Ysgol Y Felin
Felinfoel, Llanelli, SA14 8BE

Golwg ar y Prosiect

Roedd y datblygiad yn Ysgol y Felin, Llanelli yn gyfystyr â gwaith adfywio campws yr ysgol gynradd a'r uned Arbennig yn ffisegol.  Aethpwyd ati i ddarparu Ysgol Gynradd gymunedol ar gyfer yr ystod oedran 4-11 ar safle'r ysgol bresennol gyda 210 o leoedd i ddisgyblion cynradd a 30 o leoedd meithrin.  Roedd Canolfan Blant Integredig newydd ac ailwampio'r Uned Arbennig bresennol hefyd yn rhan o'r prosiect.  Cafodd y prosiect ei gyflawni'n ofalus fesul cam fel bod yr ysgol bresennol yn aros yn weithredol, gan gadw holl ddefnyddwyr yr ysgol yn ddiogel ar y safle drwy gydol y cyfnod adeiladu.

Contractiwr

Cowlin Construction

Dyddiad Symud

Mehefin 2011

Addysg ac Ysgolion