Ysgol Gynradd Gymunedol Porth Tywyn
Parc Elkington, Porth Tywyn, SA16 6AU

Golwg ar y Prosiect

Ar ôl cwblhau gweithdrefnau statudol yn llwyddiannus, sefydlwyd Ysgol Gynradd Gymunedol newydd 3-11 Porth Tywyn ar 1 Medi 2013 gan weithredu i ddechrau ar safle rhanedig (hen safleoedd Ysgol Babanod Porth Tywyn ac Ysgol Iau Porth Tywyn).

Ar 1 Medi 2015 agorodd Ysgol Gynradd Gymunedol newydd Porth Tywyn ei drysau ar hen safle Ysgol Babanod Porth Tywyn. Dyma'r Ysgol Passivhaus gyntaf yng Nghymru ac mae’n darparu lle i 210 o ddisgyblion a 30 o leoedd meithrin. Safon wirfoddol drylwyr yw Passivhaus ar gyfer effeithlonrwydd ynni mewn adeilad er mwyn lleihau ei ôl troed ecolegol. Roedd y datblygiad newydd yn darparu estyniad ar gyfer CA2 a POD (ail neuadd) i ffurfio cyswllt rhwng yr adeilad presennol a'r estyniad yn ogystal ag adnewyddu'r tu mewn i’r adeilad presennol. 

Contractiwr

WRW Ltd

Dyddiad Symud

1 Medi 2015

Addysg ac Ysgolion