Rôl y rhieni
Diweddarwyd y dudalen ar: 03/09/2025
Mae gan rieni rôl bwysig i'w chwarae wrth gefnogi polisi'r ysgol ar wahardd y defnydd o ffonau symudol. Rydym yn eich annog i atgyfnerthu a thrafod y polisi gartref fel y bo'n briodol, gan gynnwys y peryglon sy'n gysylltiedig â defnyddio ffôn symudol a manteision amgylchedd heb ffôn symudol.
Mae eich cefnogaeth yn hanfodol i lwyddiant y polisi hwn.
Gofynnwn yn garedig i chi:
- Beidio â chysylltu'n uniongyrchol â'ch plentyn yn ystod oriau ysgol. Ffoniwch swyddfa'r ysgol os oes angen.
- Siarad â'ch plentyn am bwysigrwydd defnyddio'r ffôn yn ddiogel ac yn barchus.
- Annog arferion digidol da gartref, fel treulio amser fel teulu heb fod ar sgrin.
Mae nifer o astudiaethau yn dangos cysylltiad rhwng treulio gormod o amser ar sgrin a:
- Gorbryder a chwsg gwael
- Dirywiad mewn perfformiad academaidd
- Oedi mewn datblygiad cymdeithasol ac emosiynol
Mae'r polisi hwn wedi'i fwriadu i fynd i'r afael â'r pryderon hynny a chefnogi iechyd, diogelwch a llwyddiant pob disgybl.
Beth sydd ddim yn cael ei ganiatáu?
Blynyddoedd 7–11:
- Rhaid diffodd ffonau a'u rhoi o'r golwg, o'r adeg pan fyddant yn cyrraedd tan amser mynd adref.
- Dim defnyddio ffonau yn ystod amser egwyl, amser cinio, nac mewn unrhyw wers, gan gynnwys addysg gorfforol ac arholiadau.
- Caiff clustffonau a dyfeisiau Bluetooth eu gwahardd hefyd.
- Ni chaiff disgyblion ddefnyddio ffonau i gysylltu â rhieni yn ystod y dydd.
Watshys Clyfar (Smartwatches):
- Ni chaniateir dyfeisiau gyda 4G neu gamerâu ar safle'r ysgol.
- Rhaid datgysylltu Bluetooth ar ddyfeisiau olrhain ffitrwydd cyn mynd i mewn i'r ysgol.
Blynyddoedd 12–13:
- Cânt ddefnyddio ffonau yn ardal y Chweched Dosbarth yn unig.
- Ym mhob ardal arall mae'r un rheolau'n berthnasol ag ar gyfer yr ysgol iau.
