Heb fod mewn addysg na chyflogaeth? Gallwn ni helpu!
Diweddarwyd y dudalen ar: 11/04/2025
Os ydych chi rhwng 16 a 25 oed a heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant, gallwn ni eich helpu chi mewn meysydd megis tai, budd-daliadau a mynediad i gyfleoedd, a rhoi cymorth ichi weld pa ddewisiadau sydd ar gael ichi.
Gallwn ni hefyd helpu os ydych chi'n ddigartref, â phroblemau ariannol, wedi troseddu, â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau, perthnasoedd neu iechyd meddwl.
Rydym yn cynnal amrywiaeth o sesiynau galw heibio ledled Sir Gaerfyrddin. Galwch heibio i'n gweld ni am sgwrs a choffi!
| Ble? | Diwrnod(au) | Amser |
|---|---|---|
| Canolfan Ieuenctid Dr. M'z, Caerfyrddin | Dydd Mawrth | 12:00 - 16:00 |
| Canolfan Ieuenctid Streets, Rhydaman | Dydd Mercher | 13:00 - 16:00 |
| Canolfan Ieuenctid y Bwlch, Llanelli | Dydd Mercher | 14:00 - 16:00 |





