Tarfu ar gasgliadau gwastraff/ailgylchu

Diweddarwyd y dudalen ar: 26/04/2024

Rhyn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad. Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.

Fel arfer mae casgliadau gwastraff yn digwydd rhwng 6am a 2pm, heblaw am y gwasanaeth gwastraff hylendid a chewynnau, a ddarperir fel arfer rhwng 7am a 3pm. Fodd bynnag, gall fod yna achlysuron pryd y byddwn yn gweithio y tu allan i'r oriau hyn.

Nid oes unrhyw amhariad ar ein gwasanaethau ar hyn o bryd.

Dyddiad Ardal wedi'i effeithio Math o wastraff wedi'i effeithio Rheswm Cyngor
         

 

Rhoi gwybod am finiau sydd heb eu casglu

Peidiwch â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 2pm oni bai mai gwastraff hylendid neu gewynnau ydyw, os felly arhoswch tan ar ôl 3pm. Mae hyn er mwyn rhoi digon o amser i'r criwiau fod wedi cwblhau eich ardal.