Alergenau, anoddefiadau a deietau arbennig
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Rydym yn darparu ar gyfer ystod eang o ofynion deietegol arbennig ac yn cynnig dewisiadau i lysieuwyr bob dydd; mae gofynion presennol ein cwsmeriaid yn amrywio ac maent yn cynnwys gofynion coeliag, soia, halal a diabetig.
Hefyd rydym yn darparu prydau i ddisgyblion ag alergenau a/neu anoddefiadau i gynnyrch penodol. Mae gan wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd restr o 14 o alergenau:
- Glwten
- Cramenogion
- Molysgiaid
- Wyau
- Pysgod
- Peanuts
- Cnau
- Ffa soia
- Llaeth
- Seleri
- Mwstard
- Sesame
- Bysedd y blaidd
- Sylffwr Deuocsid ar lefel uwch na 10miligram/cilogram, neu 10 miligram/litr, a nodir fel SO2
Os oes gan eich plentyn ddeiet arbennig a/neu alergedd/anoddefiad i unrhyw un o'r alergenau a restrir uchod, rydym yn gofyn ichi roi gwybod i'r staff arlwyo yn yr ysgol yn syth fel y gellir trefnu a pharatoi prydau ar gyfer eich plentyn/plant.
