyd, fel ffôn symudol, llechen, dyfais chwarae gemau, gliniadur, neu watsh glyfar (smartwatch). Mae hyn hefyd yn cynnwys dyfeisiau sy'n gallu cyfathrebu â dyfais symudol fel dyfeisiau Bluetooth (e.e. clustffonau, seinyddion).
Rydym yn deall y gallai rhiant fod eisiau cysylltu â phlentyn yn ystod y diwrnod ysgol. Mewn sefyllfa o'r fath, rydyn ni'n gofyn i rieni ddilyn ein polisi presennol o ffonio swyddfa'r ysgol a bydd neges yn cael ei throsglwyddo i'ch plentyn ar unwaith.
Gall y plentyn ofyn i athro gysylltu â chi trwy swyddfa'r ysgol.
Ydy, ond rhaid i'r ffôn fod wedi'i ddiffodd a'i roi o'r golwg yn ystod y diwrnod ysgol.
Fel arfer, bydd - oni bai bod sawl achos o gamddefnyddio'r ffôn wedi bod, ac os hynny bydd angen i riant ddod i'w gasglu.
Dim ond os nad oes ganddi gamera neu 4G, a bod Bluetooth wedi'i ddiffodd.
Mae pob dysgwr CA3 a CA4 yn cael copi o'u hamserlen ar ddechrau'r flwyddyn a gallant gadw'r rhain yn eu casys pensiliau. Gall staff weld amserlenni disgyblion hefyd a'u hargraffu. Mae help wrth law os oes angen.
Gall pob disgybl ddefnyddio chromebooks yn yr ysgol er mwyn gweithio ar-lein, a chaiff yr holl dasgau gwaith cartref eu gosod gan ddefnyddio Google Classroom, y gall y disgyblion hefyd fynd iddo gartref.
Bydd rhai dysgwyr yn cael defnyddio eu ffonau at ddibenion addysgol neu feddygol (e.e. ar gyfer apiau sy'n monitro diabetes, apiau cyfieithu ac ati). Fodd bynnag, rhaid cytuno ar hyn gyda'r ysgol, naill ai fel rhan o'u cynllun gofal iechyd neu fel rhan o adolygiad o Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd rhieni/gofalwyr yn cael gwybod ar unwaith am unrhyw ddefnydd amhriodol e.e. chwarae gemau neu fynd ar gyfryngau cymdeithasol wrth esgus defnyddio eu ffonau am resymau addysgol neu feddygol.
Er ein bod yn hyderu bod llawer o ddisgyblion yn gwneud hynny, mae'r polisi hwn yn sicrhau disgwyliadau cyson a diogelwch i bawb.
Mae caethiwed i'r ffôn yn bryder cynyddol i lawer ohonom. Bydd yna adegau pan fydd pobl ifanc ac oedolion yn gorfod bod heb eu ffôn symudol am wahanol resymau e.e. ni chaniateir ffonau symudol mewn unrhyw ystafell arholiad. Credwn ei bod yn well addysgu a chefnogi dysgwyr a phobl ifanc nawr, cyn iddi fynd yn broblem fwy difrifol.
Bydd achosion o gamddefnyddio ffôn symudol yn yr ysgol yn cael eu cymryd o ddifrif. Mewn achos difrifol o dorri'r rheolau bydd Polisi Ymddygiad yr ysgol yn cael ei weithredu. Y Pennaeth fydd yn penderfynu beth sy'n cyfrif fel "camddefnydd".
Beth sydd ddim yn cael ei ganiatáu?
Blynyddoedd 7–11:
- Rhaid diffodd ffonau a'u rhoi o'r golwg, o'r adeg pan fyddant yn cyrraedd tan amser mynd adref.
- Dim defnyddio ffonau yn ystod amser egwyl, amser cinio, nac mewn unrhyw wers, gan gynnwys addysg gorfforol ac arholiadau.
- Caiff clustffonau a dyfeisiau Bluetooth eu gwahardd hefyd.
- Ni chaiff disgyblion ddefnyddio ffonau i gysylltu â rhieni yn ystod y dydd.
Watshys Clyfar (Smartwatches):
- Ni chaniateir dyfeisiau gyda 4G neu gamerâu ar safle'r ysgol.
- Rhaid datgysylltu Bluetooth ar ddyfeisiau olrhain ffitrwydd cyn mynd i mewn i'r ysgol.
Blynyddoedd 12–13:
- Cânt ddefnyddio ffonau yn ardal y Chweched Dosbarth yn unig.
- Ym mhob ardal arall mae'r un rheolau'n berthnasol ag ar gyfer yr ysgol iau.
Enghreifftiau o gamddefnydd mwy difrifol:
- Anfon negeseuon anghwrtais, cas neu amhriodol
- Rhoi pethau cas neu amhriodol ar gyfryngau cymdeithasol neu flogiau
- Tynnu lluniau neu fideos yn yr ysgol heb ganiatâd
- Tynnu lluniau neu fideos o ddisgyblion eraill neu staff heb iddynt wybod neu heb eu caniatâd
- Tynnu lluniau neu fideos mewn ardaloedd preifat fel toiledau neu ystafelloedd newid
- Defnyddio'ch ffôn i fwlio neu ddychryn disgyblion eraill neu staff neu beri embaras neu ofid iddynt trwy negeseuon testun, negeseuon e-bost neu fideos
- Defnyddio'ch ffôn y tu allan i amser ysgol i beri gofid neu ddychryn i ddisgyblion eraill neu staff – mae hyn yn dal i dorri'r rheolau
- Defnyddio'ch ffôn y tu allan i'r ysgol mewn modd sy'n achosi problemau i'r ysgol neu sy'n ei gwneud hi'n anodd i ni gynnal lle diogel a pharchus i bawb
- Gosod sefyllfaoedd i recordio pobl eraill dim ond i beri embaras neu ofid iddynt, yn enwedig os caiff hyn ei rannu ar-lein (fel ar YouTube neu Facebook)
- Bwlio trwy negeseuon testun, delweddau, neu negeseuon e-bost
- Anfon neu rannu lluniau neu negeseuon amhriodol neu rywiol ('secstio’)
- Rhoi pethau ar-lein a allai frifo teimladau rhywun neu niweidio ei enw da
- Ysgrifennu pethau amharchus neu ffug am athrawon neu ddisgyblion eraill
- Rhannu lluniau o ddisgyblion sy'n agored i niwed neu a allai fod o dan orchymyn amddiffyn plant – gallai hyn eu rhoi mewn perygl.
Os yw disgybl yn torri'r rheolau:
- Bydd y ffôn yn cael ei gymryd oddi wrth y disgybl tan ddiwedd y dydd.
- Gall achosion difrifol o dorri'r rheolau arwain at:
- Roi cofnod yn y log ymddygiad
- Gofyn i'r rhieni ddod i gasglu'r ddyfais
- Gwaharddiad mewnol neu allanol
- Dod i mewn â'r heddlu, os oes amheuaeth o weithgarwch troseddol
Troseddau dro ar ôl tro:
- Gallant arwain at wahardd y ffôn yn barhaol neu am dymor penodol.
- Bydd problemau sy'n parhau i ddigwydd yn cael eu monitro a gallant sbarduno atgyfeiriadau diogelu.
Mae gan SWGFL (South West Grid For Learning) gyngor ac adnoddau gwych i gefnogi rhieni.
Addysg ac Ysgolion
Addysg ddwyieithog
Dod o hyd i ysgol
Derbyn i Ysgolion a Newid Ysgol
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cludiant Ysgol
Ysgolion ar gau drwy argyfwng
Addysg yn y cartref - Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dysgu Sir Gâr
Cyrsiau Dysgu Oedolion
Dyddiadau'r tymhorau ysgolion
Diogelwch Ffyrdd
Prydau ysgol
ParentPay
Canolfan Addysg Pentywyn Awyr Agored
Cymorth ieuenctid
Cyfranogiad a Hawliau Plant
Chwaraeon a hamdden yn yr Ysgol
Cymorth Ariannol
Colli ysgol : Colli cyfle
Mae ein hymddygiad yn effeithio ar bawb a phopeth
Ffonau o'r golwg yn yr ysgol
- Cwricwlwm ac Atal
- Rôl y rhieni
- Cwestiynau Cyffredin - ffonau symudol
- Helpwch i'ch cadw eich hun a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein
Cyllideb ysgolion
Llywodraethwyr ysgol
Rhaglen Moderneiddio Addysg Sir Gâr
Addysg Sir Gâr 2022-2032
- Pam mae angen y strategaeth hon arnom?
- Gweledigaeth ar gyfer 2032
- Ein canlyniadau dymunol 2022-2032
- Cyswllt â'r amcanion llesiant
- Cefndir polisi