Y Telerau a'r Amodau wastraff gardd

Diweddarwyd y dudalen ar: 16/02/2024

Dyma'r telerau a'r amodau rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin SA31 1JP a'r cwsmer o ran y gwasanaeth Gwastraff Gardd.

Y Gwasanaeth

1. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i drigolion Sir Gaerfyrddin, at ddefnydd y cartref yn unig.

2. Bydd casgliadau'n digwydd ar y diwrnod casglu gwastraff gardd cyntaf ar ôl i chi dderbyn eich bin a phob pythefnos ar ôl hynny. Byddwch yn cael hysbysiad ar unwaith ynghylch diwrnod ac wythnos y casgliad os byddwch yn archebu ar-lein. Fel arall, os byddwch yn archebu drwy ddefnyddio dulliau eraill, byddwch yn cael gohebiaeth yn nodi'r diwrnod casglu a'r wythnos gasglu.

3. Dylid storio'r bin(iau) ar eich eiddo a'u gosod allan erbyn 6am ar y diwrnod casglu. Os byddwn yn cael galwad gennych yn ein hysbysu na chasglwyd eich bin, byddwn yn cyfeirio at ein system camerâu sydd ar ein cerbydau i ddarganfod a oedd y bin wedi'i osod allan i'w gasglu. Ni fyddwn yn galw eto os nad oedd y bin yno adeg y casgliad.

4. Mae'n rhaid gosod yr holl wastraff gardd yn rhydd yn y bin ac mae'n rhaid i glawr y bin fod ar gau cyn ei
gasglu. Ni fyddwn yn casglu'r canlynol;

  • Gwastraff gardd mewn bagiau
  • Biniau sy'n gorlifo
  • Biniau sy'n rhy drwm
  • Biniau sy'n cynnwys eitemau na chaniateir (gellir gweld rhestr lawn ar ein gwefan)

5. Mae'n bosibl na fydd pob eiddo yn addas ar gyfer y gwasanaeth hwn oherwydd cyfyngiadau mynediad i'n cerbydau casglu. Yn yr achos hwnnw, rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r gwasanaeth casglu gwastraff gardd yn ôl a byddwn yn rhoi gwybod i chi am hyn. Os oes taliad wedi cael ei brosesu bydd ad-daliad llawn yn cael ei roi.

Dosbarthu whilfin(iau) a chasgliadau gwastraff gardd

6. Ein nod yw danfon y bin(iau) atoch cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich taliad. Fodd bynnag, efallai na fydd hyn yn bosibl ar bob achlysur. Byddwch yn cael gwybod am unrhyw oedi.

7. Mae'r bin(iau) yn parhau i fod yn eiddo i'r cyngor ac ni ddylid eu difwyno nac ysgrifennu arnynt mewn unrhyw fodd. Mae cwsmeriaid yn gyfrifol am gadw eu cynwysyddion yn lân a dychwelyd y biniau i'w heiddo preswyl cyn gynted ag y mae'r casgliadau wedi cael eu gwneud. Rhaid rhoi gwybod ar unwaith am fin(iau) sydd wedi'u difrodi neu wedi'u dwyn drwy'r ffurflen ar-lein neu drwy ffonio 01267 234567. Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i godi tâl am ddarparu cynhwysydd newydd yn lle un sydd wedi'i ddifrodi oherwydd camddefnydd gan y cwsmer.

8. Os nad yw'r cerbyd neu'r criw casglu yn gallu cael mynediad i'ch eiddo oherwydd bod y ffordd fynediad wedi'i rhwystro, bydd y cyngor yn ymdrechu i ddychwelyd unwaith y bydd yr ardal yn glir. Mewn amgylchiadau eithriadol, os yw cerbyd casglu yn methu'n gyson â chasglu'r bin(iau) efallai y gofynnir i drigolion fynd â'u cynwysyddion i fan casglu y cytunir arno.

9. Yn dibynnu ar y galw efallai na fyddwch yn cael bin newydd ac efallai y byddwch yn hytrach yn cael bin sydd wedi'i ddychwelyd gan gwsmer blaenorol. Yn yr achos hwn byddwn yn glanhau ac yn golchi'r bin cyn ei ddosbarthu.

10. Ni fydd yr Awdurdod yn gyfrifol am unrhyw anaf neu ddifrod a ddigwydd yn sgil defnyddio'r bin neu o achos fod y bin yn symud, ac eithrio os bydd marwolaeth neu anaf personol yn ganlyniad i esgeulustod ar ran y cyngor neu'i weithwyr.

11. Ni fydd whilfiniau yn cael eu casglu oddi wrthych ar ddiwedd pob tymor. Dylid eu cadw a'u storio ar gyfer y tymor nesaf.

Taliadau a thanysgrifiadau

12. Caiff y tanysgrifiadau eu hadnewyddu'n flynyddol ar ddechrau'r tymor. Bydd y contract yn dod i ben ar ddiwedd pob tymor. Gall dyddiadau'r tymor newid. Bydd cwsmeriaid presennol yn cael hysbysiad adnewyddu bob blwyddyn ar gyfer gwasanaeth y flwyddyn sydd i ddod, cyn daw'r dyddiad cau ar gyfer talu.

13.Bydd y taliadau ar gyfer y gwasanaeth yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan. Nid oes consesiynau ar gael ar gyfer y gwasanaeth hwn. 

14. Ar ôl derbyn eich mandad Debyd Uniongyrchol, sicrhewch eich bod yn ei gwblhau ac yn ei ddychwelyd i'r cyfeiriad a ddarperir o fewn 28 diwrnod i'ch cais. Bydd methu â gwneud hyn yn arwain at ganslo'r cais a bydd yn ofynnol i chi wneud cais am y gwasanaeth eto.

15. Byddwch yn talu'r pris llawn pa bynnag adeg o'r flwyddyn rydych yn tanysgrifio i'r gwasanaeth. Ar ôl i'r casgliadau o'ch whilfin ddechrau, ni fydd ad-daliad yn cael ei roi os byddwch yn;

  • penderfynu canslo'r gwasanaeth ar unrhyw adeg yn ystod y tymor
  • os nad oes modd i'r cyngor wneud casgliadau am resymau sydd y tu hwnt i'w reolaeth
  • os byddwch yn rhoi gwybod na chasglwyd eich bin ond bod ein hymholiadau'n cadarnhau nad

oedd y bin wedi'i osod yn y man casglu arferol ar adeg y casgliad

16. Os nad ydych yn adnewyddu'r contract gwastraff gardd am y tymor newydd mae'n ofynnol eich bod yn cysylltu â ni drwy anfon neges e-bost at Gwastraff.Gardd@sirgar.gov.uk i wneud trefniadau i gasglu'r bin. Codir tâl o £53 ar y rheiny sy'n methu ag ildio'r bin.

17. Os byddwch yn digwydd symud tŷ o fewn Sir Gaerfyrddin dylech drefnu eich bod yn mynd â'ch bin gwastraff gardd gyda chi. Rhowch wybod i ni o leiaf 10 diwrnod gwaith cyn i chi symud er mwyn i ni sicrhau bod eich bin yn cael ei wagio yn eich cyfeiriad newydd a rhowch wybod am unrhyw newidiadau i'ch manylion cyswllt personol. Yn yr un modd, os byddwch yn symud y tu allan i'r sir cysylltwch â ni er mwyn i ni allu gwneud trefniadau i gasglu'r bin. Anfonwch neges e-bost atom; Gwastraff.Gardd@sirgar.gov.uk

Canslo'r gwasanaeth

18. Mae gennych yr hawl i ganslo'r contract hwn cyn pen 14 diwrnod ar ôl cytuno arno, heb fod angen rhoi rheswm. Os byddwch yn arfer yr hawliau canslo statudol hyn, byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi o fewn 14 diwrnod i ganslo. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch eich hawliau canslo, a sut i'w harfer, gweler y Cyfarwyddiadau canslo a'r ffurflen ganslo enghreifftiol yn yr Atodlen sy'n cyd-fynd â'r telerau a'r amodau hyn.

Ein hawl i derfynu'r gwasanaeth

19. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw'r hawl i derfynu'r gwasanaeth hwn ar unrhyw adeg os digwydd y canlynol:

a) Ein bod yn penderfynu nad yw eich eiddo yn addas ar gyfer y gwasanaeth hwn oherwydd bod y mynediad ato wedi'i gyfyngu. Darperir ad-daliad llawn.
b) Eich bod yn methu â gwneud unrhyw daliadau i'r cyngor sy'n ddyledus o dan y contract hwn, ar yr adeg briodol. Ni fydd ad-daliad yn cael ei roi am arian a dderbyniwyd ac rydych yn dal i fod yn gyfrifol am dalu cost flynyddol y gwasanaeth yn llawn.
c) Eich bod yn gyson yn gosod eitemau i'w casglu nad ydynt yn gymwys i gael eu hystyried yn wastraff gardd, neu sy'n eitemau na chaniateir a restrir ar ein gwefan.

Ni fydd ad-daliad yn cael ei roi am arian a dderbyniwyd ac rydych yn dal i fod yn gyfrifol am dalu cost flynyddol y gwasanaeth yn llawn.

Eich hawl i derfynu

20. Yn ogystal â'ch hawliau canslo statudol (yng nghymal 17) gallwch derfynu'r contract hwn ar unrhyw adeg drwy roi 7 diwrnod o rybudd yn ysgrifenedig. Os byddwch yn terfynu'r contract o dan y cymal hwn, ni fyddwn yn rhoi ad-daliad i chi.

 

Cyfarwyddiadau canslo

Yr hawl i ganslo

Mae gennych yr hawl i ganslo'r contract hwn cyn pen 14 diwrnod, heb fod angen rhoi rheswm.

Bydd y cyfnod canslo yn dod i ben ymhen 14 diwrnod ar ôl cytuno ar y contract.

Er mwyn arfer yr hawl i ganslo'r contract hwn rhaid i chi roi gwybod i ni am eich penderfyniad i ganslo, a hynny drwy ddatganiad clir (e.e. llythyr drwy'r post neu e-bost).Gallwch wneud hynny:


Drwy ysgrifennu atom:

Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 1JP

Drwy roi galwad ffôn inni: 01267 234567

Drwy anfon e-bost atom: Gwastraff.Gardd@sirgar.gov.uk

Er mwyn bodloni'r dyddiad cau ar gyfer canslo mae'n ddigon i chi anfon eich neges ynghylch arfer yr hawl i ganslo cyn bod y cyfnod canslo yn dod i ben.

Effeithiau canslo

Os byddwch yn canslo'r contract hwn byddwn yn ad-dalu ichi bob taliad a dderbyniwyd oddi wrthych.

Byddwn yn ad-dalu yn ddiymdroi, heb fod yn hwyrach nag 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y byddwn yn cael gwybod am eich penderfyniad i ganslo'r contract hwn.

Byddwn yn ad-dalu gan ddefnyddio'r un dull talu a ddefnyddiwyd gennych yn wreiddiol, oni bai eich yn rhoi gwybod i ni fel arall; beth bynnag, ni fyddwch yn gorfod talu unrhyw ffioedd o ganlyniad i'r ad-daliad