Gwobr Dug Caeredin
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Mae Gwobr Dug Caeredin yn rhaglen heriol o weithgareddau sy’n eich helpu i ddysgu sgiliau newydd, helpu pobl eraill, mynd ar antur a byddwch yn cael teimlad anhygoel eich bod wedi cyflawni rhywbeth gwych. Yn ogystal, mae llawer o sefydliadau fel cyflogwyr a phrifysgolion yn ei hoffi’n fawr iawn a beth mae’n ei ddweud amdanoch chi fel rhywun sy’n cymryd rhan ynddo.
Mae DofE yn rhaglen sydd â phedair adran ac mae’r rhain ar dair lefel:
- Efydd (14 oed a hŷn)
- Arian (15 oed a hŷn) ac
- Aur (16 oed a hŷn).
Ar gyfer pob lefel mae angen cwblhau 4 adran:
- Gwirfoddoli
- Sgiliau
- Corfforol
- Alltaith
- Preswyl (Gwobr Aur yn unig)
Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 6-12 mis i gwblhau’r Wobr Efydd; 12-18 mis i gwblhau’r Wobr Arian a 18-24 mis i gwblhau’r Wobr Aur. Efallai bydd yn cymryd llai o amser i gwblhau’r Wobr Arian neu’r Wobr Aur os ydych wedi cwblhau’r Wobr flaenorol. Rhaid cwblhau pa bynnag Wobr erbyn eich pen-blwydd yn 25 oed.
Mae 2 grŵp Gwobr Agored sydd ar gyfer pobl nad ydynt yn dymuno gwneud y Wobr DofE drwy ysgol/coleg neu sydd mewn gwaith neu’n ddi-waith.
| Ble | Lleoliad / Enw'r grŵp | Manylion cyswllt |
|---|---|---|
| Ysgolion uwchradd | Mae’r holl ysgolion uwchradd yn cynnal y Wobr DofE (heblaw am Glan y Môr, ond mae cynlluniau ar y gweill yno ar hyn o bryd) | Alison Owen-Yeates |
| Coleg Sir Gâr | Campws y Graig | Tanya Knight |
| Coleg Sir Gâr | Campws Rhydaman | Matthew Jones |
| Unedau Sgowtiaid Fforiwr (ESU) | Rhydaman: Twrch Trwyth | Alison Owen-Yeates |
| Unedau Sgowtiaid Fforiwr (ESU) | Caerfyrddin: Merlin’s | Alison Owen-Yeates |
| Unedau Sgowtiaid Fforiwr (ESU) | Llanelli: Scarlet Dragons | Alison Owen-Yeates |
| Unedau Sgowtiaid Fforiwr (ESU) | Porth Tywyn: Kymer Kites | Alison Owen-Yeates |
| Unedau Sgowtiaid Fforiwr (ESU) | Llanymddyfri: Black Ox | Alison Owen-Yeates |
| Grŵp Gwobr Agored | Caerfyrddin | David Drinkall Lyn Lewis |
| Grŵp Gwobr Agored | Llanelli | Alison Owen-Yeates |


