Pentref Galwedigaethol Llaenlli
Golwg ar y prosiect
Y cynnig prosiect unigryw hwn oedd gwneud cynnydd o ran agenda drawsnewidiol Llywodraeth Cymru drwy sefydlu 'Pentref Galwedigaethol' cynghreiriol yng nghlwstwr Llanelli o ysgolion uwchradd sy'n cynnwys y pedwar lleoliad dysgu 11-16 presennol, sef Bryngwyn, Coedcae, Glan y Môr a Sant Ioan Llwyd, y lleoliad dysgu dwyieithog 11-19 yn y Strade, ysgol arbennig Heol Goffa a'r sefydliad trydyddol ôl-16 yng Ngholeg Sir Gâr.
Datblygwyd cysyniad y "Pentref Galwedigaethol" ym mhob un o'r sefydliadau dysgu i alluogi disgyblion i ddatblygu cyfleusterau sgiliau galwedigaethol arbenigol ymhellach ar bob un o safleoedd ysgolion uwchradd Llanelli.
Mae'r datblygiad gorffenedig bellach yn darparu'r cyfleusterau canlynol yn benodol:
Bryngwyn - Canolfan Addysg Sgiliau Adeiladu
Sant Ioan Llwyd - cyfleuster hyfforddiant arlwyo arbenigol a bwyty hyfforddi bach
Y Strade - cyfleuster technoleg cerddoriaeth
Coedcae - cyfleuster celfyddydau perfformio a'r cyfryngau
Glan y Môr - cyfleuster gofalu a gofal plant
