Cwricwlwm ac Atal

Mae ein cwricwlwm ABCh (Addysg Bersonol a Chymdeithasol) ac Iechyd a Llesiant yn dysgu:

  • Defnydd cyfrifol o'r cyfryngau cymdeithasol
  • Ymwybyddiaeth o ba apiau sy'n briodol i'r oedran
  • Diogelwch ar-lein a dinasyddiaeth ddigidol

Darperir cymorth hefyd trwy:

  • Gynnal gwasanaethau ysgol ar ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel 
  • Rhaglen Cyswllt Heddlu'r Ysgol

Caiff disgyblion eu hannog i fod yn gyfrifol am eu hymddygiad a meddwl am ganlyniadau gweithredoedd ar-lein mewn bywyd go iawn, iddyn nhw eu hunain ac i eraill.

Cyflwyniadau PowerPoint:

Olion traed digidol

Secstio

Seiberfwlio

Dylanwadwyr ar-lein