Ysgol Dyffryn Aman
Rhydaman, SA18 2NW
- 01269 592441
- admin@dyffrynaman.carms.sch.uk
Golwg ar y prosiect
Fel rhan o'r diwygiadau addysg ehangach yn ardal Cwm Gwendraeth a Dinefwr, cafodd Ysgol Dyffryn Aman fuddsoddiad i drawsnewid a moderneiddio ei darpariaeth addysg. Cafodd y datblygiad, a oedd yn cynnwys estyniad, adnewyddu un o'i hadeiladau presennol a dau adeilad newydd, ei gyflawni mewn pedwar cam.
Mae'r estyniad yn cynnwys ystafell gyffredin newydd i'r chweched dosbarth, llyfrgell, ystafelloedd gweithio i'r staff, labordai gwyddoniaeth a derbynfa. Hefyd, mae Canolfan Amanwy, sef canolfan addysgu arbenigol ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu lluosog, wedi'i lleoli yn un o'r adeiladau newydd.
Roedd y buddsoddiad hefyd yn cynnwys y broses o gaffael tri maes chwaraeon newydd, cae criced, ystafelloedd newid a chawodydd.
Contractiwr
TRJ Ltd
Dyddiad Symud
Medi 2014
