Ysgol Rhys Prichard
Ysgol Rhys Prichard, Cilycwm Road, Llandovery, SA20 0DY

Golwg ar y Prosiect

Mae'r Grant Canolfannau Cymunedol yn fenter newydd gan Lywodraeth Cymru a lansiwyd yn 2019. Prif ddiben y Grant Canolfannau Cymunedol yw defnyddio buddsoddiad cyfalaf i hwyluso defnydd cymunedol o asedau addysgol.  Gellir defnyddio'r grant i addasu asedau at ddefnydd ehangach y gymuned, darparu cyfleusterau arbenigol i ehangu'r defnydd posibl o'r ased dan sylw neu greu lle addas i'r diben ar gyfer y gymuned.

Yn dilyn cais llwyddiannus am gyllid, cafodd prosiect ysgol Moderneiddio Addysg Ysgol Rhys Prichard gyllid grant cymunedol ychwanegol o £350,000 gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r Grant Canolfannau Cymunedol wedi darparu cyfleuster hamdden sy'n defnyddio 3 o'r ystafelloedd sydd wedi'u cynnwys yn adeilad newydd yr ysgol i weithio ochr yn ochr â'r pwll nofio presennol sydd wedi'i leoli gerllaw'r ysgol, gan ddarparu cyfleuster hamdden ardderchog ar gyfer cymuned Llanymddyfri.

Costau'r prosiect

Cafwyd Grant Canolfannau Cymunedol gwerth £350,000 gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cyfleuster hamdden wedi'i integreiddio i'r adeilad ysgol newydd.

Contractiwr

Lloyd & Gravell Ltd

Dyddiad Symud

Mai 2021

Addysg ac Ysgolion