Beth sy'n digwydd i'ch ailgylchu

Diweddarwyd y dudalen ar: 22/01/2024

Yn Sir Gaerfyrddin mae'r holl wastraff yn cael ei gludo i'r Cyfleuster Adennill Deunyddiau yn Nant-y-caws i'w ddidoli. Mae eitemau o'r bagiau glas yn cael eu hanfon i amrywiol gyfleusterau prosesu ar draws y wlad i'w gweddnewid yn nwyddau newydd Felly, gall eich can diod ddod yn rhan o awyren newydd, neu ddod yn gan newydd o fewn 6 wythnos yn unig!

Defnyddir y bwyd rydym yn ei gasglu o’ch bin bwyd i gynhyrchu trydan ac i wneud gwrtaith. Gall 6 bag te sydd wedi'u hailgylchu gynhyrchu digon o drydan i ferwi tegell am baned arall.

Rydym hefyd yn casglu gwastraff gardd, sy'n cael ei droi'n gompost neu'n gyflyrydd pridd ac mae ar gael i'w brynu yn y canolfannau ailgylchu.

Ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin rydym yn ailgylchu tua 64% o'n gwastraff. Mae unrhyw beth na allwn ei ailgylchu yn cael ei wneud yn danwydd lle bo hynny'n bosibl. Yn 2019 dim ond 10% o gyfanswm ein gwastraff gafodd ei anfon i safleoedd tirlenwi, ond mae angen i ni wneud mwy i leihau ein gwastraff ac ailgylchu popeth y gallwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed statudol ar gyfer ailgylchu sef ailgylchu 70% erbyn 2025 ac i Gymru fod yn genedl ddiwastraff (ailgylchu 100%) erbyn 2050. Os na fyddwn yn llwyddo i gyrraedd y targedau, gallem wynebu cosbau ariannol mawr, a fydd yn effeithio ar bob un ohonom sy’n drigolion yn y Sir. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n drydydd yn y byd o ran ailgylchu, helpwch ni i gyrraedd y safle cyntaf.