Safonau maeth ar gyfer prydau ysgol
Diweddarwyd y dudalen ar: 01/10/2024
Mae'r tabl canlynol yn crynhoi'r Safonau Maeth fel eich bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl gan ein bwydlenni sydd wedi'u cynllunio'n ofalus:
| Bwyd | Manylion er enghraifft swm dyddiol / wythnosol, math, dull coginio ac ati |
|---|---|
| Ffrwythau a llysiau | Dim llai na 2 ddogn y dydd y plentyn (mae'n rhaid i un o leiaf fod yn llysiau neu'n salad, ac mae'n rhaid i un o leiaf fod yn ffrwyth). |
| Pysgod olewog | Ar y fwydlen cinio ysgol o leiaf unwaith bob pythefnos. |
| Cynhyrchion tatws wedi'u ffrïo'n ddwfn | Rhaid peidio â gweini tatws a chynhyrchion tatws sydd wedi'u coginio mewn braster/olewau yng nghegin yr ysgol neu wrth eu cynhyrchu fwy na dwywaith yr wythnos. |
| Cynhyrchion wedi'u ffrio'n ddwfn | Rhaid peidio â gweini eitemau bwyd eraill (heblaw am datws) sydd wedi eu coginio mewn braster/olewau yng nghegin yr ysgol neu wrth eu cynhyrchu fwy na dwywaith yr wythnos. |
| Cynhyrchion cig wedi'u cynhyrchu | Ni ddylai gael ei adffurfio/ailansoddi. |
| Bara (heb y taeniad) | Dylid annog bwyta amrywiaeth o fara gan gynnwys bara gwenith cyflawn. |
| Olewau a Thaeniadau | Dim ond olewau a thaeniadau sydd â llawer o fraster aml-annirlawn a/neu mono-annirlawn y gellir eu defnyddio |
| Byrbrydau melys a sawrus | Dim ar gael |
| Halen | Dim yn cael ei ychwanegu at lysiau yn ystod coginio. Cyfyngu ar halen o ryseitiau neu ei waredu a defnyddio yn ei le berlysiau a sbeisys derbyniol. Dim ar gael ar y byrddau cinio nac wrth y cownter gweini. |
