Negeseuon atgoffa am gasgliadau ar e-bost/neges destun
Diweddarwyd y dudalen ar: 25/10/2023
Gallwch bellach gofrestru i dderbyn naill ai e-bost neu neges destun i’ch atgoffa am eich casgliadau ailgylchu a bagiau du.
Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn cael ei lansio ym mis Ionawr 2023 ar yr un pryd ag y byddwn yn gwneud rhai newidiadau i'ch casgliadau ailgylchu a bagiau du.
O 23 Ionawr 2023 ymlaen:
- Byddwn yn casglu gwydr o gartrefi bob tair wythnos
- Bydd eich bag glas yn cael ei gasglu bob wythnos, ynghyd â'ch bin bwyd gwyrdd
- Bydd bagiau du hefyd yn cael eu casglu bob tair wythnos, uchafswm o dri bag
Mae hyn yn golygu y gallai eich diwrnodau casglu newid hefyd.
Er mwyn gwneud hyn yn haws, rydym yn lansio'r gwasanaeth atgoffa hwn i roi gwybod i chi beth sy'n cael ei gasglu a phryd.
Mae hefyd yn cynnwys negeseuon atgoffa am wastraff hylendid/cewynnau a gwastraff gardd os ydych wedi cofrestru am y gwasanaethau hyn.
Sut mae cofrestru?
Os nad oes gyda chi gyfrif Hwb yn barod, bydd angen i chi greu un. Ticiwch y blwch i dewiswch naill ai negeseuon atgoffa ar e-bost neu neges destun wrth i chi fynd drwy'r broses gofrestru.
Os oes gennych gyfrif Hwb eisoes, bydd angen mewngofnodi a newid eich dewisiadau.
I wneud hyn:
- Cliciwch ar eich enw yn y gornel dde uchaf ac yna
- Dewiswch 'Golygu Proffil’.
- Cliciwch ar 'Dewisiadau' ac yna ticiwch y blwch ar gyfer negeseuon atgoffa am gasgliadau biniau a dewiswch naill ai e-bost neu neges destun.
Mae'n costio i ni anfon negeseuon testun, ond mae e-byst am ddim, felly byddem yn eich annog i ddewis yr opsiwn hwn os yn bosib.
Er mwyn dad-danysgrifio neu newid eich dewisiadau ar gyfer y gwasanaeth hwn:
- Mewngofnodwch i'ch cyfrif Hwb
- Cliciwch ar eich enw ar y gornel dde uchaf
- Dewiswch 'Golygu Proffil'
- Cliciwch ar 'Dewisiadau' a dileu'r tic o'r blwch/diwygio
Os ydych wedi newid cyfeiriad ers sefydlu eich cyfrif Hwb, dylech wirio a diweddaru eich manylion er mwyn derbyn y wybodaeth gywir.
Ailgylchu, Biniau a Sbwriel
Ailgylchu / casgliadau biniau
- Bagiau du
- Sbwriel heb ei gasglu
- A-Y o Ailgylchu
- Tarfu ar gasgliadau gwastraff/ailgylchu
- Negeseuon atgoffa am gasgliadau ar e-bost/neges destun
- Gwasanaeth casglu gwydr
Bagiau glas - Ailgylchu
Gwastraff bwyd
Gwastraff gardd
Canolfannau Ailgylchu
Beth sy'n digwydd i'ch ailgylchu
Cwestiynau Cyffredin - Ailgylchu a gwastraff
Gwastraff swmpus
Gwastraff busnes
Mwy ynghylch Ailgylchu, Biniau a Sbwriel