Ysgol Rhys Prichard

  • fideo

Golwg ar y Prosiect

Roedd y prosiect hwn yn cynnwys adleoli Ysgol Rhys Prichard o'i safle presennol i safle hen ysgol uwchradd Ysgol Pantycelyn. O ganlyniad, cynyddodd capasiti'r ysgol i 240 o leoedd i ddisgyblion ac roedd darpariaeth ar gyfer Cylch Meithrin allanol wedi'i integreiddio yn adeilad newydd yr ysgol. Roedd y prosiect hwn yn cynnig cyfle unigryw i ddefnyddio safle ysgol uwchradd, a oedd yn segur, i wella darpariaeth ysgolion cynradd yn Llanymddyfri yn sylweddol. Roedd yr ysgol yn cynnwys gwell cyfleusterau i'w rhannu gyda'r gymuned leol gan olygu bod yr ysgol yn ganolbwynt cymunedol ar gyfer tref Llanymddyfri.

Contractiwr

Lloyd & Gravell Ltd

Dyddiad Symud

22 Chwefror 2021

Addysg ac Ysgolion