Addysg bellach ac uwch

Addysg bellach

Mae cyfleoedd i astudio’n ddwyieithog neu drwy gyfrwng y Gymraeg yng Ngholeg Sir Gâr ar y cyrsiau addysg bellach, addysg uwch a’r prentisiaethau ar bum campws y Coleg.

Mae darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y meysydd canlynol: Chwaraeon, Gwasanaethau Cyhoeddus, Busnes, Celf a Dylunio, Arlwyo, Addysg, Adeiladwaith, Gofal Plant, Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac Amaethyddiaeth.

Gall myfyrwyr gael lleoliadau gwaith dwyieithog a gwella eu sgiliau Cymraeg wrth ddilyn uned gwasanaeth cwsmer yn y meysydd galwedigaethol a fydd o gymorth wrth iddynt fynd i fyd gwaith.

 

Addysg uwch

Mae prifysgolion yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a’r byd yn croesawu myfyrwyr sydd wedi astudio eu pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Y Drindod Dewi Sant yw un o brif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Mae modd astudio nifer cynyddol o raglenni israddedig ac ôlraddedig yn gyfan gwbl neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ar Gampws y Brifysgol yng Nghaerfyrddin gan gynnwys Hyfforddi Athrawon (addysg gynradd), Addysg Gorfforol, Addysg Awyr Agored, Gwaith Ieuenctid a Chymuned, Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar, Astudiaethau Addysg Gynradd, Busnes ac Astudiaethau Crefyddol.

Mae’r Brifysgol yn darparu cefnogaeth i’r myfyrwyr hynny sy’n ansicr ynghylch astudio eu cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddarparu rhaglenni Gloywi Iaith ar y Campws a thrwy apiau a rhaglenni dysgu o bell.

 

Grantiau, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau

Gall pobl ifanc gael bwrsariaeth ar lefel addysg uwch i astudio modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae partneriaeth rhwng Coleg Sir Gâr a’r Brifysgol yn cynnig bwrsariaethau dilyniant i annog myfyrwyr o Goleg Sir Gâr i barhau â’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol. Gall myfyrwyr gynnig am Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.