Llyfrgell Llwynhendy
Heol Elfed, Llwynhendy SA14 9HH

Dydd Amserau Agor
Dydd Llun 10:00 - 16:30 (Ar gau rhwng 12:30 - 14:00)
Dydd Mawrth 09:30 - 16:30 (Ar gau rhwng 12:30 - 14:00)
Dydd Mercher 09:30 - 16:30 (Ar gau rhwng 12:30 - 14:00)
Dydd Iau 09:30 - 16:30 (Ar gau rhwng 12:30 - 14:00)
Dydd Gwener 09:30 - 16:00 (Ar gau rhwng 12:30 - 14:00)
Dydd Sadwrn Ar gau
Dydd Sul Ar gau

Ddim yn aelod?

Mae ymuno yn hawdd, gallwch hefyd wneud hyn ar-lein. Dim ond ychydig funudau y bydd yn ei gymryd a gallwch ddechrau chwilio ein catalog helaeth ac archebu eich llyfrau. Bydd gennych fynediad i'n llyfrgell ddigidol hefyd. Mae yna dros 19,000 o gomics a llyfrau rhad ac am ddim i chi eu lawrlwytho, ymarfer ar gyfer eich prawf theori gyrru, lawrlwytho papurau newydd, dysgu iaith newydd, dewis o fwy na 500 o straeon rhyngweithiol a gweithgareddau ar gyfer plant 4-12+ oed, dysgu pwnc newydd a llawer mwy!

 

Mae Llyfrgell Llwynhendy nôl ar agor – ac mae gennym rywbeth newydd i chi!

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu’n ôl i brofiad llyfrgell adnewyddedig, llawn nodweddion newydd sy’n gwneud eich ymweliad yn fwy hwylus, cyflym ac addas i chi.

  • Loceri cadw hunanwasanaeth – casglwch eich eitemau wedi’u cadw ar adeg sy’n addas i chi.
  • Peiriant gwerthu llyfrau gyda dros 400 o deitlau – cipiwch lyfr gwych pryd bynnag y dymunwch.
  • Cyfrifiaduron cyhoeddus ar gael yn ystod oriau agor – perffaith ar gyfer pori, ymchwil neu gadw mewn cysylltiad.

Dewch i ddarganfod Llyfrgell newydd Llwynhendy!

 

Noder: Gall oriau agor amrywio oherwydd gweithgareddau/gofynion gweithredol y ganolfan. Rydym yn argymell cysylltu â Chanolfan Llwynhendy yn uniongyrchol am y wybodaeth ddiweddaraf - 01554 774103