Beth ydym ni'n ei wneud?
Diweddarwyd y dudalen ar: 12/10/2023
Nid oes un ateb neu weithgaredd a fydd yn dwyn ffrwyth ar unwaith. Yr unig ffordd o lwyddo yw trwy sicrhau bod asiantaethau, gyda chymorth y gymuned, yn cydweithio er mwyn darparu triniaeth hirdymor gynaliadwy. Rydym yn gweithio ar draws Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin fel rhan o Fwrdd Cynllunio Rhanbarthol i gyflawni ein nodau strategol o ran rhoi sylw i gamddefnyddio sylweddau. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ledled Sir Gaerfyrddin mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Ymddiriedolaeth Brawf Cymru a'r Trydydd Sector.
Nid oes un ateb neu weithgaredd a fydd yn dwyn ffrwyth ar unwaith. Yr unig ffordd o lwyddo yw trwy sicrhau bod asiantaethau, gyda chymorth y gymuned, yn cydweithio er mwyn darparu triniaeth hirdymor gynaliadwy.
Rydym yn gweithio ar draws Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin fel rhan o Fwrdd Cynllunio Rhanbarthol i gyflawni ein nodau strategol o ran rhoi sylw i gamddefnyddio sylweddau.
Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ledled Sir Gaerfyrddin mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Ymddiriedolaeth Brawf Cymru a'r Trydydd Sector.
Mae hyn yn cynnwys:
- gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd
- gwasanaethau i oedolion gan gynnwys:
- gwasanaethau galw heibio a mynediad uniongyrchol
- cyfnewid nodwyddau a chwistrellau
- cyngor a gwybodaeth
- llety a mynediad i ailsefydlu preswyl
- presgripsiynau cyfnewid, dadwenwyno ac ymyriadau meddygol eraill,
- rhaglenni gwaith grŵp a chwnsela strwythuredig
- cymorth i gael mynediad i gyflogaeth a hyfforddiant
Ein nod yw darparu'r gwasanaeth sydd ei angen ar bobl er mwyn lleihau'r niwed a achosir gan gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Mae Tîm Camddefnyddio Sylweddau Cyngor Sir Caerfyrddin yn dîm o weithwyr cymdeithasol sydd wedi cael hyfforddiant a phrofiad o ran ymdrin â chamddefnyddio sylweddau.
Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
A ydych chi'n poeni am oedolyn/blentyn?
Taliadau am ofal yn y cartref
Sut i gysylltu â ni
Cyfleoedd dydd
Dementia
Taliadau Uniongyrchol
Anabledd ac Awtistiaeth
Camddefnyddio cyffuriau / alcohol
Taflenni gwybodaeth
Mynd yma ac acw
Sut i gael help
Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol
Iechyd Meddwl
Mwy ynghylch Gofal Cymdeithasol ac Iechyd