Ysgol Dyffryn Aman
Rhydaman, SA18 2NW

Golwg ar y prosiect

Fel rhan o'r diwygiadau addysg ehangach yn ardal Cwm Gwendraeth a Dinefwr, cafodd Ysgol Dyffryn Aman fuddsoddiad i drawsnewid a moderneiddio ei darpariaeth addysg. Cafodd y datblygiad, a oedd yn cynnwys estyniad, adnewyddu un o'i hadeiladau presennol a dau adeilad newydd, ei gyflawni mewn pedwar cam.

Mae'r estyniad yn cynnwys ystafell gyffredin newydd i'r chweched dosbarth, llyfrgell, ystafelloedd gweithio i'r staff, labordai gwyddoniaeth a derbynfa.   Hefyd, mae Canolfan Amanwy, sef canolfan addysgu arbenigol ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu lluosog, wedi'i lleoli yn un o'r adeiladau newydd.

Roedd y buddsoddiad hefyd yn cynnwys y broses o gaffael tri maes chwaraeon newydd, cae criced, ystafelloedd newid a chawodydd.

Contractiwr

TRJ Ltd

Dyddiad Symud

Medi 2014

Addysg ac Ysgolion