Helpwch i'ch cadw eich hun a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein

Rhestr wirio'r cyfryngau cymdeithasol gan South West Grid For Learning

Mae'r elusen diogelwch ar-lein SWGfL wedi llunio rhestrau gwirio Cyfryngau Cymdeithasol y gellir eu lawrlwytho ar gyfer yr apiau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd gan gynnwys Facebook, X, Instagram, TikTok, a Netflix.

Mae'r rhestrau gwirio hyn yn dweud wrthych sut y gallwch chi roi gosodiadau ar waith i reoli pwy sy'n dod o hyd i'ch cynnwys, sut mae'ch proffil yn ymddangos i eraill, a gosodiadau penodol eraill.


Rheolaeth rhieni ar gyfryngau cymdeithasol

Mae gan Internet Matters lawer o wybodaeth i helpu rhieni a gofalwyr i ganiatáu i'w plant ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol mor ddiogel â phosibl. Mae rhai o'r cynghorion gorau yn cynnwys:

  • Siarad â'ch plentyn/person ifanc am yr hyn y mae'n ei wneud ar-lein a gyda phwy y mae'n ei wneud.
  • Adolygu gosodiadau preifatrwydd ar gyfryngau cymdeithasol ac apiau galwadau fideo.
  • Dysgu eich plant i gyfyngu'r hyn y maent yn ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol. Er enghraifft, eu henw llawn, eu hysgol a'u cyfeiriad.

Mae gan Internet Matters hefyd ganllawiau cam wrth gam ar gyfer gosod rheolaethau a chyfyngiadau rhieni ar y platfformau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd.

Rhagor o wybodaeth