Ysgol Bro Dinefwr
Ffairfach, Llandeilo, SA19 6PE

  • fideo

Golwg ar y prosiect

Roedd sefydlu Ysgol Bro Dinefwr, sef ysgol ddwyieithog categori 2B 11-19, yn rhan o'r diwygiadau addysg ehangach yn ardal Cwm Gwendraeth a Dinefwr. Roedd Ysgol Bro Dinefwr yn cymryd lle ysgolion uwchradd Pantycelyn a Thre-gib.

Mae'r ysgol newydd, sydd wedi'i lleoli yn Ffair-fach, yn darparu ar gyfer 1,200 o ddisgyblion yr ardal, gan gynnwys chweched dosbarth ar gyfer 200 o ddisgyblion a darpariaeth arbenigol ar gyfer 30 o ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae'r ysgol yn darparu ystod o ddarpariaeth cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar gampws modern sydd â chyfleusterau o'r radd flaenaf.

Hefyd, mae'r ysgol yn darparu adeiladau a chyfleusterau o'r radd flaenaf yn ogystal â chyrsiau galwedigaethol o safon ar y cyd ag ysgolion eraill ardal Dinefwr a Choleg Sir Gâr.

Contractiwr

Bouygues

Dyddiad symud

Medi 2016

Addysg ac Ysgolion