Gweler crynodeb isod o'r materion a gwmpesir gan bob un o'r deg categori. Nod pob mater yw lleihau effaith adeilad newydd neu adeilad sy'n cael ei adnewyddu ar yr amgylchedd drwy bennu targed perfformiad a meini prawf asesu y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy er mwyn cadarnhau bod y targed wedi ei gyrraedd. Lle bo targed perfformiad wedi cael ei gyrraedd, gellir rhoi nifer y credydau BREEAM sydd ar gael.
Categori
Meini prawf asesu
Rheolaeth
Comisiynu
Effeithiau safleoedd adeiladu
Diogeledd
Iechyd a Lles
Golau dydd
Cysur gwres i'r sawl sy'n defnyddio'r adeilad
Acwsteg
Ansawdd aer a dŵr y tu mewn
Goleuo
Ynni
Allyriadau CO2
Technoleg ddi-garbon neu isel o ran carbon
Gosod is-fesuryddion ynni
Systemau adeiladu effeithlon o ran ynni
Trafnidiaeth
Y cysylltiadau â'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus
Cyfleusterau i gerddwyr a beicwyr
Mynediad i amwynderau
Gwybodaeth a chynlluniau teithio
Dŵr
Y dŵr a ddefnyddir
Dod o hyd i ddŵr sy'n gollwng
Ailgylchu ac ailddefnyddio dŵr
Defnyddiau
Effaith deunyddiau drwy gydol eu hoes
Ailddefnyddio deunyddiau
Dod o hyd i ffynonellau mewn modd cyfrifol
Gwytnwch
Gwastraff
Gwastraff adeiladu
Cerrig mân a ailgylchwyd
Cyfleusterau ailgylchu
Defnydd Tir ac Ecoleg:
Dewis safleoedd
Diogelu nodweddion ecolegol
Lliniaru/cynyddu gwerth ecolegol
Llygredd
Defnydd o rewyddion ac unrhyw ollyngiadau ohonynt
Perygl Llifogydd
Allyriadau NOx
Llygru dyfrffosydd
Llygredd o ran golau allanol a sŵn
Arloesedd:
Lefelau perfformiad rhagorol
Defnyddio Gweithwyr Proffesiynol sydd wedi eu hachredu gan BREEAM