Wernddu, Rhydaman
Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref Wernddu, Heol Trap, Wernddu, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, SA18 2NE

Dydd Oriau agor yr Haf (Ebrill 1 - Medi 30) Oriau agor y gaeaf (Hydref 1 – Mawrth 31)
Dydd Llun 8.30am-6pm 8.30am-4pm
Dydd Mawrth Ar gau Ar gau
Dydd Mercher 8.30am-6pm 8.30am-4pm
Dydd Iau 8.30am-6pm 8.30am-4pm
Dydd Gwener 8.30am-6pm 8.30am-4pm
Dydd Sadwrn 8.30am-6pm 8.30am-4pm
Dydd Sul 8.30am-6pm

Bydd yr holl safleoedd ar gau Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan a byddan nhw'n cau am hanner dydd ar Noswyl Nadolig a Nos Galan. *Dydd Sul 21 a 28 Rhagfyr a dydd Sadwrn 3 Ionawr - Bydd Canolfannau Ailgylchu Trostre a Wernddu ar agor yn y prynhawn yn unig (12-4pm). Bydd Hendy-gwyn ar Daf a Nantycaws ar agor eu horiau arferol ar y dyddiadau hyn.

Byddwch yn gyrru i bob bae yn ei dro. Ni fyddwch yn gallu cerdded rhwng y baeau gwahanol gan y bydd angen cadw pellter cymdeithasol. Rydym yn argymell eich bod yn pacio eich cerbyd er mwyn ei gwneud mor hawdd â phosibl i gael gafael ar eich gwastraff.

Os oes gennych baent, pren, offer garddio, beiciau, offer trydan, celfi, teganau ac eitemau eraill y cartref; dylech ystyried eu rhoi i'n man rhoi eitemau ar y safle. Bydd eitemau a roddir yn cael eu gwerthu yn ein siopau ailddefnyddio.

Ewch i wefan CWM Environmental am restr o'r hyn gellir ei waredu yn y safle hwn, yn ogystal â'r prisiau presennol ar gyfer gwaredu theiars. Hefyd, mae'n bosibl y bydd ein A-Y o Ailgylchu yn ddefnyddiol ichi.

Bae 1: Bagiau glas, peiriannau golchi, ffyrnau, tecstilau, offer cyfryngau, paent, gwydr ffenestri, poteli gwydr, rhoi eitemau, oergelloedd, batris, tecstilau, plastrfwrdd, olew injan, olew llysiau.

Bae 2: Gwastraff cyffredinol

Bae 3: Cardbord. Carpedi rhwng 3 a 4

Bae 4: Metel sgrap

Bae 5: Pren. Plastig caled rhwng 5 a 6

Bae 6: Craidd caled

Bae 8: Bagiau du, bylbiau golau

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Dilynwch yr holl arwyddion ar y safle a chyfarwyddiadau staff.
  • Gwaredu gwastraff y cartref i breswylwyr Sir Gaerfyrddin yn unig.
  • Efallai y bydd angen i chi wneud cais am drwydded am ddim i ddefnyddio'r canolfannau ailgylchu. Lawrlwytho canllaw cerbyd.
  • Ni chaniateir i faniau ceffylau, tractorau, faniau â phanel dros 3.5 o dunelli a'r holl gerbydau gwely gwastad, lorïau codi, cerbydau ag ochrau sy'n disgyn,  faniau bocs na cherbydau â chawell ddefnyddio'n canolfannau ailgylchu.

Bydd angen i chi ddod â'r canlynol i'w dangos i'r gweithiwr ar y safle cyn mynd i mewn:

  • Prawf preswyliaeth, un o'r canlynol - Trwydded yrru, eich bil y Dreth Gyngor gyfredol, bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis)
  • Trwydded os oes angen un ar eich cerbyd.

Mae gennym adran cwestiynau cyffredin gynhwysfawr ar ein gwefan i'ch paratoi ar gyfer eich ymweliad.

Rydym yn argymell eich bod yn didoli deunyddiau y gellir eu hailgylchu oddi wrth y deunyddiau na ellir eu hailgylchu cyn dod i'r ganolfan ailgylchu. Mae modd ailgylchu nifer o eitemau'r cartref, un ai yn eich bag glas neu yn eich bin gwastraff bwyd. Mae modd ailgylchu eitemau eraill megis gwydr, dillad ac eitemau trydanol bach yn y ganolfan ailgylchu neu mewn banciau ailgylchu llai.

Edrychwch ar y A-Y o Ailgylchu i gael gwybod beth y gellir ei ailgylchu.

Os byddwch yn dod â bagiau du i'r ganolfan ailgylchu, bydd angen i chi eu sortio nhw yn ein mannau didoli pwrpasol. Byddwch yn cael menig, ffedogau, gefeiliau a chwistrell gwrthfacteria a bydd biniau wedi'u labelu ar gael er mwyn i chi roi eich deunyddiau ailgylchadwy ynddynt. Bydd arwyddion yn y mannau didoli yn egluro'r hyn y mae angen i chi ei wneud, ond os ydych yn ansicr, bydd staff wrth law i roi cyngor.