Cam Nesa
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Prosiect Ewropeaidd yw Cam Nesa sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 16 – 24 oed sydd yn NEET (ddim mewn swydd, addysg na hyfforddiant).
Gall ein staff cymwys weithio gyda chi fel unigolyn i helpu chi fagu hyder a chewch gymorth emosiynol yn ogystal. Gydag amser cewch help i ymgeisio am swydd, neu ddilyn cwrs addysg neu hyfforddiant.
Mae ein tîm o staff proffesiynol yn cynnwys:
- Gweithwyr Cymorth Ieuenctid Ôl-16
- Gweithiwr Cymorth Iechyd Emosiynol
- Gweithwyr Cymorth i Bobl Ifanc gydag Anhwylder Sbectrwm Awtistig
Ein nodau yw:
- Adnabod pobl ifanc NEET rhwng 16-24 oed
- Asesu sefyllfa a ffactorau unigryw y person ifanc sydd yn achosi iddynt fod yn NEET
- Adnabod a chynnig cefnogaeth bwrpasol ac addas i’r person ifanc NEET
- Lle bo hynny’n addas, rhoi cyngor wrth ddewis gyrfa a help i ddewis cymwysterau a gall arwain at waith yn y dyfodol
- Cynnig profiad gwaith o ddiddordeb gyda chyflogwr pwrpasol ac addas a fydd yn cwrdd â gofynion y person ifanc NEET.

